No themes applied yet
Stori y fforman craff
1Dyma Iesu’n dweud y stori yma wrth ei ddisgyblion: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn cyflogi fforman, ac wedi clywed sibrydion ei fod yn gwastraffu ei eiddo. 2Felly dyma’r dyn yn galw’r fforman i’w weld, a gofyn iddo, ‘Beth ydy hyn dw i’n ei glywed amdanat ti? Dw i eisiau gweld y llyfrau cyfrifon. Os ydy’r stori’n wir, cei di’r sac.’
3“‘Beth wna i?’ meddyliodd y fforman. ‘Dw i’n mynd i golli fy job. Dw i ddim yn ddigon cryf i fod yn labrwr, a fyddwn i byth yn gallu cardota. 4Dw i’n gwybod! Dw i’n mynd i wneud rhywbeth fydd yn rhoi digon o ffrindiau i mi, wedyn pan fydda i allan o waith bydd digon o bobl yn rhoi croeso i mi yn eu cartrefi.’
5“A dyma beth wnaeth – cysylltodd â phob un o’r bobl oedd mewn dyled i’w feistr. Gofynnodd i’r cyntaf, ‘Faint o ddyled sydd arnat ti i’m meistr i?’
6“‘Wyth can galwyn o olew olewydd,’ meddai.
“Yna meddai’r fforman, ‘Tafla’r bil i ffwrdd. Gad i ni ddweud mai pedwar cant oedd e.’
7“Yna gofynnodd i un arall, ‘Faint ydy dy ddyled di?’
“‘Can erw o wenith,’ atebodd.
“‘Tafla’r bil i ffwrdd,’ meddai’r fforman. ‘Dwedwn ni wyth deg.’
8“Roedd rhaid i’r meistr edmygu’r fforman am fod mor graff, er ei fod yn anonest. Ac mae’n wir fod pobl y byd yn fwy craff wrth drin pobl eraill na phobl y golau. 9Dw i’n dweud wrthoch chi, gwnewch ffrindiau drwy ddefnyddio’ch arian er lles pobl eraill. Pan fydd gynnoch chi ddim ar ôl, bydd croeso i chi yn y nefoedd.
10“Os gellir eich trystio chi gyda phethau bach, gellir eich trystio chi gyda phethau mawr. Ond os ydych chi’n twyllo gyda phethau bach, sut mae eich trystio chi gyda phethau mawr? 11Felly os dych chi ddim yn onest wrth drin arian, pwy sy’n mynd i’ch trystio chi gyda’r gwir gyfoeth? 12Os dych chi ddim yn onest wrth drin eiddo pobl eraill, pwy sy’n mynd i roi eiddo i chi ei gadw i chi’ch hun?
13“Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac arian ar yr un pryd.”
14Pan glywodd y Phariseaid hyn roedden nhw’n gwneud hwyl am ben Iesu, gan eu bod nhw’n hoff iawn o’u harian. 15Ond dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw, “Dych chi’n hoffi rhoi’r argraff eich bod chi mor dduwiol, ond mae Duw yn gwybod beth sydd yn eich calonnau chi! Mae beth mae pobl yn ei gyfri’n bwysig yn ffiaidd yng ngolwg Duw.”
Pethau eraill ddysgodd Iesu
(Mathew 11:12-13; 5:31-32; Marc 10:11-12)
16“Cyfraith Moses ac ysgrifau’r Proffwydi oedd gynnoch chi nes i Ioan Fedyddiwr ddechrau pregethu. Ond ers hynny mae’r newyddion da fod Duw’n teyrnasu yn cael ei gyhoeddi, ac mae pawb yn cael eu hannog yn frwd i ymateb. 17Ond dydy hynny ddim yn golygu fod y Gyfraith bellach yn ddiwerth. Bydd y nefoedd a’r ddaear yn diflannu cyn i’r manylyn lleia o’r Gyfraith golli ei rym.
18“Os ydy dyn yn ysgaru ei wraig er mwyn priodi rhywun arall mae’n godinebu. Hefyd, mae’r dyn sy’n priodi’r wraig sydd wedi’i hysgaru yn godinebu.”
Y dyn cyfoethog a Lasarus
19“Roedd rhyw ddyn cyfoethog oedd bob amser yn gwisgo’r dillad mwya crand ac yn byw yn foethus. 20Y tu allan i’w dŷ roedd dyn tlawd o’r enw Lasarus yn cael ei adael i gardota; dyn oedd â briwiau dros ei gorff i gyd. 21Dyna lle roedd, yn disgwyl am unrhyw sbarion bwyd oedd yn cael eu taflu gan y dyn cyfoethog! Byddai cŵn yn dod ato ac yn llyfu’r briwiau agored ar ei gorff.
22“Un diwrnod dyma’r cardotyn yn marw, a daeth yr angylion i’w gario i’r nefoedd at Abraham. Ond pan fuodd y dyn cyfoethog farw, a chael ei gladdu, 23aeth i uffern. Yno roedd yn dioddef yn ofnadwy, ac yn y pellter roedd yn gweld Abraham gyda Lasarus. 24Gwaeddodd arno, ‘Fy nhad Abraham, plîs helpa fi! Anfon Lasarus yma i roi blaen ei fys mewn dŵr a’i roi ar fy nhafod i’w hoeri. Dw i mewn poen ofnadwy yn y tân yma!’
25“Ond dyma Abraham yn ei ateb, ‘Fy mab, roedd gen ti bopeth roeddet ti eisiau ar y ddaear, ond doedd gan Lasarus ddim byd. Bellach mae e yma’n cael ei gysuro, a tithau’n cael dy arteithio. 26A beth bynnag, mae’r hyn rwyt yn ei ofyn yn amhosib achos mae yna agendor enfawr yn ein gwahanu ni. Does neb yn gallu croesi o’r fan yma atat ti, a does neb yn gallu dod drosodd o lle rwyt ti aton ni chwaith.’
27“Felly dyma’r dyn cyfoethog yn dweud, ‘Os felly, dw i’n ymbil arnat ti, plîs wnei di anfon Lasarus i rybuddio fy nheulu i. 28Mae gen i bum brawd, a fyddwn i ddim am iddyn nhw ddod i’r lle ofnadwy yma pan fyddan nhw farw.’
29“Ond atebodd Abraham, ‘Mae Cyfraith Moses ac ysgrifau’r proffwydi16:29 Cyfraith Moses ac ysgrifau’r proffwydi: Ysgrifau sanctaidd yr Iddewon, sef yr Hen Destament. yn eu rhybuddio nhw. Does ond rhaid iddyn nhw wrando ar y rheiny.’
30“‘Na, fy nhad,’ meddai’r dyn cyfoethog. ‘Petai rhywun sydd wedi marw yn cael ei anfon atyn nhw, bydden nhw’n troi cefn ar eu pechod.’
31“Ond meddai Abraham, ‘Os ydyn nhw ddim yn gwrando ar Moses a’r Proffwydi, fyddan nhw ddim yn gwrando chwaith os bydd rhywun yn dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.’”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015