No themes applied yet
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2“Pan mae rhywun yn troseddu yn fy erbyn i, yr ARGLWYDD, drwy dwyllo person arall, dyma sydd raid ei wneud:
“Os ydy rhywun yn gwrthod rhoi rhywbeth sydd yn ei ofal yn ôl. Neu os ydy e’n gwrthod talu benthyciad yn ôl. Neu os ydy e wedi dwyn rhywbeth. Neu os ydy e wedi gwneud elw ar draul rhywun arall. 3Neu os ydy e wedi dod o hyd i rywbeth ac yn honni nad ydy’r peth hwnnw ganddo. Pan mae person yn dweud celwydd am unrhyw un o’r pethau yma, mae e’n pechu. 4Os ydy e wedi’i gael yn euog o wneud unrhyw un o’r pethau yma, rhaid iddo dalu’n ôl beth bynnag oedd e wedi’i ddwyn. 5Rhaid iddo dalu’r swm yn ôl yn llawn, ac ychwanegu 20%. Mae i’w dalu i’r person gafodd ei dwyllo ganddo pan fydd wedi cael ei ddedfrydu’n euog o’r drosedd. 6Wedyn rhaid iddo fynd ag offrwm i’r ARGLWYDD i gyfaddef ei fai. Yr offrwm fydd hwrdd sydd â dim byd o’i le arno; neu gall dalu beth ydy gwerth yr hwrdd gydag arian swyddogol y cysegr. 7Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau’n iawn rhyngddo a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am beth bynnag wnaeth e o’i le.”
Cyfarwyddiadau i’r Offeiriaid: Yr offrwm sydd i’w losgi
8Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 9“Dwed wrth Aaron a’i ddisgynyddion mai dyma’r drefn gyda’r offrwm sydd i’w losgi: Mae’r offrwm i aros ar yr allor drwy’r nos tan y bore wedyn. Rhaid cadw’r tân ar yr allor yn llosgi. 10Mae’r offeiriad i wisgo ei wisg o liain, a’i ddillad isaf lliain. Wedyn mae i gasglu’r lludw sydd ar ôl wedi i’r offrwm gael ei losgi, a’i osod yn domen wrth ymyl yr allor. 11Wedyn rhaid iddo newid ei ddillad cyn mynd â’r lludw allan i le tu allan i’r gwersyll sydd wedi cael ei gysegru i’r pwrpas hwnnw. 12Rhaid cadw’r tân ar yr allor yn llosgi. Dydy e byth i fod i ddiffodd. Rhaid i offeiriad roi coed arno bob bore. Wedyn mae’n gosod yr offrwm sydd i’w losgi’n llwyr arno, ac yn llosgi braster yr offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD. 13Rhaid cadw’r tân ar yr allor yn llosgi drwy’r amser. Dydy e byth i fod i ddiffodd.
14“Dyma’r drefn gyda’r offrwm o rawn: Rhaid i’r offeiriaid, disgynyddion Aaron, ei gyflwyno i’r ARGLWYDD o flaen yr allor. 15Maen nhw i gymryd llond dwrn o flawd gwenith ac olew yr offrwm, a’r thus i gyd, a’i losgi fel ernes ar yr allor – yn arogli’n hyfryd i’r ARGLWYDD ac yn ei atgoffa o’i ymrwymiad. 16Bydd yr offeiriaid, Aaron a’i ddisgynyddion, yn bwyta’r gweddill ohono. Rhaid ei fwyta heb furum mewn lle sydd wedi’i gysegru, sef iard y Tabernacl. 17Mae’r bara yma yn gysegredig iawn, fel yr offrwm i lanhau o bechod a’r offrwm i gyfaddef bai. Mae’r bara i gael ei bobi heb furum. Dw i’n ei roi i’r offeiriaid. Mae’n rhan o’r hyn sy’n cael ei gyflwyno i mi ar yr allor. 18Dim ond y dynion sy’n ddisgynyddion i Aaron sy’n cael ei fwyta. Dyma eu siâr nhw bob amser. Rhaid i unrhyw un sy’n cyffwrdd y bara fod wedi’i gysegru.”
Ordeinio Offeiriaid
19Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 20“Dyma’r offrwm mae offeiriad i’w gyflwyno i’r ARGLWYDD pan mae’n cael ei ordeinio: mae’r un fath â’r offrwm sy’n cael ei wneud fore a nos bob dydd, sef hanner cilogram o’r blawd gwenith gorau 21wedi’i gymysgu gydag olew olewydd a’i grasu ar radell. Rhaid iddo fod wedi’i socian mewn olew, ei dorri yn ddarnau, a’i gyflwyno yn offrwm sy’n arogli’n hyfryd i’r ARGLWYDD. 22Yr Archoffeiriad sydd i’w baratoi. Siâr yr ARGLWYDD ydy hwn bob amser, ac mae i gael ei losgi’n llwyr ar yr allor. 23Mae’r offrwm grawn sy’n cael ei roi gan offeiriad i gael ei losgi’n llwyr. Dydy e ddim i gael ei fwyta.”
Offrwm i lanhau o bechod
24Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 25“Dwed wrth Aaron a’i ddisgynyddion mai dyma’r drefn gyda’r offrwm i lanhau o bechod: Mae’r offrwm i lanhau o bechod i gael ei ladd o flaen yr ARGLWYDD yn yr un lle ag mae’r offrwm i’w losgi yn cael ei ladd. Mae’n gysegredig iawn. 26Yr offeiriad sy’n cyflwyno’r aberth sydd i’w fwyta. Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi’i gysegru, sef yn iard y Tabernacl. 27Rhaid i unrhyw un sy’n cyffwrdd y cig fod wedi’i gysegru. Os ydy gwaed yr aberth yn sblasio ar wisg yr offeiriad, rhaid golchi’r dilledyn mewn lle sydd wedi’i gysegru. 28Rhaid i unrhyw lestr pridd gafodd ei ddefnyddio i ferwi’r cig gael ei dorri wedyn. Ond os ydy’r cig yn cael ei ferwi mewn llestr pres, rhaid ei sgwrio ac wedyn ei rinsio mewn dŵr. 29Dim ond yr offeiriaid, sef y dynion, sy’n cael ei fwyta. Mae’n gysegredig iawn. 30Ond os ydy peth o’r gwaed wedi cael ei gymryd i’r cysegr yn y Tabernacl i wneud pethau’n iawn rhwng yr addolwr a Duw, dydy’r offrwm hwnnw dros bechod ddim i gael ei fwyta. Rhaid i hwnnw gael ei losgi’n llwyr.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015