No themes applied yet
Rhyfel cartref gyda llwyth Benjamin
Y Lefiad a’i bartner
1Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd rhyw ddyn o lwyth Lefi yn byw yn bell o bobman yng nghanol bryniau Effraim. A dyma fe’n cymryd dynes o Bethlehem yn Jwda i fyw gydag e fel ei bartner19:1 bartner Mae’r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. 2Ond roedd hi wedi digio gydag e19:2 wedi digio gydag e felly LXX; Hebraeg, “yn anffyddlon iddo”., a dyma hi’n mynd yn ôl i fyw gyda’i theulu yn Bethlehem.
Rhyw bedwar mis wedyn, 3dyma’r dyn yn mynd gyda’i was a dau asyn i geisio’i pherswadio i fynd yn ôl gydag e. Pan gyrhaeddodd, dyma hi’n mynd ag e i’w chartref, a chafodd groeso brwd gan ei thad. 4Dyma’r tad yn ei berswadio i aros am dri diwrnod, a dyna lle buodd e, yn bwyta ac yn yfed ac yn aros dros nos. 5Ond yna, ar y pedwerydd diwrnod, dyma fe’n codi’n gynnar a dechrau paratoi i adael. Dyma dad y ferch yn dweud wrtho, “Rhaid i ti gael tamaid i’w fwyta cyn mynd. Cewch fynd wedyn.” 6Felly dyma’r ddau ohonyn nhw’n cael pryd o fwyd gyda’i gilydd. Yna dyma dad y ferch yn dweud wrth y dyn, “Tyrd, aros un noson arall. Cei amser da!” 7Roedd y dyn ar fin mynd, ond dyma’r tad yn pwyso arno a’i berswadio i aros noson arall.
8Yna’n gynnar y bore wedyn, y pumed diwrnod, dyma’r dyn yn codi eto i fynd. Ond dyma dad y ferch yn dweud wrtho eto, “Dylet ti gael rhywbeth i dy gadw di i fynd! Pam wnei di ddim gadael ar ôl cinio?” Felly dyma’r ddau’n bwyta gyda’i gilydd eto.
9Rywbryd yn ystod y p’nawn, dyma’r dyn yn codi i fynd gyda’i bartner a’i was. Ond dyma dad y ferch yn dweud, “Gwranda, mae’n rhy hwyr yn y dydd. Aros un noson arall! Mae hi wedi mynd yn rhy hwyr i ti fynd bellach. Aros un noson arall i fwynhau dy hun. Wedyn cei godi’n gynnar bore fory a chychwyn ar dy daith am adre.” 10Ond doedd y dyn ddim am wneud hynny. Dyma fe a’i bartner yn cymryd y ddau asyn oedd wedi’u cyfrwyo, a chychwyn ar eu taith. Dyma nhw’n cyrraedd Jebws (sef Jerwsalem).
11Erbyn hynny, roedd hi’n dechrau nosi, a dyma’r gwas yn gofyn i’w feistr, “Beth am i ni aros yma dros nos, yn nhref y Jebwsiaid?” 12Dyma’r meistr yn ei ateb, “Na, allwn ni ddim aros gyda phaganiaid sydd ddim yn perthyn i Israel. Awn ni ymlaen i Gibea. 13Gallwn ni ddod o hyd i rywle i aros, naill ai’n Gibea neu yn Rama.” 14Felly dyma nhw’n teithio yn eu blaenau. Erbyn iddyn nhw gyrraedd Gibea, sydd ar dir llwyth Benjamin, roedd yr haul wedi machlud. 15Felly dyma nhw’n penderfynu aros yno dros nos. Aethon nhw i mewn i’r dref, ac eistedd i lawr i orffwys yn y sgwâr. Ond wnaeth neb eu gwahodd nhw i’w tŷ i aros dros nos.
16Ond yna, dyma ryw hen ddyn yn dod heibio. Roedd wedi bod yn gweithio yn y caeau drwy’r dydd ac ar ei ffordd adre. Un o fryniau Effraim oedd e’n wreiddiol, ond roedd yn byw yn Gibea gyda phobl llwyth Benjamin. 17Pan welodd e’r teithiwr yn y sgwâr, dyma fe’n gofyn iddo, “O ble dych chi’n dod, ac i ble dych chi’n mynd?” 18A dyma’r dyn o lwyth Lefi’n dweud wrtho, “Dŷn ni ar ein ffordd adre o Bethlehem yn Jwda. Dw i’n byw mewn ardal ym mryniau Effraim sy’n bell o bobman. Dw i wedi bod i Bethlehem, a nawr dw i ar fy ffordd adre.19:18 adre felly LXX; Hebraeg, “i dŷ’r ARGLWYDD”. Ond does neb yn y dref yma wedi’n gwahodd ni i aros gyda nhw. 19Does arnon ni angen dim byd. Mae gynnon ni ddigon o wellt a grawn i’n mulod, ac mae gynnon ni fwyd a gwin i’r tri ohonon ni – fi, dy forwyn, a’r bachgen ifanc sydd gyda ni.” 20“Mae croeso i chi ddod ata i!” meddai’r hen ddyn. “Gwna i ofalu amdanoch chi. Well i chi beidio aros ar sgwâr y dref drwy’r nos!” 21Felly dyma fe’n mynd â nhw i’w dŷ, ac yn bwydo’r asynnod. Wedyn, ar ôl golchi eu traed19:21 golchi eu traed Dyma fyddai’r arferiad cyn pryd o fwyd, gan fod pobl yn gwisgo sandalau agored. dyma nhw’n cael pryd o fwyd gyda’i gilydd.
22Tra oedden nhw’n mwynhau’u hunain, dyma griw o rapsgaliwns o’r dref yn codi twrw, amgylchynu’r tŷ a dechrau curo ar y drws. Roedden nhw’n gweiddi ar yr hen ddyn, “Anfon y dyn sy’n aros gyda ti allan. Dŷn ni eisiau cael rhyw gydag e!” 23Ond dyma’r dyn oedd piau’r tŷ yn mynd allan atyn nhw, a dweud, “Na, ffrindiau. Peidiwch bod mor ffiaidd! Fy ngwestai i ydy’r dyn. Peidiwch bod mor amharchus! 24Mae gen i ferch sy’n wyryf, ac mae partner y dyn yma hefyd. Gwna i eu hanfon nhw allan. Gewch chi wneud beth leiciwch chi iddyn nhw. Ond peidiwch meddwl gwneud rhywbeth mor amharchus i’r dyn yma!”
25Ond roedd y dynion yn gwrthod gwrando arno. Felly dyma’r dyn o lwyth Lefi yn gafael yn ei bartner ac yn ei gwthio hi allan atyn nhw. A buon nhw’n ei threisio hi a’i cham-drin hi drwy’r nos. Roedd hi bron yn gwawrio cyn iddyn nhw’i gollwng hi’n rhydd. 26Dim ond dechrau goleuo oedd hi pan gyrhaeddodd hi’n ôl i’r tŷ lle roedd ei gŵr yn aros. Syrthiodd ar lawr tu allan i’r drws, a dyna lle buodd hi’n gorwedd nes oedd yr haul wedi codi. 27Pan gododd ei gŵr y bore hwnnw, roedd yn bwriadu cychwyn ar ei daith. Agorodd y drws, a dyna lle roedd ei bartner yn gorwedd wrth ddrws y tŷ, a’i dwylo ar y trothwy. 28“Tyrd, dŷn ni’n mynd,” meddai wrthi. Ond doedd dim ymateb. Felly dyma fe’n ei chodi ar ei asyn a mynd.
29Pan gyrhaeddodd adre, cymerodd gyllell a thorri corff ei bartner yn un deg dau darn. Yna dyma fe’n anfon y darnau, bob yn un, i bob rhan o Israel. 30Roedd pawb yn dweud, “Does yna ddim byd fel yma wedi digwydd erioed o’r blaen, ers i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft! Meddyliwch am y peth! A trafodwch beth ddylid ei wneud.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015