No themes applied yet
Rhannu’r tiroedd i’r gorllewin o afon Iorddonen
1Dyma gofnod o’r ffordd gafodd y tir yn Canaan ei rannu rhwng pobl Israel gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel. 2Cafodd y tir ei rannu rhwng y naw llwyth a hanner drwy daflu coelbren, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 3Roedd Moses eisoes wedi rhoi tir yr ochr arall i afon Iorddonen i ddau lwyth a hanner, a doedd e ddim wedi rhoi tir i lwyth Lefi. 4Roedd disgynyddion Joseff, ar y llaw arall, yn cael eu cyfrif fel dau lwyth – Manasse ac Effraim. Doedd llwyth Lefi ddim i gael tir; roedden nhw i gael rhai trefi arbennig i fyw ynddyn nhw, gyda’r tir o’u cwmpas yn borfa i’w hanifeiliaid.
5Felly dyma bobl Israel yn rhannu’r tir yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Rhoi Hebron i Caleb
6Pan oedden nhw yn Gilgal, dyma ddynion o lwyth Jwda yn mynd i weld Josua. Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad oedd yn siarad ar eu rhan, ac meddai, “Ti’n cofio beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, dyn Duw, amdanon ni’n dau, yn Cadesh-barnea? 7Pedwar deg oed oeddwn i pan anfonodd Moses fi o Cadesh-barnea i ysbïo ar y wlad. A dyma fi’n rhoi adroddiad cwbl onest iddo pan ddes i yn ôl.14:7 Numeri 13:1-30 8Roedd y dynion eraill aeth gyda ni wedi dychryn y bobl a gwneud iddyn nhw ddigalonni. Ond roeddwn i wedi aros yn ffyddlon i’r ARGLWYDD fy Nuw. 9A’r diwrnod hwnnw dyma Moses yn addo ar lw: ‘Bydd y tir lle buoch chi’n cerdded yn cael ei roi i ti a dy deulu am byth, am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon i’r ARGLWYDD dy Dduw.’14:9 Numeri 14:24 10Ac mae’r ARGLWYDD wedi cadw ei addewid. Dyma fi, yn dal yn fyw, bedwar deg pum mlynedd yn ddiweddarach. Dyna faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i’r ARGLWYDD siarad â Moses pan oedd pobl Israel yn crwydro yn yr anialwch. Dw i’n wyth deg pum mlwydd oed bellach, 11ac yn dal mor gryf ag oeddwn i pan anfonodd Moses fi allan! Dw i’n dal i allu ymladd a gwneud popeth roeddwn i’n ei wneud bryd hynny. 12Felly rho i mi’r bryniau wnaeth yr ARGLWYDD eu haddo i mi. Mae’n siŵr y byddi’n cofio fod disgynyddion Anac yn byw yno, mewn trefi caerog mawr. Ond gyda help yr ARGLWYDD, bydda i’n cael gwared â nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo.”
13Felly dyma Josua yn bendithio Caleb fab Jeffwnne, a rhoi tref Hebron iddo. 14Mae disgynyddion Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad yn dal i fyw yn Hebron hyd heddiw, am ei fod wedi bod yn ffyddlon i’r ARGLWYDD, Duw Israel. 15Yr hen enw ar Hebron oedd Ciriath-arba, wedi’i enwi ar ôl Arba, oedd yn un o arwyr yr Anaciaid.
Ac roedd heddwch yn y wlad.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015