No themes applied yet
Bydd Israel a Jwda’n cael eu barnu
1Gwrandwch, chi offeiriaid!
Daliwch sylw, bobl Israel!
Clywch, chi’r teulu brenhinol!
Mae’r farn ar fin dod arnoch!
Dych chi wedi bod fel trap i bobl Mitspa,
a rhwyd i ddal pobl Tabor;
2yn wrthryfelwyr wedi achosi lladdfa ddifrifol,
a bydda i’n eich cosbi chi i gyd.
3Dw i’n gwybod yn iawn am Effraim.5:3 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan.
Dydy Israel ddim yn gallu cuddio oddi wrtho i!
Rwyt ti Effraim wedi troi at buteinio –
mae Israel wedi’i llygru’n llwyr.
4Mae eu drygioni’n eu rhwystro
rhag troi yn ôl at eu Duw.
Mae puteindra ysbrydol wedi’u meddiannu,
a dŷn nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD.
5Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn.
Bydd Israel ac Effraim yn syrthio o achos eu drygioni.
A bydd Jwda, hefyd, yn syrthio gyda nhw.
6Wedyn, byddan nhw’n mynd at yr ARGLWYDD
gyda’i defaid a’u geifr a’u bustych.
Ond bydd yn rhy hwyr! Bydd e wedi’u gadael nhw.
7Maen nhw wedi bradychu’r ARGLWYDD
ac maen nhw wedi cael plant siawns.
Yn fuan iawn, ar ŵyl y lleuad newydd,
byddan nhw a’u tir yn cael eu difa.
Rhybudd fod y farn yn dod
8Chwythwch y corn hwrdd5:8 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. yn Gibea!
Canwch utgorn yn Rama!
Rhybuddiwch bobl Beth-afen!5:8 Beth-afen gw. y nodyn ar 4:15. Mae Gibea tua 5 milltir i’r gogledd o Jerwsalem, Rama tua 8 milltir, a Bethel tua 11 milltir.
Ti fydd gyntaf, Benjamin!
9Bydd Effraim yn cael ei dinistrio ar ddydd y cosbi!
Mae beth dw i’n ddweud wrth lwythau Israel
yn mynd i ddigwydd.
10Mae arweinwyr Jwda fel rhai sy’n symud terfyn i ddwyn tir;5:10 Deuteronomium 27:17
a bydda i’n tywallt fy llid arnyn nhw fel llifogydd!
11Bydd Effraim5:11 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. yn cael ei orthrymu,
a’i sathru pan fydda i’n barnu;
am ei fod wedi penderfynu dilyn eilunod diwerth.
12Bydda i fel gwyfyn yn difa Effraim,
fel pydredd i bobl Jwda.
13Pan welodd Effraim ei fod yn sâl,
a Jwda’n gweld ei ddolur,
dyma Effraim yn troi at Asyria
am help gan ‘y brenin mawr’.
Ond dydy e ddim yn gallu dy helpu.
Fydd e ddim yn gwella dy glwyf!
14Fi sy’n ymosod ar Effraim a Jwda,
fel llew yn rhwygo’i ysglyfaeth.
Fi – ie, fi! Bydda i’n eu rhwygo nhw’n ddarnau
a’u cario nhw i ffwrdd.
Fydd neb yn gallu eu helpu.
15Bydda i’n mynd yn ôl i’m ffau
nes byddan nhw’n cyfaddef eu bai.
Wedyn, byddan nhw’n chwilio amdana i;
yn eu helbul, byddan nhw’n chwilio’n daer amdana i:
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015