No themes applied yet
Yr ARGLWYDD yn cosbi’r cenhedloedd
1Pwy ydy hwn sy’n dod o Edom –
o Bosra63:1 Bosra Prifddinas Edom.63:1-6 Eseia 34:5-17; Jeremeia 49:7-22; Eseciel 25:12-14; 35:1-15; Amos 1:11-12; Obadeia 1-14; Malachi 1:2-5 a’i ddillad yn goch?
Pwy ydy’r un, yn ei wisgoedd brenhinol,
sy’n martsio’n hyderus a diflino.
“Fi ydy e, sy’n cyhoeddi cyfiawnder;
yr un sy’n gallu achub.”
2Pam mae dy ddillad yn goch?
Maen nhw fel dillad un sy’n sathru grawnwin.
3“Dw i wedi sathru’r grawnwin fy hun;
doedd neb o gwbl gyda fi.
Sathrais nhw yn fy llid,
a’u gwasgu dan draed yn fy nicter,
nes i’w gwaed nhw sblasio ar fy nillad;
dw i wedi staenio fy nillad i gyd.
4Roedd y diwrnod i ddial ar fy meddwl,
a’r flwyddyn i ollwng yn rhydd wedi dod.
5Pan edrychais, doedd neb yno i helpu;
rôn i’n synnu fod neb yno i roi cymorth.
Felly dyma fi’n mynd ati i achub,
a’m dicter yn fy ngyrru ymlaen.63:5 Eseia 59:16
6Sathrais genhedloedd yn fy llid,
a’u meddwi nhw gyda fy llid,
a thywallt eu gwaed ar lawr.”
Gweddi ac addoliad
7Dw i’n mynd i atgoffa pobl mor hael a charedig ydy’r ARGLWYDD,
a dw i’n mynd i ganu ei glod –
am y cwbl mae’r ARGLWYDD wedi’i wneud i ni,
a’r holl bethau da mae e wedi’u gwneud i bobl Israel.
Mae e mor drugarog ac mor hael!
8Meddyliodd: “Fy mhobl i ydyn nhw,
plant fydd ddim yn anffyddlon.”
Felly dyma fe’n eu hachub nhw.
9Pan oedden nhw’n diodde roedd e’n diodde hefyd,
a dyma fe’n anfon ei angel i’w hachub.
Yn ei gariad a’i drugaredd,
daeth i’w gollwng nhw’n rhydd.
Cododd nhw, a’u cario nhw
ar hyd y cyfnod hwnnw.
10Ond dyma nhw’n gwrthryfela,
ac yn tristáu ei Ysbryd Glân.
Felly trodd yn elyn iddyn nhw,
ac ymladd yn eu herbyn nhw.
11Yna dyma fe’n cofio’r hen ddyddiau –
Moses … a’i bobl!
Ble mae’r Un ddaeth â nhw drwy’r Môr
gyda bugeiliaid ei braidd?
Ble mae’r Un wnaeth roi
ei Ysbryd Glân yn eu plith nhw –
12yr Un wnaeth roi ei nerth i Moses?
Ble mae’r Un wnaeth hollti’r môr o’u blaenau
a gwneud enw iddo’i hun am byth?
13Ble mae’r Un wnaeth eu harwain nhw drwy’r dyfnder63:13 Exodus 14:21
fel ceffyl yn carlamu ar dir agored?
14Rhoddodd Ysbryd yr ARGLWYDD orffwys iddyn nhw,
fel gwartheg yn mynd i lawr i’r dyffryn.
Dyna sut wnest ti arwain dy bobl
a gwneud enw gwych i ti dy hun!
Gweddi am help
15Edrych i lawr o’r nefoedd,
o’r lle sanctaidd a hardd lle rwyt ti’n byw!
Ble mae dy sêl a dy nerth di bellach?
Ble mae hiraeth dy galon a dy gariad?
Paid dal yn ôl, 16achos ti ydy’n Tad ni!
Hyd yn oed petai Abraham ddim yn cymryd sylw,
ac Israel ddim yn ein nabod ni,
ti ydy’n Tad ni, O ARGLWYDD!
Ti ydy’r Un sy’n ein rhyddhau ni! –
Dyna dy enw di ers y dyddiau hynny.
17ARGLWYDD, pam wyt ti wedi gadael i ni grwydro
oddi ar dy ffyrdd di?
Pam wyt ti wedi’n gwneud ni’n ystyfnig
nes ein bod ddim yn dy barchu di?
Maddau i ni, er mwyn dy weision,
dy lwythau di dy hun!
18Cafodd dy bobl feddiannu’r tir am gyfnod byr,
ond wedyn sathrodd dy elynion dy gysegr dan draed.
19Ni oedd dy bobl di o’r dechrau –
wnest ti erioed lywodraethu drostyn nhw,
a gawson nhw erioed eu henwi ar dy ôl di.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015