No themes applied yet
Cosbi Jerwsalem
1Neges am ‘Ddyffryn y Weledigaeth’:22:1 Dyffryn y Weledigaeth Cyfeiriad at Jerwsalem (gw. adn. 5). Dyma lle roedd Eseia’n proffwydo.
Beth sy’n digwydd yma?
Pam mae pawb wedi mynd i ben y toeau?
2Roeddet ti mor llawn bwrlwm –
yn ddinas mor swnllyd;
yn dre oedd yn llawn miri!
Nid cleddyf wnaeth ladd dy feirwon,
na’r frwydr chwaith.
3Rhedodd dy arweinwyr.,
a dianc i le pell i ffwrdd;
cafodd pawb oedd ar ôl eu dal
heb help run bwasaethwr.
4Dyna pam dw i’n dweud,
“Gadewch lonydd i mi,
gadewch i mi wylo’n chwerw!
Peidiwch boddran ceisio fy nghysuro
am fod fy mhobl druan wedi’u dinistrio.”
5Ydy, mae fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus,
wedi trefnu diwrnod o banig, sathru, a dryswch –
yn Nyffryn y Weledigaeth mae sŵn waliau’n syrthio,
a phobl yn gweiddi ar y mynydd.
6Mae Elam wedi codi’r gawell saethau,
gyda’i marchogion a’i cherbydau,
ac mae milwyr Cir wedi paratoi eu tarianau.
7Mae dy ddyffrynnoedd, dy dir gorau,
yn llawn cerbydau,
a’r marchogion yn rhengoedd tu allan i’r giatiau.
8Mae’r sgrîn oedd yn amddiffyn Jwda wedi’i symud.
Felly, bryd hynny, dyma chi’n mynd
i Blas y Goedwig22:8 i Blas y Goedwig Adeiladwyd gan y Brenin Solomon (1 Brenhinoedd 7:2). i nôl yr arfau.
9Roeddech chi’n gweld fod llawer iawn o fylchau
yn waliau Dinas Dafydd.
Dyma gasglu dŵr o’r Llyn Isaf,
10cyfri’r tai yn Jerwsalem a chwalu rhai
er mwyn gwneud waliau’r ddinas yn ddiogel.
11Yna adeiladu cronfa rhwng y ddwy wal
i ddal dŵr yr hen lyn.
Ond gymeroch chi ddim sylw o’r Un wnaeth y cwbl,
na meddwl am yr Un oedd wedi cynllunio hyn ers talwm.
12Bryd hynny dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus,
yn galw ar bobl i wylo a galaru,
i siafio’r pen a gwisgo sachliain.
13Ond yn lle hynny roedd hwyl a miri,
lladd gwartheg a defaid, bwyta cig ac yfed gwin.
“Gadewch i ni gael parti ac yfed,
falle byddwn ni’n marw fory!”
14Rôn i wedi clywed yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud: “Fydd dim byd yn gwneud iawn am y pechod yma nes i chi farw.” Ie, dyna ddwedodd fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus.
Rhybudd i Shefna
15Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, “Dos i ofyn i’r swyddog – y Shefna yna sy’n gyfrifol am y palas:
16‘Beth sy’n digwydd yma?
Pwy roddodd ganiatâd i ti dorri bedd i ti dy hun yma?
Torri bedd i ti dy hun mewn lle pwysig;
naddu lle i ti dy hun gael gorffwys yn y graig!
17Mae’r ARGLWYDD yn mynd i dy daflu di i ffwrdd –
dy hyrddio di’n bell, ti bwysigyn!
Bydd yn dy lapio di’n dynn,
18yn dy rolio i fyny fel pelen
ac yn dy daflu i ffwrdd i wlad eang iawn!
A dyna ble byddi di’n marw.
Yr unig gerbydau crand i gario dy gorff
fydd y cywilydd ddaeth ar dŷ dy feistr!
19Dw i’n mynd i dy ddiswyddo di!
Byddi di’n cael dy fwrw i lawr o dy safle!
20Bryd hynny bydda i’n galw ar fy ngwas Eliacim fab Chilceia, 21ac yn ei arwisgo fe gyda dy grys di, a’r sash sydd am dy ganol. Bydda i’n rhoi dy awdurdod di iddo fe, a bydd e’n gofalu am bawb sy’n byw yn Jerwsalem a phobl Jwda i gyd. 22Bydda i’n rhoi allwedd tŷ Dafydd iddo. Fydd neb yn gallu cau yr hyn mae’n ei agor, nac agor yr hyn mae e’n ei gau. 23Bydda i’n ei osod yn gadarn yn ei le – fel hoelen wedi’i tharo i wal. Bydd e’n cael y sedd anrhydedd yn nhŷ ei dad. 24Bydd y cyfrifoldeb am deulu ei dad arno fe: pawb, o’r egin a’r dail; bydd y llestri bach i gyd, y powlenni a’r gwahanol jariau yn hongian arno.’”
25“Bryd hynny,” – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus – “bydd yr hoelen oedd mor sownd yn dod yn rhydd. Bydd yn cael ei thorri a bydd yn syrthio, a bydd y llwyth oedd yn hongian arni yn cael ei dynnu i lawr.” Mae’r ARGLWYDD wedi dweud!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015