No themes applied yet
Heddwch o’r diwedd
1Ond bydd brigyn newydd yn tyfu o foncyff Jesse,11:1 o foncyff Jesse Jesse oedd tad y Brenin Dafydd.
a changen ffrwythlon yn tyfu o’i wreiddiau.
2Bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno:
ysbryd doethineb rhyfeddol,
ysbryd strategaeth sicr,
ysbryd defosiwn a pharch at yr ARGLWYDD.
3Bydd wrth ei fodd yn ufuddhau i’r ARGLWYDD:
fydd e ddim yn barnu ar sail yr olwg gyntaf,
nac yn gwneud penderfyniad ar sail rhyw si.
4Bydd yn barnu achos pobl dlawd yn deg
ac yn rhoi dyfarniad cyfiawn i’r rhai sy’n cael eu cam-drin yn y tir.
Bydd ei eiriau fel gwialen yn taro’r ddaear
a bydd yn lladd y rhai drwg gyda’i anadl.
5Bydd cyfiawnder a ffyddlondeb
fel belt am ei ganol.
6Bydd y blaidd yn cyd-fyw gyda’r oen,11:6-9 Eseia 65:25
a’r llewpard yn gorwedd i lawr gyda’r myn gafr.
Bydd y llo a’r llew ifanc yn pori gyda’i gilydd,
a bachgen bach yn gofalu amdanyn nhw.
7Bydd y fuwch a’r arth yn pori gyda’i gilydd,
a’u rhai ifanc yn cydorwedd;
a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych.
8Bydd babi bach yn chwarae wrth nyth y cobra
a phlentyn bach yn rhoi ei law ar dwll y wiber.
9Fydd neb yn gwneud drwg
nac yn dinistrio dim
ar y mynydd sydd wedi’i gysegru i mi.
Fel mae’r môr yn llawn dop o ddŵr,
bydd y ddaear yn llawn pobl sy’n nabod yr ARGLWYDD.
Duw yn rhyddhau ei bobl
10Bryd hynny,
bydd y ffaith fod boncyff Jesse yn dal i sefyll
yn arwydd clir i’r bobloedd –
bydd cenhedloedd yn dod ato am gyngor,
a bydd ei le yn ysblennydd.
11Bryd hynny, bydd y Meistr yn mynd ati i ryddhau gweddill ei bobl o wlad Asyria – a hefyd o’r Aifft, Pathros, Dwyrain Affrica,11:11 Dwyrain Affrica Hebraeg, Cwsh. Yr ardal i’r de o wlad yr Aifft, sef gogledd Swdan heddiw. Elam, Babilonia, Chamath, a’r ynysoedd.
12Bydd yn codi baner i alw’r cenhedloedd,
ac yn casglu’r bobl gafodd eu halltudio o Israel.
Bydd yn casglu pobl Jwda gafodd eu gwasgaru
o bedwar ban byd.
13Yna bydd cenfigen Effraim11:13 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. yn darfod
a bydd yr elyniaeth rhyngddi a Jwda yn dod i ben.
Fydd Effraim ddim yn cenfigennu wrth Jwda,
a fydd Jwda ddim yn plagio Effraim.
14Byddan nhw’n ymosod ar y Philistiaid i’r gorllewin,
ac yn ysbeilio pobl y dwyrain gyda’i gilydd.
Bydd Edom a Moab yn cael eu rheoli ganddyn nhw,
a bydd pobl Ammon fel gwas bach iddyn nhw.
15Bydd yr ARGLWYDD yn sychu Môr yr Aifft.
Bydd yn codi ei law dros afon Ewffrates
ac yn anfon gwynt ffyrnig i’w hollti’n saith sychnant,
er mwyn gallu ei chroesi heb wlychu’r traed.
16Felly bydd priffordd ar gyfer gweddill ei bobl
sydd wedi’u gadael yn Asyria,
fel yr un oedd i bobl Israel
pan ddaethon nhw allan o wlad yr Aifft.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015