No themes applied yet
Iesu yn cael ei demtio
(Mathew 4:1-11; Marc 1:12,13)
1Roedd Iesu’n llawn o’r Ysbryd Glân pan aeth yn ôl o ardal yr Iorddonen. Gadawodd i’r Ysbryd ei arwain i’r anialwch, 2lle cafodd ei demtio gan y diafol am bedwar deg diwrnod. Wnaeth Iesu ddim bwyta o gwbl yn ystod y dyddiau yna, ac erbyn y diwedd roedd yn llwgu.
3Dyma’r diafol yn dweud wrtho, “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i’r garreg yma droi’n dorth o fara.”
4Atebodd Iesu, “Na! Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Dim bwyd ydy’r unig beth mae pobl ei angen i fyw.’”4:4 Deuteronomium 8:3
5Dyma’r diafol yn ei arwain i le uchel ac yn dangos holl wledydd y byd iddo mewn eiliad. 6Ac meddai’r diafol wrtho, “Gwna i adael i ti reoli’r rhain i gyd, a chael eu cyfoeth nhw hefyd. Mae’r cwbl wedi’u rhoi i mi, ac mae gen i hawl i’w rhoi nhw i bwy bynnag dw i’n ei ddewis. 7Felly, os gwnei di fy addoli i, cei di’r cwbl.”
8Atebodd Iesu, “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola’r Arglwydd dy Dduw, a’i wasanaethu e’n unig.’”4:8 Deuteronomium 6:13; 10:20
9Dyma’r diafol yn mynd â Iesu i Jerwsalem a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o’r fan yma. 10Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud:
‘Bydd Duw yn gorchymyn i’w angylion
dy gadw’n saff;
11byddan nhw’n dy ddal yn eu breichiau,
fel na fyddi’n taro dy droed ar garreg.’”4:10,11 Salm 91:11-12
12Atebodd Iesu, “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi’r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’”4:12 Deuteronomium 6:16
13Pan oedd y diafol wedi ceisio temtio Iesu bob ffordd bosib, gadawodd iddo nes i gyfle arall godi.
Iesu yn dechrau’i weinidogaeth yn Galilea
(Mathew 4:12-17; Marc 1:14-15)
14Aeth Iesu yn ôl i Galilea yn llawn o nerth yr Ysbryd, ac aeth y sôn amdano ar led drwy’r ardal gyfan. 15Roedd yn dysgu yn y synagogau, ac yn cael ei ganmol gan bawb.
Iesu yn cael ei wrthod yn Nasareth
(Mathew 13:53-58; Marc 6:1-6)
16A daeth i Nasareth, lle cafodd ei fagu, a mynd i’r synagog ar y Saboth fel roedd yn arfer ei wneud. Safodd ar ei draed i ddarllen o’r ysgrifau sanctaidd. 17Sgrôl proffwydoliaeth Eseia gafodd ei rhoi iddo, a dyma fe’n ei hagor, a dod o hyd i’r darn sy’n dweud:
18“Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i,
oherwydd mae wedi fy eneinio i
i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd.
Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy’n gaeth i gael rhyddid,
a phobl sy’n ddall i gael eu golwg yn ôl,
a’r rhai sy’n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr,
19a dweud hefyd fod y flwyddyn i’r Arglwydd ddangos ei ffafr wedi dod.”4:18,19 Eseia 61:1,2; 58:6 (LXX)
20Caeodd y sgrôl a’i rhoi yn ôl i’r dyn oedd yn arwain yr oedfa yn y synagog, ac yna eisteddodd. Roedd pawb yn y synagog yn syllu arno. 21Yna dwedodd, “Mae’r geiriau yma o’r ysgrifau sanctaidd wedi dod yn wir heddiw.”
22Roedd pawb yn dweud pethau da amdano, ac yn rhyfeddu at y pethau gwych roedd yn eu dweud. “Onid mab Joseff ydy hwn?” medden nhw.
23Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae’n siŵr y byddwch chi’n cyfeirio at yr hen ddywediad: ‘Iachâ dy hun, feddyg!’ hynny ydy, ‘y math o beth dŷn ni wedi’i glywed i ti eu gwneud yn Capernaum, gwna yma yn dy dref dy hun.’”
24“Ond y gwir plaen ydy, does dim parch at broffwyd yn y dre lle cafodd ei fagu! 25Gallwch fod yn reit siŵr fod llawer iawn o wragedd gweddwon yn Israel yn amser y proffwyd Elias. Wnaeth hi ddim glawio am dair blynedd a hanner ac roedd newyn trwm drwy’r wlad i gyd.4:25 gw. 1 Brenhinoedd 17:1 26Ond chafodd Elias mo’i anfon at yr un ohonyn nhw. Cafodd ei anfon at wraig o wlad arall – gwraig weddw yn Sareffath yn ardal Sidon!4:26 gw. 1 Brenhinoedd 17:8-16 27Ac roedd llawer o bobl yn Israel yn dioddef o’r gwahanglwyf pan oedd y proffwyd Eliseus yn fyw. Ond Naaman o wlad Syria oedd yr unig un gafodd ei iacháu!”4:27 2 Brenhinoedd 5:1-14
28Roedd pawb yn y synagog wedi gwylltio wrth ei glywed yn dweud hyn. 29Dyma nhw’n codi ar eu traed a gyrru Iesu allan o’r dref i ben y bryn roedd y dre wedi’i hadeiladu arno. Roedden nhw’n bwriadu ei daflu dros y clogwyn, 30ond llwyddodd i fynd drwy ganol y dyrfa ac aeth ymlaen ar ei daith.
Iesu’n bwrw allan ysbryd drwg
(Marc 1:21-28)
31Aeth i Capernaum, un o drefi Galilea, a dechrau dysgu’r bobl yno ar y Saboth. 32Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu, am fod ei neges yn gwneud i bobl wrando arno.
33Un tro dyma rhyw ddyn oedd yn y synagog yn rhoi sgrech uchel. (Roedd y dyn wedi’i feddiannu gan gythraul, hynny ydy ysbryd drwg.) 34“Aaaaar! Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i’n dinistrio ni. Dw i’n gwybod pwy wyt ti – Un Sanctaidd Duw!”
35“Bydd ddistaw!” meddai Iesu’n ddig. “Tyrd allan ohono!” A dyma’r cythraul yn taflu’r dyn ar lawr o flaen pawb, yna daeth allan ohono heb wneud dim mwy o niwed iddo.
36Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn, “Beth sy’n mynd ymlaen? Mae ganddo’r fath awdurdod! Mae hyd yn oed yn gallu gorfodi ysbrydion drwg i ufuddhau iddo a dod allan o bobl!” 37Aeth y newyddion amdano ar led fel tân gwyllt drwy’r ardal i gyd.
Iesu’n iacháu llawer o bobl
(Mathew 8:14-17; Marc 1:29-34)
38Dyma Iesu’n gadael y synagog ac yn mynd i gartref Simon. Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn sâl iawn gyda gwres uchel. Dyma nhw’n gofyn i Iesu ei helpu hi. 39Plygodd Iesu drosti a gorchymyn i’r gwres i fynd, a diflannodd y tymheredd oedd ganddi yn y fan a’r lle! Yna dyma hi’n codi o’i gwely a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw.
40Ar ôl i’r haul fachlud roedd y Saboth drosodd, a daeth pobl at Iesu gyda’u perthnasau oedd yn dioddef o bob math o salwch. Roedd yn eu hiacháu drwy roi ei ddwylo ar bob un ohonyn nhw. 41A daeth cythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedden nhw’n gweiddi, “Mab Duw wyt ti!” am eu bod yn gwybod yn iawn mai Iesu oedd y Meseia, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud dim byd mwy.
Pregethu yn y synagogau
(Marc 1:35-39)
42Wrth iddi wawrio y bore wedyn aeth Iesu i ffwrdd i le unig. Roedd tyrfaoedd o bobl yn edrych amdano, ac ar ôl ei gael dyma nhw’n ceisio ei stopio rhag mynd. 43Ond meddai Iesu, “Rhaid i mi gyhoeddi’r newyddion da am Dduw yn teyrnasu yn y trefi eraill hefyd. Dyna pam dw i wedi cael fy anfon yma.” 44Felly aeth ati i bregethu yn y synagogau drwy wlad Jwdea.4:44 Jwdea: Mae rhai llawysgrifau yn dweud Galilea.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015