No themes applied yet
Job yn ymateb: does dim canolwr
1Dyma Job yn ateb:
2“Wrth gwrs, dw i’n gwybod fod hyn i gyd yn wir!
Sut all person dynol fod yn gyfiawn o flaen Duw?
3Er y carai rhywun ddadlau ei achos gydag e,
fyddai rhywun ddim yn gallu ateb un o bob mil o’i gwestiynau!
4Mae Duw mor ddoeth a grymus –
pwy sydd wedi’i herio a dod allan yn un darn?
5Mae e’n symud mynyddoedd heb rybudd,
ac yn eu bwrw wyneb i waered yn ei ddig.
6Mae’n ysgwyd y ddaear o’i lle,
nes bod ei cholofnau’n crynu.
7Mae’n rhoi gorchymyn i’r haul beidio tywynnu,
ac yn cloi y sêr dan sêl.
8Mae e’n lledu’r awyr,
ac yn sathru tonnau’r môr.
9Fe wnaeth yr Arth ac Orion,
Pleiades a chlystyrau sêr y de.
10Mae’n gwneud pethau mawr, tu hwnt i’n deall ni,
a phethau rhyfeddol na ellir byth eu cyfrif.
11Ond petai’n pasio heibio allwn i mo’i weld;
mae’n symud yn ei flaen heb i mi sylwi.
12Petai’n cymryd rhywbeth, pwy all ei stopio?
Pwy fyddai’n meiddio dweud, ‘Beth wyt ti’n wneud?’
13Duw ydy e, a dydy e ddim yn atal ei ddigofaint;
mae helpwyr bwystfil y môr9:13 bwystfil y môr Hebraeg, Rahab. wedi’u bwrw i lawr.
14Felly pa obaith sydd i mi ei ateb,
a dod o hyd i ddadleuon yn ei erbyn?
15Er fy mod i’n ddieuog, alla i mo’i ateb,
dim ond pledio am drugaredd gan fy Marnwr.
16Hyd yn oed petai’n ymateb i’m gwŷs,
allwn i ddim bod yn siŵr y byddai’n gwrando arna i –
17oherwydd mae’n fy sathru i am y nesa peth i ddim,
ac wedi fy anafu drosodd a throsodd am ddim rheswm.
18Dydy e ddim yn rhoi cyfle i mi ddal fy ngwynt,
dim ond fy llenwi â gwenwyn chwerw!
19Os mai prawf cryfder ydy hyn – fe ydy’r Un cry!
Os mai cwestiwn o bwy sy’n iawn – pwy sy’n mynd i’w alw e i’r llys?
20Er fy mod i’n ddieuog, byddai fy ngeiriau’n fy nghondemnio i;
er fy mod i’n ddi-fai, byddai e’n dangos i mi fy mod yn euog.
21Dydw i ddim ar fai,
ond dw i’n poeni dim beth fydd yn digwydd i mi;
dw i wedi cael llond bol ar fywyd!
22‘Does dim gwahaniaeth!’, dyna dw i’n ddweud,
‘Mae e’n dinistrio’r di-fai a’r euog fel ei gilydd.’
23Pan mae ei chwip yn dod â marwolaeth sydyn,
mae e’n chwerthin ar anobaith y dieuog.
24Mae’r tir wedi’i roi yn nwylo pobl ddrwg,
ac mae Duw’n rhoi mwgwd dros lygaid ei barnwyr.
Os nad fe sy’n gwneud hyn, yna pwy sydd?
25Mae dyddiau fy mywyd yn mynd heibio’n gynt na rhedwr;
yn rhuthro i ffwrdd heb i mi weld hapusrwydd.
26Maen nhw’n llithro heibio fel cychod brwyn,
neu fel eryr yn disgyn ar ei ysglyfaeth.
27Os dweda i, ‘Dw i’n mynd i stopio cwyno,
dw i am wenu a bod yn hapus,’
28dw i’n dychryn wrth feddwl beth fydda i’n ei ddiodde nesa.
Dw i’n gwybod wnei di ddim gadael i mi fynd!
29Dw i’n cael fy nghyfri’n euog beth bynnag,
felly beth ydy’r pwynt ymdrechu?
30Petawn i’n ymolchi â sebon,
ac yn sgwrio fy nwylo â soda,
31byddet ti’n fy suddo mewn carthion
nes bod hyd yn oed fy nillad yn ffiaidd i mi.
32Nid creadur dynol fel fi ydy Duw, felly alla i ddim dweud,
‘Gad i ni fynd i gyfraith!’
33O na fyddai canolwr rhyngon ni,
i osod ei law ar y naill a’r llall ohonon ni!
34Rhywun i symud gwialen Duw oddi arna i
fel bod dim rhaid i mi ddychryn ac arswydo o’i flaen.
35Byddwn i’n siarad yn agored wedyn, heb ofni;
ond fel mae pethau, alla i ddim gwneud hynny.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015