No themes applied yet
Neges am Babilon
1Y neges roddodd yr ARGLWYDD am Babilon a gwlad Babilonia, drwy’r proffwyd Jeremeia:
2“Cyhoeddwch y newyddion drwy’r gwledydd i gyd;
peidiwch dal dim yn ôl.
Gwnewch yn siŵr fod pawb yn clywed ac yn deall:
‘Mae Babilon yn mynd i syrthio!
Bydd y duw Bel yn cael ei gywilyddio!
Bydd Merodach50:2 Bel … Merodach Dau enw ar yr un duw. yn cael ei falu!
Bydd eilun-dduwiau Babilon yn cael eu cywilyddio!
Bydd ei delwau diwerth yn cael eu malu.
3Bydd gwlad yn ymosod arni o gyfeiriad y gogledd.
Bydd yn ei dinistrio hi’n llwyr, a fydd neb yn byw yno.
Bydd pobl ac anifeiliaid wedi dianc i ffwrdd.’”
Pobl Israel yn dod adre
4“Bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD,
“bydd pobl Israel a phobl Jwda yn dod adre gyda’i gilydd.”
Byddan nhw’n crio wrth gerdded,
ac eisiau perthynas iawn gyda’u Duw eto.
5Byddan nhw’n holi am y ffordd i Seion,
ac yna’n troi i’r cyfeiriad hwnnw.
Byddan nhw’n ymrwymo i fod yn ffyddlon i’r ARGLWYDD,
a fydd yr ymrwymiad hwnnw byth yn cael ei anghofio.
6“Mae fy mhobl wedi bod fel defaid oedd ar goll.
Roedd eu bugeiliaid wedi gadael iddyn nhw grwydro i ffwrdd.
Maen nhw wedi bod yn crwydro ar y mynyddoedd –
crwydro o gopa un bryn i’r llall,
wedi anghofio’r ffordd yn ôl i’r gorlan.
7Roedd pawb ddaeth ar eu traws yn eu llarpio.
Ond wedyn roedd y gelynion hynny’n dweud,
‘Does dim bai arnon ni.
Maen nhw wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.
Fe oedd eu porfa go iawn nhw – unig obaith eu hynafiaid.’”
8“Ffowch o Babilon! Ewch allan o wlad y Babiloniaid! Am y cyntaf i adael – fel y bychod geifr sy’n arwain y praidd. 9Dw i’n mynd i wneud i nifer o wledydd cryf o’r gogledd ymosod ar Babilon. Byddan nhw’n trefnu’u hunain yn rhengoedd i ymosod arni, yn dod o’r gogledd ac yn ei choncro hi. Bydd eu saethau’n taro’r targed bob tro, fel saethau’r milwyr gorau.
10Bydd gwlad Babilonia yn cael ei hysbeilio.
Bydd milwyr y gelyn yn cymryd popeth maen nhw eisiau,”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
Babilon yn syrthio
Yr ARGLWYDD:
11“Bobl Babilon, chi wnaeth ysbeilio gwlad fy mhobl i.
Roeddech chi mor hapus, ac yn dathlu.
Roeddech chi’n prancio o gwmpas fel lloi mewn cae.
Roeddech chi’n gweryru fel meirch.
12Ond bydd Babilon eich mamwlad yn cael ei chywilyddio’n fawr,
a’r wlad lle cawsoch eich geni yn teimlo’r gwarth.
A dweud y gwir, hi fydd y lleiaf pwysig o’r gwledydd i gyd!
Bydd hi’n anialwch sych a diffaith.”
Jeremeia:
13Am fod yr ARGLWYDD wedi digio
fydd neb yn cael byw yno –
bydd Babilon yn cael ei dinistrio’n llwyr.
Bydd pawb sy’n pasio heibio wedi’u syfrdanu,
ac yn chwibanu wrth weld beth ddigwyddodd iddi.
Yr ARGLWYDD:
14“Pawb i’w le, yn barod i ymosod ar Babilon!
Dewch, chi sy’n trin y bwa saeth,
saethwch ati! Defnyddiwch eich saethau i gyd!
Mae hi wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.
15Gwaeddwch wrth ymosod o bob cyfeiriad.
Mae’n rhoi arwydd ei bod am ildio.
Mae ei thyrau amddiffynnol wedi syrthio,
a’i waliau wedi’u bwrw i lawr.
Fi, yr ARGLWYDD, sy’n dial arni.
Gwna i iddi beth wnaeth hi i eraill!
16Bydd y rhai sy’n hau hadau yn cael eu cipio o Babilon,
a’r rhai sy’n trin y cryman adeg cynhaeaf hefyd.
Bydd pawb yn ffoi at eu pobl eu hunain,
a dianc i’w gwledydd rhag i’r gelyn eu lladd.”
Pobl Israel yn dod adre
17Mae Israel fel praidd wedi’i yrru ar chwâl gan lewod. Brenin Asyria oedd y cyntaf i’w llarpio nhw,50:17 Brenin … nhw Brenin Asyria goncrodd Samaria (prifddinas teyrnas y gogledd) yn 722 CC. a nawr mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cnoi beth oedd ar ôl o’r esgyrn!50:17 Nebwchadnesar … esgyrn Nebwchadnesar, brenin Babilon, goncrodd Jerwsalem yn 587 CC. 18Felly, dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i’n mynd i gosbi brenin Babilon a’i bobl, fel gwnes i gosbi brenin Asyria. 19Bydda i’n dod â phraidd Israel yn ôl i’w borfa ei hun. Byddan nhw’n pori ar Fynydd Carmel ac yn ardal Bashan. Byddan nhw’n cael eu digoni ar fryniau Effraim ac yn ardal Gilead. 20Bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD,
“Fydd Israel yn gwneud dim byd o’i le;
fydd dim pechod i’w gael yn Jwda.
Dw i’n mynd i faddau i’r rhai wnes i eu cadw’n fyw.”
Bydd Duw yn cosbi Babilonia
Yr ARGLWYDD:
21“Ewch i ymosod ar wlad Merathaïm!
Ymosodwch ar bobl Pecod!50:21 Merathaïm … Pecod Ffurfiau Hebraeg o enwau Babilonaidd ar rannau o’r wlad. Merathaïm oedd y morlynnoedd wrth aberoedd afonydd Tigris ac Ewffrates, ond yn Hebraeg mae’r gair yn golygu “gwrthryfel dwbl”. Roedd Pecod yn enw ar lwyth yn ne-ddwyrain Babilon, ond yn Hebraeg mae’n golygu “cosb”.
Lladdwch nhw a’u dinistrio’n llwyr,”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
“Gwnewch bopeth dw i’n ei orchymyn i chi.
22Mae sŵn rhyfel i’w glywed yn y wlad –
sŵn dinistr ofnadwy!
23Roedd Babilon fel gordd yn malu’r ddaear,
ond bellach mae’r ordd wedi’i thorri!
Mae Babilon wedi’i gwneud
yn olygfa ddychrynllyd i’r gwledydd i gyd.
24Rôn i wedi gosod trap i ti, Babilon,
a cest dy ddal cyn i ti sylweddoli beth oedd yn digwydd!
Am dy fod wedi ymladd yn fy erbyn i, yr ARGLWYDD,
cest dy ddal a’th gymryd yn gaeth.”
Jeremeia:
25Mae’r ARGLWYDD wedi agor ei stordy arfau;
mae wedi dod ag arfau ei ddigofaint i’r golwg.
Mae gan y Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus,
waith i’w wneud yng ngwlad y Babiloniaid.
Yr ARGLWYDD:
26“Dewch yn ei herbyn hi o ben draw’r byd.
Agorwch ei hysguboriau hi.
Trowch hi’n domen o adfeilion! Dinistriwch hi’n llwyr!
Peidiwch gadael unrhyw un ar ôl yn fyw!
27Lladdwch ei milwyr hi i gyd,
fel teirw yn cael eu gyrru i’r lladd-dy.
Ydy, mae hi ar ben arnyn nhw!
Mae’r diwrnod iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.”
28Gwrandwch ar y ffoaduriaid sy’n dianc o Babilon. Maen nhw ar eu ffordd i Seion, i ddweud sut mae’r ARGLWYDD wedi dial – wedi dial ar Babilon am beth wnaethon nhw i’w deml.
Yr ARGLWYDD:
29“Galwch am fwasaethwyr i ymosod ar Babilon!
Galwch ar bawb sy’n trin y bwa saeth i ddod yn ei herbyn hi!
Codwch wersyll o gwmpas y ddinas!
Does neb i gael dianc!
Talwch yn ôl iddi am beth wnaeth hi.
Gwnewch iddi hi beth wnaeth hi i eraill.
Mae hi wedi ymddwyn yn haerllug
yn erbyn yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel.
30Felly, bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio’n farw ar ei strydoedd,
a’i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
31“Gwranda! Dw i yn dy erbyn di, ddinas falch,”
meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus.
“Mae’r diwrnod pan dw i’n mynd i dy gosbi di wedi dod.
32Bydd y ddinas falch yn baglu ac yn syrthio,
a fydd neb yna i’w chodi ar ei thraed.
Dw i’n mynd i roi dy drefi di ar dân,
a bydd popeth o dy gwmpas yn cael ei losgi’n ulw.”
33Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Mae pobl Israel a phobl Jwda yn cael eu cam-drin. Mae’r rhai wnaeth eu caethiwo yn dal gafael ynddyn nhw, ac yn gwrthod eu gollwng nhw’n rhydd. 34Ond mae’r un fydd yn eu rhyddhau nhw yn gryf – yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw e.
Bydd e’n gweithredu ar eu rhan nhw,
ac yn dod â heddwch i’w gwlad nhw.
Ond bydd yn aflonyddu ar y bobl
sy’n byw yn Babilon.
35Bydd cleddyf yn taro’r Babiloniaid,”
– yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
“Bydd yn taro pawb sydd yn byw yn Babilon.
Bydd yn taro’i swyddogion a’i gwŷr doeth!
36Bydd cleddyf yn taro’i phroffwydi ffals,
a bydd hi’n amlwg mai ffyliaid oedden nhw.
Bydd cleddyf yn taro’i milwyr,
a byddan nhw’n cael eu difa!
37Bydd cleddyf yn taro’u ceffylau a’u cerbydau rhyfel.
Bydd yn taro’r milwyr tramor sydd gyda hi,
a byddan nhw’n wan fel merched!
Bydd cleddyf yn taro’i thrysorau,
a bydd y cwbl yn cael ei gymryd i ffwrdd yn ysbail.
38Bydd sychder yn taro’r wlad,
a bydd y cyflenwad dŵr yn dod i ben!
Achos mae’r wlad yn llawn o eilun-dduwiau
a delwau dychrynllyd sy’n eu gyrru nhw’n wallgof!
39Felly, ysbrydion yr anialwch, bwganod ac estrys
fydd yn byw yn Babilon.
Fydd pobl yn byw yno byth eto –
neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau.
40Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorra
a’r pentrefi o’u cwmpas.
Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto.”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
41“Gwyliwch! Mae byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd.
Mae gwlad gref a brenhinoedd ym mhen draw’r byd
yn paratoi i fynd i ryfel.
42Mae ei milwyr wedi gafael yn y bwa a’r cleddyf,
maen nhw’n greulon a fyddan nhw’n dangos dim trugaredd.
Mae sŵn eu ceffylau’n carlamu fel sŵn y môr yn rhuo.
Mae eu rhengoedd nhw mor ddisgybledig,
ac maen nhw’n dod yn eich erbyn chi, bobl Babilon.”
43Mae brenin Babilon wedi clywed amdanyn nhw.
Does dim byd all e ei wneud.
Mae dychryn wedi gafael ynddo,
fel gwraig mewn poen wrth gael babi.50:41-43 Gwyliwch! mae byddin … wrth gael babi. Dyfyniad o Jeremeia 6:22-24. Yno Babilon oedd y gorthrymwr, ond yma mae byddin yn ymosod ar Babilon.
44“Bydda i’n gyrru pobl Babilon o’u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru’r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i’n dewis yr hyrddod gorau i’w llarpio. Achos pwy sy’n debyg i mi? Pwy sy’n mynd i’m galw i i gyfri? Pa fugail sy’n gallu sefyll yn fy erbyn i?”
45Dyma gynllun yr ARGLWYDD yn erbyn Babilon. Dyma mae’n bwriadu ei wneud i wlad Babilonia:
“Bydd hyd yn oed yr ŵyn bach yn cael eu llusgo i ffwrdd.
Bydd eu corlan yn cael ei dinistrio am beth wnaethon nhw.
46Bydd pobl y ddaear yn crynu wrth glywed fod Babilon wedi’i choncro.
Bydd eu sŵn nhw’n gweiddi i’w glywed drwy’r gwledydd i gyd.”50:44-46 Bydda i’n gyrru … drwy’r gwledydd i gyd Dyfyniad o Jeremeia 49:19-21. Yno roedd Duw yn defnyddio Babilon i gyflawni ei fwriadau, ond yma mae Duw yn cosbi Babilon.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015