No themes applied yet
19:1 Hebraeg 8:23. O na fyddai fy mhen yn ffynnon ddŵr
a’r dagrau yn pistyllio o’m llygaid,
Wedyn byddwn i’n crio ddydd a nos
am y rhai hynny o’m pobl sydd wedi cael eu lladd!
29:2 Hebraeg 9:1. O na fyddai gen i gaban yn yr anialwch –
llety lle mae teithwyr yn aros dros nos.
Wedyn byddwn i’n gallu dianc,
a mynd i ffwrdd oddi wrth fy mhobl.
Maen nhw i gyd wedi bod yn anffyddlon i Dduw.
Cynulleidfa o fradwyr ydyn nhw!
Yr ARGLWYDD:
3“Mae eu tafodau fel bwa wedi’i blygu
i saethu celwyddau.
Maen nhw wedi dod yn bwerus yn y wlad
drwy fod yn anonest.
Ac maen nhw wedi mynd o ddrwg i waeth!
Does ganddyn nhw ddim eisiau fy nabod i.”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
4“Gwyliwch eich ffrindiau!
Allwch chi ddim trystio’ch perthnasau hyd yn oed!
Maen nhw i gyd yn twyllo’i gilydd,
ac yn dweud celwyddau cas am ei gilydd.
5Mae pawb yn twyllo’u ffrindiau.
Does neb yn dweud y gwir.
Maen nhw wedi hen arfer dweud celwydd:
yn pechu, ac yn rhy wan i newid eu ffyrdd.
6Pentyrru gormes ar ben gormes, a thwyll ar ben twyll!
Does ganddyn nhw ddim eisiau fy nabod i,”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
7Felly, dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud:
“Dw i’n mynd i’w puro nhw mewn tân a’u profi nhw.
Beth arall alla i ei wneud â’m pobl druan?
8Mae eu tafodau fel saethau marwol,
yn dweud celwydd drwy’r amser.
Maen nhw’n dweud eu bod yn dymuno’n dda i’w cymdogion,
ond yn eu calon yn bwriadu brad!
9Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?” meddai’r ARGLWYDD.
“Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?”
Jeremeia:
10Dw i’n mynd i grio’n uchel am y mynyddoedd,
a galaru dros diroedd pori’r anialwch.
Maen nhw wedi llosgi, a does neb yn teithio’r ffordd honno.
Does dim sŵn anifeiliaid yn brefu.
Mae hyd yn oed yr adar a’r anifeiliaid gwyllt
wedi dianc oddi yno.
Yr ARGLWYDD:
11“Bydda i’n gwneud Jerwsalem yn bentwr o rwbel,
ac yn lle i siacaliaid fyw.
Bydda i’n dinistrio pentrefi Jwda,
a fydd neb yn gallu byw ynddyn nhw.”
12Pwy sy’n ddigon doeth i ddeall pam mae hyn wedi digwydd? Gyda pwy mae’r ARGLWYDD wedi siarad, er mwyn iddo esbonio’r peth?
Pam mae’r wlad wedi’i difetha’n llwyr,
a’r tir fel anialwch does neb yn teithio drwyddo?
13A dyma’r ARGLWYDD yn ateb, “Am eu bod nhw wedi troi cefn ar y ddysgeidiaeth rois i iddyn nhw. Dŷn nhw ddim wedi gwrando arna i, a gwneud beth rôn i’n ddweud. 14Yn lle hynny maen nhw wedi bod yn hollol ystyfnig a gwneud beth maen nhw eisiau, ac wedi addoli’r duwiau Baal yr un fath â’u hynafiaid. 15Felly, dyma dw i, Duw Israel, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn ei ddweud:
‘Dw i’n mynd i roi profiadau chwerw yn fwyd i’r bobl,
a dŵr gwenwynig barn iddyn nhw i’w yfed.’
16“Dw i’n mynd i’w gyrru nhw ar chwâl. Byddan nhw ar goll mewn gwledydd dŷn nhw, fel eu hynafiaid, yn gwybod dim amdanyn nhw. Bydd byddinoedd eu gelynion yn mynd ar eu holau nes bydda i wedi’u dinistrio nhw’n llwyr.”
Galw ar y bobl i alaru
17Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud:
“Meddyliwch yn ofalus beth sy’n digwydd.
Galwch am y gwragedd sy’n galaru dros y meirw.
Anfonwch am y rhai mwyaf profiadol.
18Ie, galwch arnyn nhw i ddod ar frys,
a dechrau wylofain yn uchel:
crio nes bydd y dagrau’n llifo, a’n llygaid ni’n socian.
19Mae sŵn crio uchel i’w glywed yn Seion:
‘Mae hi ar ben arnon ni!
Dŷn ni wedi’n cywilyddio’n llwyr.
Rhaid i ni adael ein gwlad,
achos maen nhw wedi chwalu’n tai ni i gyd.’”
20“Felly, chi wragedd, gwrandwch beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud. Gwrandwch yn ofalus ar ei eiriau.
Dysgwch eich merched i alaru.
Dysgwch y gân angladdol yma i’ch gilydd:
21‘Mae marwolaeth wedi dringo drwy’r ffenestri;
mae wedi dod i mewn i’n palasau.
Mae wedi cipio ein plant oedd yn chwarae yn y strydoedd,
a’r bechgyn ifanc oedd yn cyfarfod yn y sgwâr yn y trefi.’”
22Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Bydd cyrff marw yn gorwedd
fel tail wedi’i wasgaru ar gae,
neu ŷd wedi’i dorri a’i adael yn sypiau,
a neb yn ei gasglu.”
23Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Ddylai pobl glyfar ddim brolio’u clyfrwch,
na’r pwerus eu bod nhw’n bobl bwerus;
a ddylai pobl gyfoethog ddim brolio’u cyfoeth.
24Dim ond un peth ddylai pobl frolio amdano:
eu bod nhw yn fy nabod i, ac wedi deall
mai fi ydy’r ARGLWYDD sy’n llawn cariad,
yn deg, ac yn gwneud beth sy’n iawn ar y ddaear.
A dw i eisiau i bobl wneud yr un fath.”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
25“Gwyliwch!” meddai’r ARGLWYDD. “Mae’r amser yn dod pan fydda i’n cosbi’r rhai sydd ddim ond wedi cael enwaediad corfforol – 26pobl yr Aifft, Jwda, Edom, Ammon, Moab, a’r bobl sy’n byw ar ymylon yr anialwch. Does dim un ohonyn nhw wedi’u henwaedu go iawn, a dydy calon pobl Israel ddim wedi’i henwaedu go iawn chwaith.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015