No themes applied yet
Jona’n wyllt am fod Duw wedi maddau
1Doedd Jona ddim yn hapus. Roedd e wedi gwylltio’n lân. 2Dyma fe’n gweddïo: O ARGLWYDD, plîs na! Rôn i’n gwybod mai dyma fyddai’n digwydd! Dyna feddyliais i pan oeddwn i adre yn fy ngwlad fy hun, a dyna pam wnes i geisio dianc i Tarshish!
Ti’n Dduw mor garedig a thrugarog,
mor amyneddgar ac anhygoel o hael,
a ddim yn hoffi cosbi!4:2 Salm 103:8; 145:8; Joel 2:13
3Felly, plîs ARGLWYDD, lladd fi! Mae’n well gen i farw na byw i weld hyn! 4Gofynnodd yr ARGLWYDD iddo, “Ydy’n iawn i ti wylltio fel yma?”
5Aeth Jona allan o’r ddinas i gyfeiriad y dwyrain, ac eistedd i lawr. Gwnaeth loches iddo’i hun, ac eistedd yn ei gysgod, yn disgwyl i weld beth fyddai’n digwydd i Ninefe. 6A dyma’r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i blanhigyn bach dyfu uwchben Jona. Roedd i gysgodi drosto, i’w gadw rhag bod yn rhy anghyfforddus. Roedd Jona wrth ei fodd gyda’r planhigyn. 7Ond yn gynnar iawn y bore wedyn anfonodd Duw bryfyn i ymosod ar y planhigyn, a dyma fe’n gwywo. 8Yna yn ystod y dydd dyma Duw yn anfon gwynt poeth o’r dwyrain. Roedd yr haul mor danbaid nes bod Jona bron llewygu. Roedd e eisiau marw, a dyma fe’n gweiddi, “Byddai’n well gen i farw na byw!”
9Dyma’r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Ydy’n iawn i ti fod wedi gwylltio fel yma o achos planhigyn bach?” Ac meddai Jona, “Ydy, mae yn iawn. Dw i’n hollol wyllt!” 10A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho: “Ti’n poeni am blanhigyn bach wnest ti ddim gofalu amdano na gwneud iddo dyfu. Roedd e wedi tyfu dros nos a gwywo’r diwrnod wedyn! 11Ydy hi ddim yn iawn i mi fod â chonsýrn am y ddinas fawr yma, Ninefe? Mae yna dros gant dau ddeg o filoedd o bobl ddiniwed4:11 ddiniwed Hebraeg, “sy’n methu gwahaniaethu rhwng y llaw chwith a’r llaw dde”. yn byw ynddi – a lot fawr o anifeiliaid hefyd!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015