No themes applied yet
Pobl Israel yn croesi afon Iorddonen
1Yn gynnar y bore wedyn, dyma Josua a phobl Israel i gyd yn gadael Sittim a mynd at yr Iorddonen. Dyma nhw’n aros yno cyn croesi’r afon. 2Ddeuddydd wedyn, dyma’r arweinwyr yn mynd drwy’r gwersyll 3i roi gorchymyn i’r bobl, “Pan fyddwch chi’n gweld Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD eich Duw yn cael ei chario gan yr offeiriaid o lwyth Lefi, rhaid i chi symud o’r fan yma, a dilyn yr Arch. 4Ond peidiwch mynd yn rhy agos ati. Cadwch bellter o ryw hanner milltir3:4 hanner milltir 914 metr. rhyngoch chi a’r Arch. Wedyn byddwch yn gweld pa ffordd i fynd. Dych chi ddim wedi bod y ffordd yma o’r blaen.”
5A dyma Josua’n dweud wrth y bobl, “Gwnewch eich hunain yn barod!3:5 Gwnewch eich hunain yn barod! gw. Lefiticus 7:20,21; 15:2,33; 22:4-8; Deuteronomium 23:10,11. Ewch drwy’r ddefod o buro eich hunain i’r ARGLWYDD. Mae e’n mynd i wneud rhywbeth hollol ryfeddol i chi yfory.”
6Yna dyma Josua’n dweud wrth yr offeiriaid, “Codwch Arch yr Ymrwymiad ac ewch o flaen y bobl.” A dyma nhw’n gwneud hynny.
7Dwedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “O heddiw ymlaen dw i’n mynd i dy wneud di’n arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Byddan nhw’n gwybod mod i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. 8Dw i eisiau i ti ddweud wrth yr offeiriaid sy’n cario Arch yr Ymrwymiad, ‘Pan ddewch chi at lan afon Iorddonen, cerddwch i mewn i’r dŵr a sefyll yno.’”
9Felly dyma Josua’n galw ar bobl Israel, “Dewch yma i glywed beth mae’r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud! 10Dyma sut byddwch chi’n gweld fod y Duw byw gyda chi, a’i fod yn mynd i yrru allan y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebwsiaid. 11Edrychwch! Mae Arch Ymrwymiad Meistr y ddaear gyfan yn barod i’ch arwain chi ar draws afon Iorddonen! 12Dewiswch un deg dau o ddynion o lwythau Israel – un o bob llwyth. 13Pan fydd traed yr offeiriaid sy’n cario Arch yr ARGLWYDD, Meistr y ddaear gyfan, yn cyffwrdd dŵr yr afon, bydd y dŵr yn stopio llifo ac yn codi’n bentwr.”
14Felly pan adawodd y bobl eu pebyll i groesi’r Iorddonen, dyma’r offeiriaid oedd yn cario Arch yr Ymrwymiad yn mynd o’u blaenau. 15-16Roedd hi’n adeg y cynhaeaf, a’r afon wedi gorlifo. Dyma nhw’n dod at yr afon, a phan gyffyrddodd eu traed y dŵr, dyma’r dŵr yn stopio llifo. Roedd y dŵr wedi codi’n bentwr gryn bellter i ffwrdd, wrth Adam (tref wrth ymyl Sarethan). Doedd dim dŵr o gwbl yn llifo i’r Môr Marw.3:15-16 Hebraeg, “Môr yr Araba, sef y Môr Halen”. Felly dyma’r bobl yn croesi’r afon gyferbyn â Jericho. 17Safodd yr offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar wely afon Iorddonen, nes oedd pobl Israel i gyd wedi croesi i’r ochr arall ar dir sych.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015