No themes applied yet
Llwyth Dan yn setlo yn Laish
1Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Tua’r un adeg, roedd llwyth Dan yn edrych am rywle i setlo i lawr. Doedden nhw ddim wedi llwyddo i gymryd y tir oedd wedi cael ei roi iddyn nhw, fel gweddill llwythau Israel. 2Felly dyma lwyth Dan yn anfon pump o ddynion dewr o Sora ac Eshtaol i ysbïo’r wlad. Dyma nhw’n cyrraedd tŷ Micha ym mryniau Effraim, a dyna ble wnaethon nhw aros dros nos. 3Tra oedden nhw yno, dyma nhw’n nabod acen y dyn ifanc o lwyth Lefi, a mynd ato a dechrau’i holi, “Pwy ddaeth â ti yma? Beth wyt ti’n wneud yma? Beth ydy dy fusnes di?” 4A dyma fe’n dweud wrthyn nhw beth oedd Micha wedi’i wneud iddo. “Dw i wedi cael swydd ganddo, fel offeiriad,” meddai. 5“Oes gen ti neges gan Dduw i ni?” medden nhw. “Dŷn ni eisiau gwybod os byddwn ni’n llwyddiannus.” 6A dyma’r offeiriad yn ateb, “Gallwch fod yn dawel eich meddwl. Mae’r ARGLWYDD gyda chi bob cam o’r ffordd!”
7Felly dyma’r pump yn mynd ymlaen ar eu taith ac yn dod i Laish. Doedd y bobl oedd yn byw yno yn poeni am ddim – roedden nhw fel pobl Sidon, yn meddwl eu bod nhw’n hollol saff. Doedden nhw’n gweld dim perygl o gwbl a doedd neb yn eu bygwth nhw na dwyn oddi arnyn nhw. Roedden nhw’n bell oddi wrth Sidon i’r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall chwaith.
8Aeth y dynion yn ôl at eu pobl yn Sora ac Eshtaol. A dyma’r bobl yn gofyn iddyn nhw, “Wel? Sut aeth hi?” 9A dyma nhw’n ateb, “Dewch! Dŷn ni wedi dod o hyd i le da. Dewch i ymosod arnyn nhw! Peidiwch eistedd yma’n diogi! Rhaid i ni fynd ar unwaith a chymryd y tir oddi arnyn nhw. 10Maen nhw’n meddwl eu bod nhw’n hollol saff. Mae yna ddigon o dir yna, ac mae Duw yn ei roi i ni! Mae popeth sydd ei angen arnon ni yna!”
11Felly dyma chwe chant o ddynion Dan yn gadael Sora ac Eshtaol, yn barod i frwydro. 12Dyma nhw’n gwersylla yn Ciriath-iearîm yn Jwda. (Mae’r lle’n dal i gael ei alw’n Wersyll Dan hyd heddiw. Mae i’r gorllewin o Ciriath-iearîm.) 13Yna aethon nhw yn eu blaenau i fryniau Effraim a chyrraedd tŷ Micha. 14A dyma’r pum dyn oedd wedi bod yn chwilio’r ardal yn dweud wrth y lleill, “Wyddoch chi fod yna effod yma ac eilun-ddelwau teuluol, hefyd eilun wedi’i gerfio a delw o fetel tawdd? Beth dych chi am ei wneud?” 15Felly dyma nhw’n galw heibio’r tŷ lle roedd y Lefiad ifanc yn byw (tŷ Micha), a’i gyfarch, “Sut mae pethau?”
16Roedd y chwe chant o filwyr yn sefyll wrth giât y dref. 17Tra oedd yr offeiriad yn sefyll yno gyda’r milwyr, dyma’r pum dyn oedd wedi bod yn ysbïo’r wlad yn torri i mewn i’w dŷ, a dwyn yr eilun wedi’i gerfio, yr effod, yr eilun-ddelwau teuluol a’r ddelw o fetel tawdd. 18Pan welodd yr offeiriad nhw, dyma fe’n gofyn, “Beth ydych chi’n wneud?” 19A dyma nhw’n ei ateb, “Paid dweud dim! Tyrd gyda ni. Cei di fod yn gynghorydd ac offeiriad i ni. Pa un sydd well – cael bod yn offeiriad i lwyth cyfan yn Israel neu i deulu un dyn?” 20Roedd yr offeiriad wrth ei fodd. Cymerodd yr effod, eilun-ddelwau’r teulu a’r eilun wedi’i gerfio, a mynd gyda nhw.
21I ffwrdd â nhw, gyda’r plant, yr anifeiliaid a’r eiddo i gyd ar y blaen. 22Yna, pan oedden nhw wedi mynd yn reit bell o dŷ Micha, dyma Micha a chriw o ddynion oedd yn gymdogion iddo yn dod ar eu holau. 23Dyma nhw’n gweiddi arnyn nhw. A dyma ddynion Dan yn troi a gofyn, “Beth sy’n bod? Pam dych chi wedi dod ar ein holau ni?” 24Dyma Micha’n ateb, “Dych chi wedi dwyn y duwiau dw i wedi’u gwneud, a’r offeiriad, a cherdded i ffwrdd! Beth sydd gen i ar ôl? Sut allwch chi ddweud, ‘Beth sy’n bod?’” 25Ond dyma ddynion Dan yn ei ateb, “Byddai’n syniad i ti gau dy geg – mae yna ddynion milain yma, a gallen nhw ddod a dy ladd di a dy deulu!” 26A dyma nhw’n troi a mynd yn eu blaenau ar eu taith. Gwelodd Micha eu bod nhw’n gryfach na’r criw o ddynion oedd gyda fe, felly dyma fe’n troi am adre.
27Aeth pobl llwyth Dan yn eu blaenau i Laish, gyda’r offeiriad a’r delwau roedd Micha wedi’u gwneud. Doedd pobl Laish yn gweld dim peryg o gwbl ac yn meddwl eu bod yn hollol saff. Ond dyma filwyr Dan yn ymosod arnyn nhw, ac yn llosgi’r dref yn ulw. 28Doedd neb yn gallu dod i’w helpu nhw. Roedden nhw’n rhy bell o Sidon i’r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw bobl eraill. Roedd y dref mewn dyffryn heb fod yn bell o Beth-rechof.
Dyma lwyth Dan yn ailadeiladu’r dref, a symud i fyw yno. 29Cafodd y dref ei galw’n Dan, ar ôl eu hynafiad, oedd yn un o feibion Israel. Laish oedd yr hen enw arni. 30Cymerodd bobl Dan yr eilun wedi’i gerfio a’i osod i fyny i’w addoli, a gwneud Jonathan (oedd yn un o ddisgynyddion Gershom, mab Moses) yn offeiriad. Roedd ei deulu e’n dal i wasanaethu fel offeiriaid i lwyth Dan adeg y gaethglud! 31Bu llwyth Dan yn dal i addoli’r eilun gafodd ei wneud gan Micha yr holl amser roedd cysegr Duw yn Seilo.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015