No themes applied yet
Josua yn rhannu gweddill y tir
1Dyma bobl Israel i gyd yn dod at ei gilydd yn Seilo, ac yn codi pabell presenoldeb Duw. Er eu bod nhw’n rheoli’r wlad, 2roedd saith o’r llwythau yn dal heb gael eu tir.
3A dyma Josua yn dweud wrth bobl Israel, “Am faint mwy dych chi’n mynd i dindroi cyn cymryd y tir mae’r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi’i roi i chi? 4Dewiswch dri dyn o bob llwyth. Dw i am eu hanfon nhw i grwydro’r wlad, ei mapio a gwneud arolwg llawn ohoni. 5Byddan nhw’n ei rhannu yn saith ardal. Ond fydd hyn ddim yn cynnwys tir Jwda i lawr yn y de, na thir Joseff yn y gogledd. 6Mapiwch y tir a’i rannu’n saith ardal wahanol, a dewch ag e i mi. Wedyn bydda i’n bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD eich Duw, i ddewis pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth. 7Ond fydd llwyth Lefi ddim yn cael rhan o’r tir. Eu braint nhw ydy cael bod yn offeiriaid i’r ARGLWYDD. Ac mae llwythau Gad, Reuben a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn tir yr ochr arall i afon Iorddonen, gan Moses, gwas yr ARGLWYDD.”
8Cyn i’r dynion gychwyn ar eu taith, dyma Josua yn gorchymyn iddyn nhw: “Ewch i grwydro drwy’r wlad a’i mapio, a pharatoi arolwg llawn ohoni i mi. Yna dewch yn ôl ata i. Bydda i wedyn yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yma yn Seilo, i weld pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.”
9Felly dyma’r dynion yn mynd drwy’r wlad i gyd, a’i mapio, a rhestru’r trefi i gyd ar sgrôl, a rhannu’r tir yn saith ardal. Yna dyma nhw’n dod yn ôl at Josua i’r gwersyll yn Seilo.
10A dyma Josua yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yn Seilo, i rannu’r tir rhwng pobl Israel, a gweld pa ardal fyddai pob llwyth yn ei gael.
Y tir gafodd llwyth Benjamin
11Teuluoedd llwyth Benjamin gafodd y rhan gyntaf. Eu tir nhw fyddai’r ardal rhwng tir Jwda a thir meibion Joseff. 12Roedd y ffin yn y gogledd yn mynd o afon Iorddonen ar hyd y llethr i’r gogledd o Jericho, wedyn i fyny i’r bryniau i gyfeiriad y gorllewin ac ymlaen at anialwch Beth-afen. 13Roedd yn croesi wedyn i Lws, ar hyd y llethr sydd i’r de o Lws (sef Bethel). Yna i lawr i Atroth-adar sydd ar y bryn i’r de o Beth-choron Isaf. 14Wedyn roedd yn troi o’r fan honno i’r de, ar hyd ochr orllewinol y bryn ac i lawr i Ciriath-baal (sef Ciriath-iearîm), un o’r trefi oedd ar dir llwyth Jwda. Dyna’r ffin i’r gorllewin. 15Yna roedd ffin y de yn dechrau wrth Ciriath-iearîm, ac yn rhedeg i gyfeiriad Ffynnon Nefftoach. 16Wedyn roedd y ffin yn mynd i lawr at droed y mynydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom, sydd wrth ben gogleddol Dyffryn Reffaïm. Yna i lawr Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i’r de o Jerwsalem,18:16 Jerwsalem Hebraeg, “tre’r Jebwsiaid”. ac ymlaen i En-rogel. 17O En-rogel roedd yn troi i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i En-shemesh, ac yna i Geliloth, sydd gyferbyn â Bwlch Adwmîm, ac yna i lawr at Garreg Bohan (mab Reuben). 18Yna croesi i gyfeiriad y gogledd ar hyd y llethr sydd o flaen Dyffryn Iorddonen, cyn mynd i lawr i’r dyffryn ei hun. 19Croesi wedyn at lethr Beth-hogla ac ymlaen i ben uchaf y Môr Marw,18:19 Hebraeg, “Môr Halen”. wrth aber afon Iorddonen. Dyna ffin y de. 20Wedyn afon Iorddonen oedd y ffin i’r dwyrain.
Dyna ffiniau’r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin.
21A dyma’r trefi oedd yn perthyn i lwyth Benjamin:
Jericho, Beth-hogla, Emec-cetsits, 22Beth-araba, Semaraïm, Bethel, 23Afim, Para, Offra, 24Ceffar-ammona, Offni, a Geba – un deg dwy o drefi, a’r pentrefi o’u cwmpas.
25Gibeon, Rama, Beëroth, 26Mitspe, Ceffira, Motsa, 27Recem, Irpeël, Tarala, 28Sela, Eleff, tref y Jebwsiaid (sef Jerwsalem), Gibea, a Ciriath – un deg pedair o drefi, a’r pentrefi o’u cwmpas.
Dyma’r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015