No themes applied yet
Drygioni’r ddynoliaeth
1Wrth i boblogaeth y byd dyfu ac i ferched gael eu geni, 2dyma’r bodau nefol yn gweld fod merched dynol yn hardd. A dyma nhw’n cymryd y rhai roedden nhw’n eu ffansïo i fod yn wragedd iddyn nhw’u hunain. 3Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Alla i ddim gadael i bobl fyw am byth. Maen nhw’n greaduriaid sy’n mynd i farw, ac o hyn ymlaen fyddan nhw ddim yn byw fwy na 120 mlynedd.” 4Roedd cewri yn byw ar y ddaear bryd hynny (ac wedyn hefyd). Nhw oedd y plant gafodd eu geni ar ôl i’r bodau nefol gael rhyw gyda merched dynol. Dyma arwyr enwog yr hen fyd.
5Roedd yr ARGLWYDD yn gweld bod y ddynoliaeth bellach yn ofnadwy o ddrwg. Doedden nhw’n meddwl am ddim byd ond gwneud drwg drwy’r amser. 6Roedd yr ARGLWYDD yn sori ei fod e wedi creu’r ddynoliaeth. Roedd wedi’i frifo a’i ddigio. 7Felly dyma fe’n dweud, “Dw i’n mynd i gael gwared â’r ddynoliaeth yma dw i wedi’i chreu. Ydw, a’r anifeiliaid, yr holl ymlusgiaid a phryfed a’r adar hefyd. Dw i’n sori mod i wedi’u creu nhw yn y lle cyntaf.”
8Ond roedd Noa wedi plesio’r ARGLWYDD.
Noa
9Dyma hanes Noa a’i deulu:
Roedd Noa yn ddyn da – yr unig un bryd hynny oedd yn gwneud beth roedd Duw eisiau. Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw. 10Roedd ganddo dri mab, sef Shem, Cham a Jaffeth.
11Roedd y byd wedi’i sbwylio yng ngolwg Duw. Roedd trais a chreulondeb ym mhobman. 12Gwelodd Duw fod y byd wedi’i sbwylio go iawn. Roedd pawb yn gwneud drwg. 13Felly dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dw i wedi penderfynu bod rhaid i bawb gael eu dinistrio. Mae trais a chreulondeb ym mhobman, felly dw i’n mynd i’w dinistrio nhw, a’r byd hefo nhw. 14Dw i am i ti adeiladu arch, sef cwch mawr, wedi’i gwneud o goed goffer. Rhanna hi yn ystafelloedd a’i selio hi y tu mewn a’r tu allan â phyg. 15Gwna hi’n 130 metr o hyd, 22 metr o led ac 13 metr o uchder. 16Rho do ar yr arch, ond gad fwlch o 45 centimetr rhwng y to ac ochrau’r arch. Rho ddrws ar ochr yr arch, ac adeilada dri llawr ynddi – yr isaf, y canol a’r uchaf. 17Dw i’n mynd i ddod â llifogydd ar y ddaear a boddi popeth sy’n anadlu. Bydd popeth byw yn marw. 18Ond bydda i’n gwneud ymrwymiad i ti. Byddi di’n mynd i mewn i’r arch – ti a dy feibion, dy wraig di a’u gwragedd nhw.
19“Dw i am i ti fynd â dau o bob math o anifail i’r arch hefo ti i’w cadw’n fyw, sef un gwryw ac un benyw. 20Dau o bob math o adar, pob math o anifeiliaid a phob math o ymlusgiaid – bydd dau o bopeth yn dod atat ti i’w cadw’n fyw. 21Dos â bwyd o bob math gyda ti hefyd, a’i storio. Digon o fwyd i chi ac i’r anifeiliaid.”
22A dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015