No themes applied yet
Duwiau diwerth Babilon
1Mae Bel ar ei liniau,
a Nabw46:1 Bel … Nabw Bel: enw arall ar Merodach, prif dduw’r Babiloniaid. Nabw: duw arall gan y Babiloniaid. yn gorwedd ar ei wyneb.
Baich ar gefn anifeiliaid ydy eu delwau nhw,
pethau mae’n rhaid eu cario – llwyth trwm
ar gefn anifeiliaid blinedig!
2Maen nhw hefyd wedi syrthio a phlygu gyda’i gilydd;
doedd dim modd arbed y llwyth,
ac maen nhw ar eu ffordd i’r gaethglud.
3“Gwrandwch arna i, bobl Jacob,
a phawb sydd ar ôl o bobl Israel.
Fi wnaeth eich cario chi pan oeddech chi yn y groth,
a dw i wedi’ch cynnal chi ers i chi gael eich geni.
4A bydd pethau yr un fath pan fyddwch chi’n hen;
bydda i’n dal i’ch cario chi pan fydd eich gwallt wedi troi’n wyn!
Fi wnaeth chi, a fi sy’n eich cario chi –
fi sy’n gwneud y cario, a fi sy’n achub.
5Pwy sy’n cymharu hefo fi?
Oes rhywun tebyg i mi?
Dwedwch i bwy dw i’n debyg?
Oes rhywun sydd yr un fath â mi?
6Mae rhai pobl yn gwagio’r aur o’u pwrs
ac yn pwyso’u harian mewn clorian,
yna’n talu gweithiwr metel i wneud duw iddyn nhw,
ac wedyn yn ei addoli a syrthio ar eu hwynebau o’i flaen!
7Mae’n rhaid iddyn nhw ei gario ar eu hysgwyddau,
ac wedyn maen nhw’n ei osod ar ei draed,
a dydy e ddim yn gallu symud!
Os ydy rhywun yn galw arno, dydy e ddim yn ateb;
a dydy e ddim yn gallu achub neb o’i drafferthion!
8Cofiwch chi hynny, a dal gafael yn y ffaith!
Meddyliwch am y peth, chi wrthryfelwyr!
9Cofiwch beth dw i wedi’i wneud yn y gorffennol.
Achos fi sydd Dduw, a does dim un arall yn bod.
Fi ydy Duw, a does neb tebyg i mi.
10Dw i’n dweud o’r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd,
ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto.
Dw i’n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd;
dw i’n cyflawni popeth dw i’n ei fwriadu.’
11Fi alwodd yr aderyn rheibus yna o’r dwyrain,46:11 aderyn rheibus yna o’r dwyrain gw. 41:2.
yr un ddaeth o bell i gyflawni fy mhwrpas i.
Pan dw i’n dweud rhywbeth, mae’n siŵr o ddigwydd;
fi sydd wedi’i gynllunio, a bydda i’n siŵr o’i wneud!
12Gwrandwch arna i, chi bobl benstiff,
sy’n cadw draw oddi wrth beth sy’n iawn:
13dw i ar fin gwneud pethau’n iawn;
dydy hyn ddim yn y dyfodol pell –
fydd achubiaeth ddim yn cael ei gohirio.
Dw i’n mynd i achub Seion!
A rhoi fy ysblander i Israel!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015