No themes applied yet
Diwrnod newydd i Jerwsalem
1“Cod! Disgleiria! Mae dy olau wedi dod.
Mae ysblander yr ARGLWYDD wedi gwawrio arnat!
2Er bod tywyllwch yn gorchuddio’r ddaear
a thywyllwch dudew dros y gwledydd,
bydd yr ARGLWYDD yn tywynnu arnat ti,
a bydd ei ysblander i’w weld arnat.
3Bydd cenhedloedd yn dod at dy oleuni,
a brenhinoedd yn troi at dy wawr ddisglair.
4Edrych o dy gwmpas!
Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw’n dod atat ti!
Bydd dy feibion yn dod o wledydd pell,
a dy ferched yn cael eu cario adre.
5Pan weli hyn byddi’n wên i gyd;
bydd dy galon yn curo wrth brofi’r wefr.
Bydd cyfoeth y moroedd yn cael ei roi i ti,
a chyfoeth y gwledydd yn dod atat.
6Bydd gyrroedd o gamelod yn llenwi dy strydoedd,
camelod o Midian, Effa a Sheba.60:6 Midian, Effa a Sheba Midian: ardal yn anialwch Arabia; Effa: un o’r brif deuluoedd llwyth Midian; Sheba: yn ne-orllewin Arabia.
Byddan nhw’n cario aur a thus,
ac yn canu mawl i’r ARGLWYDD.
7Bydd holl ddefaid a geifr Cedar yn cael eu casglu atat,
a bydd hyrddod Nebaioth60:7 Cedar … Nebaioth Ardaloedd yng ngogledd Arabia. yna i ti eu defnyddio;
byddan nhw’n aberthau derbyniol ar fy allor i.
Bydda i’n gwneud fy nhŷ hardd yn harddach fyth!
8Pwy ydy’r rhain sy’n symud fel cwmwl,
ac yn hedfan fel colomennod i’w nythod?
9Mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu,
a llongau masnach Tarshish60:9 Tarshish Porthladd yn Sbaen. Mae’n debyg fod “llongau Tarshish” yn cyfeirio at longau masnach mawr oedd yn croesi’r moroedd. ar y blaen.
Maen nhw’n dod â dy blant o bell,
a’u harian a’u haur hefo nhw,
i’w cyflwyno i’r ARGLWYDD dy Dduw –
Un Sanctaidd Israel, sydd wedi dy anrhydeddu.
10Bydd estroniaid yn ailadeiladu dy waliau,
a’u brenhinoedd nhw yn dy wasanaethu di.
Achos, er fy mod wedi dy daro di pan oeddwn i’n ddig,
dw i am ddangos tosturi a bod yn garedig.
11Bydd dy giatiau ar agor drwy’r amser;
fyddan nhw ddim yn cael eu cau ddydd na nos –
er mwyn i gyfoeth y cenhedloedd
a’u brenhinoedd gael ei gario i mewn.
12Bydd y wlad neu’r deyrnas
sy’n gwrthod dy wasanaethu yn syrthio;
bydd y gwledydd hynny’n cael eu dinistrio’n llwyr.
13Bydd coed gorau Libanus yn dod i ti –
coed cypres, planwydd a phinwydd i harddu fy nghysegr,
ac anrhydeddu’r lle mae fy nhraed i’n gorffwys.
14Bydd plant y rhai oedd yn dy ormesu
yn dod o dy flaen ac ymgrymu.
Bydd y rhai oedd yn dy gasáu
yn plygu’n isel ar y llawr wrth dy draed di.
Byddan nhw’n dy alw di yn ‘Ddinas yr ARGLWYDD’,
a ‘Seion Un Sanctaidd Israel’.
15Yn lle bod wedi dy wrthod,
a dy gasáu, a neb yn mynd drwot ti,
bydda i’n dy wneud di’n destun balchder am byth –
yn llawenydd o un genhedlaeth i’r llall.
16Byddi’n yfed o laeth y cenhedloedd,
ac yn sugno bronnau brenhinoedd.
Wedyn byddi di’n gwybod
mai fi ydy’r ARGLWYDD sy’n dy achub,
Ie, fi, Un Cryf Jacob, sy’n dy ollwng di’n rhydd.
17Bydda i’n dod ag aur yn lle pres ac arian yn lle haearn,
pres yn lle coed a haearn yn lle cerrig.
‘Heddwch’ fydd yn llywodraethu arnat,
a ‘Cyfiawnder’ fydd dy feistr.
18Fydd neb yn gweiddi ‘Trais!’ yn y wlad byth eto,
a fydd dim dinistr o fewn dy ffiniau.
Byddi’n galw dy waliau yn ‘Achubiaeth’
a dy giatiau yn ‘Foliant’.
19Fydd dim angen yr haul i oleuo’r dydd,
na llewyrch y lleuad yn olau yn y nos.
Yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth,
a bydd ysblander dy Dduw yn disgleirio arnat.
20Fydd dy haul ddim yn machlud byth mwy,
a llewyrch y lleuad ddim yn cilio;
yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth,
a bydd dy gyfnod o alaru drosodd.
21Bydd dy bobl i gyd yn gyfiawn,
ac yn etifeddu’r tir am byth.
Nhw ydy’r blagur dw i wedi’i blannu,
gwaith fy llaw sy’n fy anrhydeddu.
22Bydd yr un fechan yn troi yn llwyth,
a’r lleiaf yn troi’n genedl fawr.
Fi ydy’r ARGLWYDD!
Pan ddaw’r amser iawn bydda i’n gwneud hyn ar frys!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015