No themes applied yet
Cosbi Moab
1Neges am Moab:15:1–16:14 Eseia 25:10-12; Jeremeia 48:1-47; Eseciel 25:8-11; Amos 2:1-3; Seffaneia 2:8-11
Do, cafodd ei dinistrio mewn noson,
cafodd Ar yn Moab ei difrodi’n llwyr.
Do, cafodd ei dinistrio mewn noson,
cafodd Cir yn Moab ei difrodi’n llwyr.
2Maen nhw wedi mynd i’r deml,
ac i’r allor leol yn Dibon i wylo.
Mae Moab yn udo
am beth ddigwyddodd i Nebo a Medeba.
Mae pob pen yn foel, pob barf wedi’i siafio,
3ac maen nhw’n gwisgo sachliain yn y strydoedd.
Mae pawb yn udo ac yn beichio crio
ar bennau’r tai ac yn y sgwariau.
4Mae sgrechian yn Cheshbon ac Elealê,
ac mae’r sŵn i’w glywed mor bell â Iahats.
Felly, mae milwyr Moab yn gweiddi
a chrynu drwyddynt mewn ofn.
5Mae fy nghalon yn gwaedu dros Moab –
a’r ffoaduriaid sy’n dianc i Soar ac Eglath-shalisheia.
Maen nhw’n wylo wrth ddringo llethr Lwchith.
Mae gwaedd dinistr yn codi ar y ffordd i Choronaïm.
6Mae dyfroedd Nimrim wedi sychu;
mae’r glaswellt wedi gwywo a phob tyfiant yn methu.
Mae pob planhigyn wedi diflannu.
7Felly, maen nhw’n cario’u cynilion a’u heiddo
dros Sychnant yr Helyg.
8Ydy, mae sŵn y sgrechian wedi lledu
drwy wlad Moab i gyd:
mae’r udo i’w glywed mor bell ag Eglaim,
hyd yn oed yn Beër-elim!
9Mae dyfroedd Dimon yn llawn gwaed.
Ond dw i’n mynd i wneud pethau’n waeth eto i Dimon:
bydd llew yn ymosod ar weddill Moab,
a’r rhai sydd ar ôl yn y tir.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015