No themes applied yet
Hanes geni Samson
1Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly gadawodd yr ARGLWYDD i’r Philistiaid eu rheoli nhw am bedwar deg o flynyddoedd.
2Bryd hynny, roedd dyn o’r enw Manoa, o lwyth Dan, yn byw yn Sora. Doedd gwraig Manoa ddim yn gallu cael plant. 3Un diwrnod, dyma angel yr ARGLWYDD yn rhoi neges iddi, “Er dy fod ti wedi methu cael plant hyd yn hyn, ti’n mynd i feichiogi a byddi’n cael mab. 4Bydd yn ofalus! Paid yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol arall, na bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di’n aflan. 5Wir i ti, rwyt ti’n mynd i feichiogi a chael mab. Ond rhaid i ti beidio torri ei wallt, am fod y plentyn i gael ei gysegru’n Nasaread i’r ARGLWYDD o’r eiliad mae’n cael ei eni. Bydd yn mynd ati i achub Israel o afael y Philistiaid.”
6Aeth i ddweud wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd. “Mae dyn wedi dod ata i oddi wrth Dduw. Roedd fel angel Duw – yn ddigon i godi braw arna i! Wnes i ddim gofyn iddo o ble roedd e’n dod, a wnaeth e ddim dweud ei enw. 7Dwedodd wrtho i, ‘Ti’n mynd i fod yn feichiog a byddi’n cael mab. Felly, paid yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol arall, a phaid bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di’n aflan. Bydd y plentyn wedi’i gysegru yn Nasaread i Dduw o’i eni i’w farw.’”
8Yna dyma Manoa’n gweddïo ar yr ARGLWYDD, “Meistr, plîs gad i’r dyn wnest ti ei anfon ddod aton ni eto, iddo ddysgu i ni beth i’w wneud gyda’r bachgen fydd yn cael ei eni.” 9A dyma Duw yn ateb ei weddi. Dyma’r angel yn dod at wraig Manoa eto. Roedd hi’n eistedd yn y cae ar ei phen ei hun – doedd Manoa ei gŵr ddim gyda hi. 10Felly dyma hi’n rhedeg ar unwaith i ddweud wrtho, “Tyrd, mae e wedi dod yn ôl! Y dyn ddaeth ata i y diwrnod o’r blaen. Mae e yma!” 11Dyma Manoa’n mynd yn ôl gyda’i wraig, a dyma fe’n gofyn i’r dyn, “Ai ti ydy’r dyn sydd wedi bod yn siarad gyda’m gwraig i?” “Ie, fi ydy e,” meddai wrtho. 12Wedyn dyma Manoa’n gofyn iddo, “Pan fydd dy eiriau’n dod yn wir, sut ddylen ni fagu’r plentyn, a beth fydd e’n wneud?” 13A dyma’r angel yn dweud wrtho, “Rhaid i dy wraig wneud popeth ddwedais i wrthi. 14Rhaid iddi beidio bwyta grawnwin na rhesins, peidio yfed gwin na diod feddwol arall, a pheidio bwyta unrhyw fwyd fydd yn ei gwneud hi’n aflan. Rhaid iddi wneud popeth dw i wedi’i ddweud wrthi.”
15Yna dyma Manoa’n dweud, “Plîs wnei di aros am ychydig i ni baratoi pryd o fwyd i ti, gafr ifanc.” 16“Gwna i aros ond wna i ddim bwyta,” meddai’r angel. “Os wyt ti eisiau cyflwyno offrwm i’w losgi’n llwyr i’r ARGLWYDD, gelli wneud hynny.” (Doedd Manoa ddim yn sylweddoli mai angel yr ARGLWYDD oedd e.) 17Yna dyma Manoa’n gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di? Pan fydd hyn i gyd yn dod yn wir, dŷn ni eisiau dy anrhydeddu di.” 18A dyma’r angel yn ateb, “Pam wyt ti’n gofyn am fy enw i? Mae e tu hwnt i dy ddeall di.”
19Dyma Manoa’n cymryd gafr ifanc ac offrwm o rawn, a’u gosod nhw ar garreg i’w cyflwyno i’r ARGLWYDD. A dyma angel yr ARGLWYDD yn gwneud rhywbeth anhygoel o flaen llygaid Manoa a’i wraig. 20Wrth i’r fflamau godi o’r allor, dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd i fyny yn y fflamau. Pan welodd Manoa a’i wraig hynny’n digwydd, dyma nhw’n plygu gyda’u hwynebau ar lawr. 21Wnaeth Manoa a’i wraig ddim gweld yr angel eto. A dyna pryd sylweddolodd Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd e. 22A dyma fe’n dweud wrth ei wraig, “Dŷn ni’n siŵr o farw! Dŷn ni wedi gweld bod dwyfol!” 23Ond dyma’i wraig yn dweud, “Petai’r ARGLWYDD eisiau’n lladd ni, fyddai e ddim wedi derbyn yr offrwm i’w losgi a’r offrwm o rawn gynnon ni. A fyddai e ddim wedi dangos hyn i gyd i ni a siarad â ni fel y gwnaeth e.”
24Cafodd gwraig Manoa fab a dyma hi’n rhoi’r enw Samson iddo. Tyfodd y plentyn a dyma’r ARGLWYDD yn ei fendithio. 25Yna, pan oedd Samson yn aros yn Mahane-dan,13:25 Mahane-dan sef “gwersyll Dan”. rhwng Sora ac Eshtaol, dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dechrau’i aflonyddu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015