No themes applied yet
1Llythyr gan Iago, gwas i Dduw a’r Arglwydd Iesu Grist. At Gristnogion Iddewig sydd wedi’u gwasgaru drwy’r holl wledydd. Cyfarchion!
Treialon
2Frodyr a chwiorydd, pan fyddwch chi’n wynebu pob math o dreialon, ystyriwch hynny’n rheswm i fod yn llawen. 3Achos pan mae’ch ffydd chi’n cael ei brofi mae hynny’n meithrin y gallu i ddal ati a pheidio rhoi’r gorau iddi. 4Ac mae dal ati drwy’r cwbl yn eich gwneud chi’n gryf ac aeddfed – yn barod ar gyfer unrhyw beth! 5Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy’n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw. 6Ond rhaid gofyn gan gredu y bydd Duw yn ateb – peidio amau, am fod y rhai sy’n amau yn debyg i donnau’r môr yn cael eu taflu a’u chwipio i bobman gan y gwynt. 7Ddylai pobl felly ddim disgwyl cael unrhyw beth gan yr Arglwydd! 8Dŷn nhw ddim yn gwybod beth sydd arnyn nhw eisiau. Maen nhw’n byw mewn ansicrwydd.
9Dylai’r Cristion sy’n dod o gefndir tlawd frolio fod Duw wedi’i anrhydeddu, 10ond dylai’r cyfoethog fod yn falch pan mae Duw yn ei ddarostwng. Bydd e’n diflannu fel blodyn gwyllt.1:10,11 adlais o Eseia 40:6,7 (LXX) 11Wrth i’r haul tanbaid grino’r glaswellt mae’r blodyn yn syrthio a’i harddwch yn diflannu. Dyna’n union fydd yn digwydd i bobl gyfoethog – marw yng nghanol eu busnes!
12Mae’r rhai sy’n dal ati yn wyneb treialon yn cael eu bendithio gan Dduw. Ar ôl mynd drwy’r prawf byddan nhw’n cael eu coroni â’r bywyd mae Duw wedi’i addo i’r rhai sy’n ei garu. 13A ddylai neb ddweud pan mae’n cael ei brofi, “Duw sy’n fy nhemtio i.” Dydy Duw ddim yn cael ei demtio gan ddrygioni, a dydy e ddim yn temtio neb arall chwaith. 14Eu chwantau drwg eu hunain sy’n temtio pobl, ac yn eu llusgo nhw ar ôl iddyn nhw gymryd yr abwyd. 15Mae chwantau drwg yn arwain i weithredoedd drwg, a’r gweithredoedd drwg hynny yn arwain i farwolaeth ysbrydol.
16Peidiwch cymryd eich camarwain, frodyr a chwiorydd annwyl. 17Mae pob rhoi, a phob haelioni yn dod oddi wrth Dduw yn y nefoedd uchod. Fe ydy’r Tad a greodd y sêr a’r planedau, ond dydy ei oleuni e ddim yn amrywio, a dydy e byth yn cael ei gysgodi. 18Mae Duw wedi dewis rhoi bywyd newydd i ni, drwy wirionedd ei neges. Mae wedi’n dewis ni’n arbennig iddo’i hun o blith y cwbl mae wedi’i greu. 19Gallwch fod yn hollol siŵr o’r peth, frodyr a chwiorydd.
Gwrando a gwneud
Dylai pob un ohonoch fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll, a gwybod sut i reoli ei dymer. 20Dydy gwylltio ddim yn eich helpu chi i wneud beth sy’n iawn yng ngolwg Duw. 21Felly rhaid cael gwared â phob budreddi a’r holl ddrygioni sy’n rhemp, a derbyn yn wylaidd y neges mae Duw wedi’i phlannu yn eich calonnau chi – dyna’r neges sy’n eich achub chi. 22Gwnewch beth mae Duw’n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twyllo’ch hunain ydy peth felly! 23Mae rhywun sy’n clywed ond ddim yn gwneud yn debyg i ddyn yn edrych mewn drych. 24Mae’n edrych arno’i hun, ac wedyn yn mynd i ffwrdd, ac yn anghofio sut olwg oedd arno! 25Ond mae’r un sy’n dal ati i edrych yn fanwl ar ddysgeidiaeth berffaith y Duw sy’n ein gollwng ni’n rhydd yn wahanol. Dydy’r sawl sy’n gwneud hynny ddim yn anghofio beth mae wedi’i glywed; mae’n gwneud beth sydd ei angen. A bydd Duw yn bendithio popeth mae’n ei wneud!
26Os ydy rhywun yn meddwl ei fod yn dduwiol ond ddim yn gallu rheoli ei dafod, mae’n twyllo’i hun – dydy crefydd rhywun felly yn dda i ddim. 27Y math o grefydd mae Duw y Tad yn ei ystyried yn bur ac yn ddilys ydy’r grefydd sy’n gofalu am blant amddifad a gwragedd gweddwon sy’n dioddef, ac sy’n gwrthod dylanwad y byd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015