No themes applied yet
Apêl olaf Job
1Dw i wedi ymrwymo
i beidio llygadu merch ifanc.
2Beth fyddai rhywun felly’n ei dderbyn gan Dduw?
Beth fyddai’n ei gael gan yr Un uchod sy’n rheoli popeth?
3Onid i’r annuwiol mae dinistr yn cael ei roi,
a thrychineb i’r un sy’n gwneud drwg?
4Ydy e ddim wedi gweld sut dw i wedi byw?
Ydy e ddim wedi gwylio pob cam?
5Ydw i wedi cymysgu gyda’r rhai celwyddog,
neu wedi bod yn rhy barod i dwyllo?
6Dylai fy mhwyso i ar glorian sy’n gywir,
iddo weld fy mod i’n gwbl ddieuog.
7Os ydw i wedi crwydro o’i ffyrdd
a gadael i’m llygaid ddenu’r galon,
neu os oes staen drygioni ar fy nwylo,
8yna boed i eraill fwyta’r cynhaeaf wnes i ei hau,
ac i’r cnwd a blannais gael ei ddinistrio!
9Os cafodd fy nghalon ei hudo gan wraig rhywun arall,
a minnau’n dechrau loetran wrth ddrws ei thŷ,
10boed i’m gwraig i falu blawd i ddyn arall,
a boed i ddynion eraill orwedd gyda hi!
11Am i mi wneud peth mor ffiaidd –
pechod sy’n haeddu ei gosbi.
12Mae fel tân sy’n dinistrio’n llwyr,31:12 dinistrio’n llwyr Hebraeg, “dinistrio i Abadon” (sef ‘lle dinistr’).
ac yn llosgi fy eiddo i gyd.
13Ydw i wedi diystyru cwyn caethwas
neu forwyn yn fy erbyn erioed?
14Beth wnawn i pe byddai Duw yn codi
i edrych ar y mater? Sut fyddwn i’n ei ateb?
15Onid Duw greodd nhw, fel fi, yn y groth?
Onid yr un Duw sy wedi’n gwneud ni i gyd?
16Ydw i wedi gwrthod helpu’r tlawd,
neu siomi’r weddw oedd yn disgwyl rhywbeth?
17Ydw i wedi bwyta ar fy mhen fy hun,
a gwrthod ei rannu gyda’r amddifad?
18Na, dw i wedi’i fagu fel tad bob amser,
a helpu’r weddw ar hyd fy mywyd.
19Wnes i erioed adael neb yn rhewi heb ddillad,
na gadael rhywun tlawd heb gôt.
20Bydden nhw’n diolch i mi o waelod calon
wrth i wlân fy nefaid eu cadw’n gynnes.
21Os gwnes i fygwth yr amddifad,
wrth weld fod gen i gefnogaeth yn y llys,
22yna boed i’m hysgwydd gael ei thynnu o’i lle,
a’m braich gael ei thorri wrth y penelin.
23Roedd gen i ofn i Dduw anfon dinistr;
allwn i byth wynebu ei fawredd!
24Ydw i wedi rhoi fy hyder mewn aur,
a theimlo’n saff am fod gen i aur coeth?
25Wnes i orfoleddu yn y cyfoeth,
a’r holl feddiannau oedd gen i?
26Wnes i edrych ar yr haul yn tywynnu,
a’r lleuad yn symud yn ei ysblander,
27nes i’m calon gael ei hudo’n dawel fach,
a’m llaw yn taflu cusan i’w haddoli?
28Byddai hynny hefyd yn bechod i’w gosbi –
byddwn wedi gwadu’r Duw sydd uchod.
29Oeddwn i’n falch pan oedd fy ngelyn mewn helynt,
neu’n cael gwefr o weld pethau’n ddrwg arno?
30Na, wnes i ddweud dim yn ei erbyn
na’i felltithio yn y gobaith y byddai’n marw.
31Oes unrhyw un o’m teulu wedi dweud,
‘Pam gafodd hwn a hwn ddim croeso wrth fwrdd Job?’
32Doedd dim rhaid i’r crwydryn gysgu allan ar y stryd,
am fod fy nrws yn agored i deithwyr.
33Ydw i wedi ceisio cuddio fy meiau fel Adda,
neu gladdu fy mhechod dan fy mantell,
34am fod gen i ofn barn y dyrfa,
a dirmyg pawb o’m cwmpas
– cadw’n dawel a dewis peidio mynd allan?
35O na fyddai gen i rywun i wrando arna i!
Dw i’n llofnodi f’amddiffyniad!
Boed i’r Un sy’n rheoli popeth fy ateb!
Boed i’r un sy’n cyhuddo ddod â gwŷs ddilys yn fy erbyn!
36Byddwn i’n ei chario’n gyhoeddus,
a’i gwisgo fel coron ar fy mhen.
37Byddwn yn rhoi cyfrif iddo am bob cam,
ac yn camu o’i flaen yn hyderus fel tywysog.
38Os ydy’r tir wedi gweiddi yn fy erbyn,
a’i gwysi wedi wylo â’i gilydd –
39Os ydw i wedi dwyn ei gnwd heb dalu,
ac achosi i’r tenantiaid lwgu,
40yna boed i fieri dyfu yn lle gwenith,
a chwyn ffiaidd yn lle haidd!”
Roedd Job wedi gorffen siarad.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015