No themes applied yet
Job yn ymateb: ble mae Duw?
1Dyma Job yn ateb:
2“Dw i am gwyno yn ei erbyn eto heddiw;
mae e’n dal i’m cosbi er fy mod i’n griddfan.
3O na fyddwn i’n gwybod ble i ddod o hyd iddo,
a sut i gyrraedd ei orsedd, lle mae’n barnu!
4Byddwn yn gosod fy achos ger ei fron
ac yn cyflwyno llond ceg o ddadleuon iddo.
5Byddwn i’n gweld wedyn sut byddai’n fy ateb i
a dechrau deall beth mae’n ddweud wrtho i.
6Fyddai e’n fy sathru drwy ddadlau yn fy erbyn?
Na, byddai’n rhoi gwrandawiad teg i mi.
7Yno gall dyn gonest gyflwyno ei achos o’i flaen.
Byddai fy marnwr yn fy nghael yn ddieuog am byth!
8Dw i’n edrych i’r dwyrain, a dydy e ddim yno;
i’r gorllewin, ond dw i’n dal ddim yn ei weld.
9Edrych i’r gogledd, a methu dod o hyd iddo;
i’r de, ond does dim sôn amdano.
10Ond mae e’n gwybod popeth amdana i;
wedi iddo fy mhrofi, bydda i’n dod allan fel aur pur.
11Dw i wedi’i ddilyn yn ffyddlon,
ac wedi cadw ei ffyrdd heb wyro.
12Dw i ddim wedi tynnu’n groes i’w orchmynion;
a dw i wedi trysori ei eiriau’n fwy na dim byd.
13Fe ydy’r unig Un; pwy all newid ei feddwl?
Mae’n gwneud beth bynnag mae e eisiau.
14Bydd yn cyflawni ei gynllun ar fy nghyfer i,
fel llawer o gynlluniau eraill sydd ganddo.
15Dyna pam dw i wedi dychryn o’i flaen;
mae meddwl am y peth yn codi ofn arna i.
16Mae Duw wedi gwneud i mi anobeithio;
mae’r Un sy’n rheoli popeth yn codi arswyd arna i!
17Ond er gwaetha’r tywyllwch, dw i ddim wedi tewi –
y tywyllwch dudew ddaeth drosto i.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015