No themes applied yet
Iacháu wrth y pwll
1Beth amser wedyn, aeth Iesu i Jerwsalem eto i un o wyliau’r Iddewon.5:1 un o wyliau’r Iddewon: Does dim sicrwydd pa Ŵyl oedd hon. 2Yn Jerwsalem wrth ymyl Giât y Defaid mae pwll o’r enw Bethsatha5:2 Bethsatha: Mae rhai llawysgrifau yn dweud Bethesda ac eraill Bethsaida. (enw Hebraeg). O gwmpas y pwll mae pum cyntedd colofnog gyda tho uwchben pob un. 3Roedd nifer fawr o bobl anabl yn gorwedd yno – rhai yn ddall, eraill yn gloff neu wedi’u parlysu.5:3 parlysu: Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu adn. 3b-4, Roedden nhw’n disgwyl i’r dŵr gael ei gynhyrfu. 4 Byddai angel yr Arglwydd yn dod i lawr weithiau ac yn cynhyrfu’r dŵr yn y pwll. Wedyn byddai’r person cyntaf i fynd i mewn i’r dŵr yn cael ei iacháu, beth bynnag oedd ei salwch.
5Roedd un dyn yno oedd wedi bod yn anabl ers tri deg wyth o flynyddoedd. 6Gwelodd Iesu e’n gorwedd yno, ac roedd yn gwybod ers faint roedd y dyn wedi bod yn y cyflwr hwnnw, felly gofynnodd iddo, “Wyt ti eisiau gwella?”
7“Syr,” meddai’r dyn, “does gen i neb i’m helpu i fynd i mewn i’r pwll pan mae’r dŵr yn cyffroi. Tra dw i’n ceisio mynd i mewn, mae rhywun arall yn llwyddo i gyrraedd o mlaen i.”
8Yna dwedodd Iesu wrtho, “Saf ar dy draed! Cod dy fatras a cherdda.” 9A dyma’r dyn yn cael ei wella ar unwaith; cododd ei fatras a dechrau cerdded. Digwyddodd hyn ar ddydd Saboth yr Iddewon, 10felly dyma’r arweinwyr Iddewig yn dweud wrth y dyn oedd wedi cael ei iacháu, “Mae hi’n ddydd Saboth heddiw; rwyt ti’n torri’r Gyfraith wrth gario dy fatras!”5:10 gario dy fatras: Roedd traddodiad y rabïaid yn y Mishna yn dweud fod 39 math o waith yn cael ei wahardd ar y Saboth. Roedd cario pethau o un lle i’r llall ar y rhestr, a chario matras neu wely yn cael ei enwi’n benodol.
11Ond atebodd, “Ond y dyn wnaeth fy iacháu i ddwedodd wrtho i, ‘Cod dy fatras a cherdda.’”
12Felly dyma nhw’n gofyn iddo, “Pwy ydy’r dyn ddwedodd hynny wrthot ti?”
13Ond doedd gan y dyn gafodd ei iacháu ddim syniad, ac roedd Iesu wedi llithro i ffwrdd am fod tyrfa fawr wedi casglu yno.
14Yna’n nes ymlaen daeth Iesu o hyd i’r dyn yn y deml, a dweud wrtho, “Edrych, rwyt ti’n iach bellach. Stopia bechu neu gallai rhywbeth gwaeth ddigwydd i ti.” 15Aeth y dyn i ffwrdd a dweud wrth yr arweinwyr mai Iesu oedd wedi’i wella.
Bywyd drwy’r Mab
16Dyna pam dechreuodd yr arweinwyr Iddewig erlid Iesu – am ei fod yn gwneud pethau fel hyn ar y dydd Saboth. 17Ond yr ateb roddodd Iesu iddyn nhw oedd: “Mae fy Nhad yn dal i weithio drwy’r amser, felly dw innau’n gweithio hefyd.” 18Am iddo ddweud hyn roedd yr arweinwyr crefyddol yn ceisio’n galetach fyth i’w ladd; doedd e ddim yn unig yn torri rheolau’r Saboth, roedd hefyd yn galw Duw yn Dad iddo’i hun, a gwneud ei hun yn gyfartal â Duw.
19Dyma ddwedodd Iesu wrthyn nhw: “Credwch chi fi, dydy’r Mab ddim yn gallu gwneud unrhyw beth ohono’i hun; dim ond beth mae’n gweld ei Dad yn ei wneud. Dw i, y Mab, yn gwneud yn union beth mae’r Tad yn ei wneud. 20Mae’r Tad yn caru’r Mab ac yn dangos iddo bopeth mae’n ei wneud. Bydda i’n gwneud pethau mwy na iacháu’r dyn yma – pethau fydd yn eich syfrdanu chi hyd yn oed! 21Bydd y Mab yn dod â pwy bynnag mae’n ei ddewis yn ôl yn fyw, yn union fel y mae’r Tad yn codi’r meirw a rhoi bywyd iddyn nhw. 22A dydy’r Tad ddim yn barnu neb – mae wedi rhoi’r awdurdod i farnu yng ngofal y Mab, 23er mwyn i bawb anrhydeddu’r Mab yn union fel y maen nhw’n anrhydeddu’r Tad. Pwy bynnag sy’n gwrthod anrhydeddu’r Mab, mae hefyd yn gwrthod anrhydeddu Duw’r Tad anfonodd y Mab i’r byd.
24“Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan y rhai sy’n gwrando ar beth dw i’n ddweud ac yn credu’r un wnaeth fy anfon i. Dŷn nhw ddim yn cael eu condemnio; maen nhw wedi croesi o fod yn farw i fod yn fyw. 25Credwch chi fi, mae’r amser yn dod, ac mae yma’n barod, pan fydd y rhai sy’n farw yn clywed llais Mab Duw a bydd pob un sy’n gwrando ar beth mae’n ei ddweud yn byw. 26Fel mae gan y Tad fywyd ynddo’i hun i’w roi i eraill, mae wedi caniatáu i’r Mab fod â bywyd ynddo’i hun i’w roi i eraill. 27Ac mae hefyd wedi rhoi’r awdurdod iddo i farnu, am mai fe ydy Mab y Dyn.
28“Peidiwch rhyfeddu at hyn! Mae’r amser yn dod pan fydd pawb sy’n eu beddau yn clywed llais Mab Duw 29ac yn dod allan – bydd y rhai sydd wedi gwneud da yn codi i gael bywyd tragwyddol, a bydd y rhai sydd wedi gwneud drwg yn codi i gael eu barnu. 30Ond dw i’n gwneud dim ar fy liwt fy hun; dw i’n barnu yn union fel dw i’n clywed. A dw i’n dyfarnu’n iawn, achos dw i ddim yn gwneud beth dw i eisiau, dim ond beth mae Duw, wnaeth fy anfon i, eisiau.
Tystiolaeth pobl am Iesu
31“Os mai dim ond fi sy’n tystio ar fy rhan fy hun, dydy’r dystiolaeth ddim yn ddilys. 32Ond mae yna un arall sy’n rhoi tystiolaeth o’m plaid i, a dw i’n gwybod fod ei dystiolaeth e amdana i yn ddilys.
33“Dych chi wedi anfon negeswyr at Ioan Fedyddiwr ac mae e wedi tystio am y gwir. 34Does dim angen tystiolaeth ddynol arna i; ond dw i’n cyfeirio ato er mwyn i chi gael eich achub. 35Roedd Ioan fel lamp ddisglair, a buoch chi’n mwynhau sefyll yn ei olau am gyfnod.
36“Ond mae gen i dystiolaeth bwysicach na beth ddwedodd Ioan. Mae beth dw i’n ei wneud (y gwaith mae’r Tad wedi’i roi i mi ei gyflawni), yn dystiolaeth fod y Tad wedi fy anfon i. 37Ac mae’r Tad ei hun, yr un anfonodd fi, wedi tystiolaethu amdana i. Ond dych chi ddim wedi clywed ei lais heb sôn am ei weld! 38Dych chi ddim yn gwrando ar beth mae e’n ddweud, achos dych chi’n gwrthod credu ynof fi, yr un mae wedi’i anfon. 39Dych chi’n astudio’r ysgrifau sanctaidd yn ddiwyd am eich bod yn meddwl y cewch fywyd tragwyddol wrth wneud hynny. Tystiolaethu amdana i mae’r ysgrifau hynny, 40ond dych chi’n gwrthod troi ata i er mwyn cael y bywyd yna!
41“Dw i ddim yn edrych am ganmoliaeth pobl. 42Dw i’n eich nabod chi’n iawn. Dw i’n gwybod eich bod chi ddim yn caru Duw go iawn. 43Dw i wedi dod i gynrychioli fy Nhad, a dych chi’n fy ngwrthod i. Os daw rhywun arall ar ei liwt ei hun, byddwch yn ei dderbyn e! 44Sut allwch chi gredu? Dych chi’n mwynhau canmol eich gilydd, tra’n gwneud dim ymdrech i dderbyn y ganmoliaeth sy’n dod oddi wrth yr unig Dduw.
45“Ond peidiwch tybio mai fi fydd yn eich cyhuddo chi o flaen y Tad. Moses ydy’r un sy’n eich cyhuddo chi. Ie, Moses, yr un dych chi wedi bod yn pwyso arno. 46Tasech chi wir yn credu Moses, byddech chi’n fy nghredu i, achos amdana i ysgrifennodd e! 47Ond gan eich bod chi ddim yn credu beth ysgrifennodd e, sut ydych chi’n gallu credu beth dw i’n ddweud?”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015