No themes applied yet
Samson yn priodi
1Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna. Yno, roedd merch ifanc wedi dal ei lygad, un o ferched y Philistiaid. 2Pan aeth yn ôl adre, dyma fe’n dweud wrth ei dad a’i fam, “Dw i wedi gweld merch ifanc yn Timna – un o ferched y Philistiaid. Ewch i’w nôl hi i fod yn wraig i mi.” 3Ond dyma’i rieni’n ateb, “Mae’n rhaid bod yna ferch ifanc arall rywle – un o dy berthnasau; un o dy bobl dy hun. Mae’r Philistiaid yn baganiaid.14:3 paganiaid Hebraeg, “heb eu henwaedu”. Pam ddylet ti fynd atyn nhw i gael gwraig?” “Ewch i’w nôl hi,” meddai Samson. “Hi dw i eisiau. Mae hi’n bishyn.” 4(Doedd ei dad a’i fam ddim yn sylweddoli mai’r ARGLWYDD oedd tu ôl i hyn i gyd, a’i fod yn creu cyfle i achosi helynt i’r Philistiaid. Y Philistiaid oedd yn rheoli Israel ar y pryd.)
5Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna gyda’i rieni. Pan oedd wrth ymyl gwinllannoedd Timna, dyma lew ifanc yn rhuthro ato. 6A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno’n rymus nes iddo rwygo’r llew a’i ladd gyda dim ond nerth braich, fel petai’n fyn gafr bach ifanc. (Ond wnaeth e ddim dweud wrth ei rieni beth roedd e wedi’i wneud.) 7Yna aeth Samson yn ei flaen i Timna a siarad â’r ferch ifanc. Roedd e wir yn ei ffansïo hi.
8Beth amser ar ôl hynny, aeth Samson i Timna i’w phriodi hi. Ar ei ffordd, aeth i weld beth oedd ar ôl o’r llew oedd wedi ymosod arno. Cafodd fod haid o wenyn yn byw yn sgerbwd yr anifail a bod mêl ynddo. 9Dyma fe’n crafu peth o’r mêl gyda’i ddwylo, a’i fwyta wrth gerdded. Aeth yn ôl at ei rieni a rhoi peth o’r mêl iddyn nhw i’w fwyta. (Ond wnaeth e ddim dweud wrthyn nhw ei fod wedi crafu’r mêl allan o sgerbwd y llew.)
10Ar ôl hyn, aeth ei dad gydag e i Timna i weld y ferch. A dyma Samson yn trefnu parti, am mai dyna fyddai dynion ifanc oedd am briodi yn arfer ei wneud bryd hynny. 11Pan welodd y Philistiaid Samson, dyma nhw’n rhoi tri deg o ffrindiau i gadw cwmni iddo yn y parti. 12A dyma Samson yn dweud wrthyn nhw, “Gadewch i mi osod pos i chi. Os rhowch chi’r ateb i mi cyn diwedd y parti mewn wythnos, gwna i roi mantell newydd a set o ddillad newydd i’r tri deg ohonoch chi. 13Ond os allwch chi ddim datrys y pos, bydd rhaid i bob un ohonoch chi roi mantell a set o ddillad newydd i mi.”
“Iawn,” medden nhw, “gad i ni glywed beth ydy dy bos di.” 14A dyma ddwedodd e:
“Daeth bwyd o’r bwytawr;
rhywbeth melys o’r un cryf.”
Aeth tri diwrnod heibio a doedden nhw ddim yn gallu meddwl am yr ateb. 15Yna’r diwrnod wedyn, dyma nhw’n mynd at wraig Samson a’i bygwth: “Tricia dy ŵr i ddweud beth ydy’r ateb i’r pos, neu byddwn ni’n dy losgi di a theulu dy dad. Wnest ti’n gwahodd ni yma i’n gwneud ni’n fethdalwyr?”
16Felly dyma wraig Samson yn mynd ato a dechrau crio ar ei ysgwydd. “Ti’n fy nghasáu i. Ti ddim yn fy ngharu i. Ti wedi rhoi pos i rai o’r bechgyn a ddim yn fodlon dweud wrtho i beth ydy’r ateb.” Meddai Samson wrthi, “Ond dw i ddim hyd yn oed wedi dweud wrth dad a mam. Pam ddylwn i ddweud wrthot ti?” 17Buodd hi’n crio ar ei ysgwydd nes oedd y parti bron ar ben. Yna ar y seithfed diwrnod, dyma Samson yn dweud yr ateb wrthi am ei bod hi wedi swnian gymaint. A dyma hi’n mynd i ddweud wrth y dynion ifanc.
18Cyn iddi fachlud y noson honno, dyma ddynion y dref yn mynd at Samson a dweud, “Beth sy’n fwy melys na mêl? A beth sy’n gryfach na llew?” A dyma Samson yn ateb, “Fyddech chi ddim wedi datrys y pos heb gymryd mantais o’m gwraig i!”14:18 heb gymryd mantais o’m gwraig i Hebraeg, “aredig gyda fy heffer i”. 19Yna dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno’n rymus. Aeth i Ashcelon a lladd tri deg o ddynion. Cymerodd eu harfau a’u dillad, a’u rhoi i’r dynion oedd wedi ateb y pos. Roedd wedi gwylltio’n lân, felly aeth adre at ei rieni. 20Cafodd ei wraig ei rhoi i’r un oedd wedi bod yn was priodas iddo.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015