No themes applied yet
Josua yn cael ei wneud yn arweinydd Israel
1Ar ôl i Moses, gwas yr ARGLWYDD, farw, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, gwas Moses: 2“Mae Moses fy ngwas wedi marw. Dos, a chroesi afon Iorddonen. Dw i eisiau i ti arwain y bobl yma i’r tir dw i’n ei roi i chi. 3Fel gwnes i addo i Moses, dw i’n mynd i roi i chi bob modfedd sgwâr fyddwch chi’n cerdded arni.1:3-5 Deuteronomium 11:24,25 4Bydd eich tir yn ymestyn yr holl ffordd o’r diffeithwch yn y de i Fryniau Libanus yn y gogledd. A’r holl ffordd o afon Ewffrates yn y dwyrain (gan gynnwys gogledd Syria hefyd)1:4 gan gynnwys gogledd Syria Hebraeg, “tir yr Hethiaid.” Roedd gogledd Syria ar ffin ddeheuol Ymerodraeth yr Hethiaid. i Fôr y Canoldir yn y gorllewin. 5Bydda i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. Fydd neb yn gallu dy stopio di tra byddi di byw. Wna i ddim dy siomi di na dy adael di. 6Bydd yn gryf a dewr. Ti’n mynd i arwain y bobl yma i goncro’r wlad wnes i addo ei rhoi i’w hynafiaid. 7Ond rhaid i ti fod yn gryf ac yn ddewr iawn! Gwna’n siŵr dy fod yn gwneud popeth mae’r Gyfraith roddodd Moses i ti yn ei ddweud. Paid crwydro oddi wrthi o gwbl, a byddi di’n llwyddo beth bynnag wnei di. 8Darllen sgrôl y Gyfraith yma yn rheolaidd. Myfyria arni ddydd a nos, a’i dysgu, er mwyn i ti wneud beth mae’n ei ddweud. Dyna sut fyddi di’n llwyddo. 9Dw i’n dweud eto, bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn na phanicio. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o’r ffordd!”
Gorchymyn Josua i’r bobl
10Felly dyma Josua yn rhoi’r gorchymyn yma i arweinwyr y llwythau: 11“Ewch drwy’r gwersyll a dweud wrth bawb i gael eu hunain yn barod. Y diwrnod ar ôl yfory dych chi’n mynd i groesi afon Iorddonen, a dechrau concro’r tir mae’r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.”
12Yna dyma Josua yn troi at lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse, a dweud: 13“Cofiwch beth ddwedodd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wrthoch chi. Mae’r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi’r tir yma, sydd i’r dwyrain o afon Iorddonen, i chi setlo i lawr arno. 14Gall eich gwragedd a’ch plant a’ch anifeiliaid aros yma, ar y tir roddodd Moses i chi. Ond rhaid i bob dyn sy’n gallu ymladd groesi’r afon o flaen gweddill eich brodyr, yn barod i frwydro gyda nhw. Rhaid i chi aros i’w helpu nhw 15nes bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi lle iddyn nhw setlo hefyd, a nes bydd y tir mae’r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw wedi’i goncro. Wedyn cewch groesi’n ôl i’r tir wnaeth Moses ei roi i chi, i’r dwyrain o afon Iorddonen.”
16A dyma nhw’n ateb Josua: “Byddwn ni’n gwneud popeth rwyt ti’n ddweud, a mynd ble bynnag wnei di’n hanfon ni. 17Yn union fel gwnaethon ni wrando ar Moses, byddwn ni’n gwrando arnat ti. Boed i’r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda ti, fel roedd e gyda Moses! 18Os bydd unrhyw un yn gwrthryfela yn dy erbyn, ac yn gwrthod gwneud beth ti’n ddweud, y gosb fydd marwolaeth. Felly, bydd yn gryf a dewr!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015