No themes applied yet
Bydd Duw yn cosbi’r gwledydd46:0 Mae proffwydi eraill yn rhoi negeseuon tebyg am y gwledydd o gwmpas Israel – gw. Amos 1–2; Eseia 13–23; Eseciel 25–32. Mae’n ein hatgoffa mai Duw ydy’r unig wir Dduw, a’i fod yn teyrnasu dros y gwledydd i gyd.
(46:1–51:64)
1Y negeseuon roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y gwledydd eraill.
Neges gyntaf am yr Aifft
2Dyma’r neges am yr Aifft, ac am fyddin Pharo Necho, brenin yr Aifft, oedd yn gwersylla yn Carcemish ar lan afon Ewffrates. (Cafodd y fyddin ei threchu gan Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda46:2 y bedwaredd … ar Jwda 604–605 CC – gw. Jeremeia 25:1.):
3“I’ch rhengoedd! Tarianau’n barod! I’r gad!
4Harneisiwch y ceffylau i’r cerbydau!
Ar gefnau eich stalwyni!
Helmedau ymlaen! Pawb i’w le!
Rhowch fin ar eich picellau!
Arfwisg ymlaen!”
5“Ond beth dw i’n weld?” meddai’r ARGLWYDD.
“Maen nhw wedi dychryn.
Maen nhw’n ffoi.
Mae’r milwyr dewr yn syrthio.
Maen nhw’n dianc am eu bywydau,
heb edrych yn ôl.”
Does ond dychryn ym mhobman!
6Dydy’r cyflymaf ddim yn gallu dianc;
dydy’r cryfaf ddim yn llwyddo i ffoi.
Maen nhw’n baglu ac yn syrthio
ar lan afon Ewffrates yn y gogledd.
7Pwy ydy’r wlad sy’n codi fel afon Nîl
a’r afonydd sy’n llifo iddi, ac yn gorlifo?
8Yr Aifft sy’n codi ac yn brolio
ei bod yn mynd i orchuddio’r ddaear fel llifogydd,
a dinistrio dinasoedd a’u pobl.
9“Ymlaen! Rhuthrwch i’r frwydr, farchogion!
Gyrrwch yn wyllt yn eich cerbydau!
Martsiwch yn eich blaenau, filwyr traed –
y cynghreiriaid o Affrica46:9 Affrica Hebraeg, Cwsh. Yr ardal i’r de o wlad yr Aifft, sef gogledd Swdan heddiw. a Libia gyda’u tarianau;
a’r rhai o Lydia sy’n trin bwa saeth.”
10Ond mae beth fydd yn digwydd y diwrnod hwnnw
yn llaw’r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus.
Diwrnod o dalu’n ôl i’w elynion.
Bydd y cleddyf yn difa nes cael digon;
bydd wedi meddwi ar eu gwaed!
Mae’r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus,
yn eu cyflwyno nhw’n aberth
ar lan afon Ewffrates yn y gogledd.
11Dos i fyny i Gilead i chwilio am eli,
o wyryf annwyl yr Aifft!
Gelli drio pob moddion dan haul,
ond i ddim pwrpas –
does dim gwella i fod i ti!
12Bydd y gwledydd yn clywed am dy gywilydd.
Bydd sŵn dy gri am help yn mynd drwy’r byd i gyd.
Bydd dy filwyr cryfaf yn baglu dros ei gilydd,
ac yn syrthio gyda’i gilydd!
Ail neges am yr Aifft
13Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod i ymosod ar wlad yr Aifft:
14“Cyhoeddwch hyn drwy wlad yr Aifft,
yn Migdol, Memffis a Tachpanches:46:14 Jeremeia 43:7-8; 44:1
‘Pawb i’w le! Byddwch barod i amddiffyn!
Mae pobman o’ch cwmpas
yn cael ei ddinistrio gan y gelyn.’
15Pam mae dy dduw Apis46:15 Apis Tarw sanctaidd, oedd yn cael ei gadw mewn teml yn Memphis, yr Aifft, ac yn cael ei addoli fel duw. wedi ffoi?
Pam wnaeth dy darw ddim dal ei dir?
Am fod yr ARGLWYDD wedi’i fwrw i lawr!
16Gwnaeth i lu o filwyr syrthio
a baglu dros ei gilydd wrth geisio dianc.
‘Gadewch i ni fynd yn ôl at ein pobl,’ medden nhw.
‘Mynd yn ôl i’n gwledydd ein hunain,
a dianc rhag i’r gelyn ein lladd!’
17Bydd y Pharo, brenin yr Aifft, yn cael y llysenw
‘Ceg fawr wedi colli ei gyfle’.”
18“Mor sicr â’m bod i fy hun yn fyw,” meddai’r Brenin
(yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw e),
“mae’r gelyn yn dod i ymosod ar yr Aifft.
Bydd yn sefyll fel Mynydd Tabor yng nghanol y bryniau,
neu Fynydd Carmel ar lan y môr.
19‘Paciwch eich bagiau, bobl yr Aifft,
yn barod i’ch cymryd yn gaeth!’
Mae Memffis yn mynd i gael ei difetha;
bydd yn adfeilion gyda neb yn byw yno.
20Mae’r Aifft fel heffer a golwg da arni,
ond bydd haid o bryfed o’r gogledd yn dod a’i phigo.
21Mae’r milwyr tâl sydd yn ei chanol
fel lloi wedi’u pesgi.
Ond byddan nhw hefyd yn troi a dianc gyda’i gilydd;
wnân nhw ddim sefyll eu tir.
Mae’r dydd y cân nhw eu dinistrio wedi dod;
mae’n bryd iddyn nhw gael eu cosbi.
22Mae’r Aifft fel neidr yn llithro i ffwrdd yn dawel,
tra mae byddin y gelyn yn martsio’n hyderus.
Maen nhw’n dod yn ei herbyn gyda bwyeill,
fel dynion yn mynd i dorri coed.
23Bydd yr Aifft fel coedwig drwchus yn cael ei thorri i lawr,
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
Mae’r dyrfa sy’n dod yn ei herbyn fel haid o locustiaid!
Mae’n amhosib eu cyfri nhw!
24Bydd pobl yr Aifft yn cael eu cywilyddio.
Byddan nhw’n cael eu concro gan fyddin o’r gogledd.”46:24 Jeremeia 1:13-15
25Mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn dweud: “Dw i’n mynd i gosbi Amon, sef duw Thebes,46:25 Amon, sef duw Thebes Amon oedd brenin duwiau’r Aifft a duw sbesial y Pharo. Thebes (tua 400 milltir i’r de o Cairo) oedd prifddinas de’r Aifft, a chanolfan addoliad Amon. a chosbi’r Aifft, ei duwiau a’i brenhinoedd. Dw i’n mynd i gosbi’r Pharo, a phawb sy’n ei drystio fe. 26Dw i’n mynd i’w rhoi nhw yn nwylo’r rhai sydd eisiau eu lladd nhw – sef Nebwchadnesar, brenin Babilon, a’i filwyr.46:26 Jeremeia 43:10-12 Ond ar ôl hynny bydd pobl yn byw yng ngwlad yr Aifft fel o’r blaen,” meddai’r ARGLWYDD.
Gobaith i bobl Israel
27“Felly, peidiwch bod ag ofn, bobl Jacob, fy ngweision,”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
“Peidiwch anobeithio, bobl Israel.
Dw i’n mynd i’ch achub chi a’ch plant
o’r wlad bell lle buoch yn gaeth.
Bydd pobl Jacob yn dod yn ôl adre ac yn mwynhau heddwch.
Byddan nhw’n teimlo’n saff a fydd neb yn eu dychryn nhw.
28Peidiwch bod ag ofn, bobl Jacob, fy ngweision,”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn,
“dw i gyda chi.
Dw i’n mynd i ddinistrio’r gwledydd hynny
lle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl,
ond wna i ddim eich dinistrio chi.
Bydda i’n eich disgyblu chi,
ond dim ond faint dych chi’n ei haeddu;
alla i ddim peidio’ch cosbi chi o gwbl.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015