No themes applied yet
1Pwy fyddai’n credu’r neges glywon ni?
Oes rhywun wedi gweld un grymus yr ARGLWYDD?
2Wrth iddo dyfu o’i flaen
doedd e’n ddim mwy na brigyn,
neu wreiddyn mewn tir sych.
O ran ei olwg, doedd dim yn ein denu i edrych arno,
dim oedd yn ei wneud yn arbennig o ddeniadol.
3Cafodd ei ddirmygu a’i wrthod gan bobl;
yn ddyn wnaeth ddiodde, yn gyfarwydd â phoen.
Roedd pobl yn troi eu hwynebau i ffwrdd oddi wrtho;
cafodd ei ddirmygu, a wnaethon ni mo’i werthfawrogi.
4Ac eto, cymerodd ein salwch ni arno’i hun,
a diodde ein poenau ni yn ein lle.
Roedden ni’n meddwl ei fod yn cael ei gosbi,
a’i guro a’i gam-drin gan Dduw.
5Do, cafodd ei anafu am ein bod ni wedi gwrthryfela,
cafodd ei sathru am ein bod ni ar fai.
Cafodd ei gosbi i wneud pethau’n iawn i ni;
ac am iddo fe gael ei guro cawson ni ein hiacháu.
6Dŷn ni i gyd wedi crwydro fel defaid –
pob un wedi mynd ei ffordd ei hun;
ond mae’r ARGLWYDD wedi rhoi
ein pechod ni i gyd arno fe.
7Cafodd ei gam-drin a’i boenydio,
wnaeth e ddweud dim,
fel oen yn cael ei arwain i’r lladd-dy.
Yn union fel mae dafad yn dawel pan mae’n cael ei chneifio,
wnaeth e ddweud dim.
8Cafodd ei gymryd i ffwrdd heb achos llys teg –
a phwy oedd yn malio beth oedd yn digwydd iddo?
Cafodd ei dorri i ffwrdd o dir y byw,
a’i daro am fod fy mhobl i wedi gwrthryfela.
9Y bwriad oedd ei gladdu gyda throseddwyr,
ond cafodd fedd un cyfoethog.
Roedd wedi gweithredu’n ddi-drais,
a ddim wedi twyllo neb.
10Ac eto, yr ARGLWYDD wnaeth benderfynu ei gleisio,
ac achosi iddo ddiodde.
Wrth roi ei hun yn offrwm dros bechod,
bydd yn gweld ei blant ac yn cael byw yn hir.
Bydd yn cyflawni bwriadau’r ARGLWYDD.
11Ar ôl y dioddef i gyd bydd yn gweld beth wnaeth,
a bydd yn gwbl fodlon.
Bydd fy ngwas cyfiawn yn gwneud llawer o bobl yn gyfiawn,
ac yn cario baich eu beiau ar ei ysgwyddau.
12Felly, y dyrfa yna fydd ei siâr e,
a bydd yn rhannu’r ysbail gyda’r rhai cryfion,
am ei fod wedi rhoi ei hun i farw,
a’i gyfri’n un o’r gwrthryfelwyr.
Cymerodd bechodau llawer o bobl arno’i hun
ac ymyrryd ar ran gwrthryfelwyr.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015