No themes applied yet
Job yn ymateb: Duw wnaeth hyn
1Dyma Job yn ateb:
2“Mae’n amlwg eich bod chi’n bobl mor bwysig!
Fydd doethineb ddim yn bod ar ôl i chi fynd!
3Ond mae gen innau feddwl hefyd –
dw i ddim gwaeth na chi.
Mae pawb yn gwybod y pethau yna!
4Ond dw i wedi troi’n destun sbort i’m ffrindiau –
ie fi, oedd yn galw ar Dduw ac yn cael ateb.
Fi, y dyn da a gonest – yn destun sbort!
5Mae pobl gyfforddus eu byd yn wfftio fy helyntion –
‘Dyna sy’n digwydd pan mae dyn yn llithro!’
6Ond mae lladron yn cael bywyd braf,
a’r rhai sy’n herio Duw yn byw yn saff –
ac yn cario eu duw yn eu dwylo!
7Ond meddwch chi:
‘Gofyn i’r anifeiliaid – byddan nhw’n dy ddysgu;
neu i’r adar – byddan nhw’n dweud wrthot ti.
8Neu gofyn i’r ddaear – bydd hi’n dy ddysgu,
ac i bysgod y môr ddangos y ffordd i ti.
9Pa un ohonyn nhw sydd ddim yn gwybod
mai Duw sydd wedi gwneud hyn?
10Yn ei law e mae bywyd pob creadur
ac anadl pob person byw.
11Ydy’r glust ddim yn profi geiriau
fel mae’r geg yn blasu bwyd?
12Onid pobl mewn oed sy’n ddoeth,
a’r rhai sydd wedi byw’n hir sy’n deall?’
13Duw ydy’r un doeth a chryf;
ganddo fe y mae cyngor a deall.
14Does dim ailadeiladu beth mae e wedi’i chwalu;
na dianc i’r sawl mae e wedi’i garcharu.
15Pan mae’n dal y glawogydd yn ôl, mae sychder yn dilyn;
pan mae e’n eu gollwng yn rhydd, maen nhw’n boddi’r tir.
16Duw ydy’r un cryf a medrus;
mae’r un sydd ar goll a’r un sy’n camarwain
yn atebol iddo.
17Mae’n arwain cynghorwyr i ffwrdd yn noeth,
ac yn gwneud i farnwyr edrych fel ffyliaid.
18Mae’n tynnu gwisg brenhinoedd oddi arnyn nhw,
ac yn rhwymo gwisg caethwas amdanyn nhw.
19Mae’n arwain offeiriaid i ffwrdd yn noeth,
ac yn bwrw swyddogion y deml i lawr.
20Mae’n cau cegau’r cynghorwyr ffyddlon,
ac yn diddymu cyngor y dynion doeth.
21Mae’n dwyn anfri ar dywysogion,
ac yn diarfogi’r rhyfelwr cryf.
22Mae’n datguddio pethau dirgel y tywyllwch,
ac yn dod â phethau tywyll i’r golau.
23Mae’n gwneud i wledydd dyfu, ac yna’n eu dinistrio;
mae’n estyn ffiniau’r gwledydd ac yna’n eu chwalu.
24Mae’n gwneud i arweinwyr y bobl fynd o’u pwyll,
ac yn eu gadael i grwydro mewn anialwch heb lwybrau;
25yn ymbalfalu heb olau yn y tywyllwch,
ac yn sigledig ar eu traed fel meddwon.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015