No themes applied yet
Iesu a Sacheus
1Aeth Iesu yn ei flaen i mewn i Jericho, ac roedd yn mynd drwy’r dref. 2Roedd dyn o’r enw Sacheus yn byw yno – Iddew oedd yn arolygwr yn adran casglu trethi Rhufain. Roedd yn ddyn hynod o gyfoethog. 3Roedd arno eisiau gweld Iesu, ond roedd yn ddyn byr ac yn methu ei weld am fod gormod o dyrfa o’i gwmpas. 4Rhedodd ymlaen a dringo coeden sycamorwydden oedd i lawr y ffordd lle roedd Iesu’n mynd, er mwyn gallu gweld.
5Pan ddaeth Iesu at y goeden, edrychodd i fyny a dweud wrtho, “Sacheus, tyrd i lawr. Mae’n rhaid i mi ddod i dy dŷ di heddiw.” 6Dringodd Sacheus i lawr ar unwaith a rhoi croeso brwd i Iesu i’w dŷ.
7Doedd y bobl welodd hyn ddim yn hapus o gwbl! Roedden nhw’n cwyno a mwmblan, “Mae wedi mynd i aros i dŷ ‘pechadur’ – dyn ofnadwy!”
8Ond dyma Sacheus yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, dw i’n mynd i roi hanner popeth sydd gen i i’r rhai sy’n dlawd. Ac os ydw i wedi twyllo pobl a chymryd mwy o drethi nag y dylwn i, tala i bedair gwaith cymaint yn ôl iddyn nhw.”19:8 pedair gwaith cymaint yn ôl iddyn nhw: Roedd y gyfraith Iddewig a chyfraith Rhufain yn dweud fod rhaid i rywun dalu’n ôl bedair gwaith y swm oedden nhw wedi’i gymryd.
9Meddai Iesu, “Mae’r bobl sy’n byw yma wedi gweld beth ydy achubiaeth heddiw. Mae’r dyn yma wedi dangos ei fod yn fab i Abraham. 10Dw i, Mab y Dyn, wedi dod i chwilio am y rhai sydd ar goll, i’w hachub nhw.”19:10 cyfeiriad at Eseciel 34:11,12
Stori am ddeg gwas
(Mathew 25:14-30)
11Roedd y dyrfa’n gwrando ar bopeth roedd Iesu’n ei ddweud. Gan ei fod yn dod yn agos at Jerwsalem, dwedodd stori wrthyn nhw i gywiro’r syniad oedd gan bobl fod teyrnasiad Duw yn mynd i ddod unrhyw funud. 12Dyma’r stori: “Roedd rhyw ddyn pwysig aeth i ffwrdd i wlad bell i gael ei wneud yn frenin ar ei bobl. 13Ond cyn mynd, galwodd ddeg o’i weision ato a rhannu swm o arian19:13 swm o arian: Groeg, “10 mina”. Roedd un mina yn werth 100 denariws, sef cyflog tua tri mis. rhyngddyn nhw. ‘Defnyddiwch yr arian yma i farchnata ar fy rhan, nes dof i yn ôl adre,’ meddai.
14“Ond roedd ei bobl yn ei gasáu, a dyma nhw’n anfon cynrychiolwyr ar ei ôl i ddweud eu bod nhw ddim eisiau iddo fod yn frenin arnyn nhw.
15“Ond cafodd ei wneud yn frenin, a phan ddaeth adre galwodd ato y gweision hynny oedd wedi rhoi’r arian iddyn nhw. Roedd eisiau gwybod oedden nhw wedi llwyddo i wneud elw. 16Dyma’r cyntaf yn dod, ac yn dweud ei fod wedi llwyddo i wneud elw mawr – deg gwaith cymaint â’r swm gwreiddiol! 17‘Da iawn ti!’ meddai’r meistr, ‘Rwyt ti’n weithiwr da. Gan dy fod di wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, dw i am dy wneud di’n rheolwr ar ddeg dinas.’
18“Wedyn dyma’r ail yn dod ac yn dweud ei fod yntau wedi gwneud elw – pum gwaith cymaint â’r swm gwreiddiol. 19‘Da iawn ti!’ meddai’r meistr, ‘Dw i am dy osod di yn rheolwr ar bum dinas.’
20“Wedyn dyma was arall yn dod ac yn rhoi’r arian oedd wedi’i gael yn ôl i’w feistr, a dweud, ‘Dw i wedi cadw’r arian yn saff i ti. 21Roedd gen i ofn gwneud colled gan dy fod di’n ddyn caled. Rwyt ti’n ecsbloetio pobl, ac yn dwyn eu cnydau nhw.’
22“Atebodd y meistr, ‘Dw i’n ddyn caled ydw i – yn ecsbloetio pobl ac yn dwyn eu cnydau nhw? Iawn! Dyna sut cei di dy drin gan dy fod ti’n was da i ddim! 23Pam wnest ti ddim rhoi’r arian mewn cyfri banc? Byddwn i o leia wedi’i gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’
24“Felly dyma’r brenin yn rhoi gorchymyn i’r rhai eraill oedd yn sefyll yno, ‘Cymerwch yr arian oddi arno, a’i roi i’r un oedd wedi gwneud y mwya o elw!’
25“‘Ond feistr,’ medden nhw, ‘Mae gan hwnnw hen ddigon yn barod!’
26“Atebodd y meistr nhw, ‘Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy; ond am y rhai sy’n gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw’n cael ei gymryd oddi arnyn nhw! 27Dw i’n mynd i ddelio gyda’r gelynion hynny oedd ddim eisiau i mi fod yn frenin arnyn nhw hefyd – dewch â nhw yma, a lladdwch nhw i gyd o mlaen i!’”
Marchogaeth i Jerwsalem
(Mathew 21:1-11; Marc 11:1-11; Ioan 12:12-19)
28Ar ôl dweud y stori, aeth Iesu yn ei flaen i gyfeiriad Jerwsalem. 29Pan oedd ar fin cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, dwedodd wrth ddau o’i ddisgyblion, 30“Ewch i’r pentref acw sydd o’ch blaen. Wrth fynd i mewn iddo, dewch o hyd i ebol wedi’i rwymo – un does neb wedi bod ar ei gefn o’r blaen. Dewch â’r ebol i mi. 31Os bydd rhywun yn gofyn, ‘Pam dych chi’n ei ollwng yn rhydd?’ dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae’r meistr ei angen.’”
32Felly i ffwrdd â’r ddau ddisgybl; a dyna lle roedd yr ebol yn union fel roedd Iesu wedi dweud. 33Wrth iddyn nhw ei ollwng yn rhydd, dyma’r rhai oedd biau’r ebol yn dweud, “Hei! Beth ydych chi’n ei wneud?”
34“Mae’r meistr ei angen,” medden nhw. 35Pan ddaethon nhw â’r ebol at Iesu dyma nhw’n taflu’u cotiau drosto, a dyma Iesu’n eistedd ar ei gefn. 36Wrth iddo fynd yn ei flaen, dyma bobl yn rhoi eu cotiau fel carped ar y ffordd. 37Pan gyrhaeddon nhw’r fan lle mae’r ffordd yn mynd i lawr o Fynydd yr Olewydd, dyma’r dyrfa oedd yn dilyn Iesu yn dechrau gweiddi’n uchel a chanu mawl i Dduw o achos yr holl wyrthiau rhyfeddol roedden nhw wedi’u gweld:
38“Mae’r Brenin sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi’i fendithio’n fawr!19:38 Salm 118:26”
“Heddwch yn y nefoedd a chlod i Dduw yn y goruchaf!”
39Ond dyma ryw Phariseaid oedd yn y dyrfa yn troi at Iesu a dweud, “Athro, cerydda dy ddisgyblion am ddweud y fath bethau!”
40Atebodd Iesu, “Petaen nhw’n tewi, byddai’r cerrig yn dechrau gweiddi.”19:40 adlais o Habacuc 2:11
Iesu’n crio dros Jerwsalem
41Wrth iddyn nhw ddod yn agos at Jerwsalem dyma Iesu yn dechrau crio wrth weld y ddinas o’i flaen. 42“Petaet ti, hyd yn oed heddiw, ond wedi deall beth fyddai’n dod â heddwch parhaol i ti! Ond mae’n rhy hwyr, dwyt ti jest ddim yn gweld. 43Mae dydd yn dod pan fydd dy elynion yn codi gwrthglawdd yn dy erbyn ac yn dy gau i mewn ac ymosod arnat o bob cyfeiriad. 44Cei dy sathru dan draed, ti a’r bobl sy’n byw ynot. Bydd waliau’r ddinas yn cael eu chwalu’n llwyr, am dy fod wedi gwrthod dy Dduw ar y foment honno pan ddaeth i dy helpu di.”
Iesu’n clirio’r deml
(Mathew 21:12-17; Marc 11:15-19; Ioan 2:13-22)
45Aeth i mewn i gwrt y deml a dechrau gyrru allan bawb oedd yn gwerthu yno. 46Meddai wrthyn nhw, “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud, ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi’; ond dych chi wedi troi’r lle yn ‘guddfan i ladron’!”19:46 a Eseia 56:7; b cyfeiriad at Jeremeia 7:11
47Wedi hynny, roedd yn mynd i’r deml bob dydd ac yn dysgu’r bobl. Roedd y prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith, a’r arweinwyr crefyddol eraill yn cynllwynio i’w ladd. 48Ond doedden nhw ddim yn gwybod beth i’w wneud, gan fod y bobl gyffredin yn dal ar bob gair roedd yn ei ddweud.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015