No themes applied yet
1Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Israel drwy Malachi.
Dadl am gariad Duw at Israel
2“Dw i wedi’ch caru chi,” meddai’r ARGLWYDD.
Ond dych chi’n gofyn, “Sut wyt ti wedi dangos dy gariad aton ni?”
Ac mae’r ARGLWYDD yn ateb,
“Onid oedd Esau’n frawd i Jacob?
Dw i wedi caru Jacob 3ond gwrthod Esau.1:3 Esau Disgynyddion Esau oedd pobl Edom.
Dw i wedi gwneud ei fryniau yn ddiffeithwch;
a’i dir yn gartref i siacaliaid yr anialwch.”
4Mae Edom yn dweud, “Mae’n trefi wedi’u chwalu,
ond gallwn ailadeiladu’r adfeilion.”
Ond dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud:
“Gallan nhw adeiladu, ond bydda i’n bwrw i lawr!
Byddan nhw’n cael eu galw yn wlad ddrwg,
ac yn bobl mae’r ARGLWYDD wedi digio gyda nhw am byth.”
5Cewch weld y peth drosoch eich hunain, a byddwch yn dweud,
“Yr ARGLWYDD sy’n rheoli, hyd yn oed y tu allan i ffiniau Israel!”
Yr offeiriaid ddim yn parchu Duw
6“Mae mab yn parchu ei dad
a chaethwas yn parchu ei feistr.
Os dw i’n dad, ble mae’r parch dw i’n ei haeddu?
Ac os ydw i’n feistr, pam nad ydw i’n cael fy mharchu?”
–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.
“Dych chi offeiriaid yn dangos dim ond dirmyg tuag ata i!”
“Sut ydyn ni wedi dy ddirmygu di?” meddech chi.
7“Drwy offrymu bwyd sy’n halogi fy allor i.”
“Sut ydyn ni wedi’i halogi?” meddech chi wedyn.
“Drwy feddwl, ‘Sdim ots mai bwrdd yr ARGLWYDD ydy e.’”
8Pan dych chi’n cyflwyno anifail dall i’w aberthu,
ydy hynny ddim yn ddrwg?
Pan dych chi’n cyflwyno anifail cloff neu sâl,
ydy hynny ddim yn ddrwg?
Rhowch e i lywodraethwr y wlad!
Fyddai e’n cael ei blesio?
Fyddai e’n garedig atoch chi?
–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.
9Nawr, ceisiwch ofyn am fendith Duw!
Fydd e’n garedig atoch chi?
Os mai offrymau fel yma dych chi’n eu rhoi iddo,
fydd e’n garedig atoch chi?
Mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud:
10“O na fyddai un ohonoch chi’n cloi giatiau’r deml,
fel ei bod hi’n amhosib i roi tân ar fy allor –
y cwbl i ddim pwrpas!”
“Dw i ddim yn hapus hefo chi o gwbl,”
–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus,
“a dw i ddim yn mynd i dderbyn eich offrwm chi!
11O un pen o’r byd i’r llall,
bydd fy enw’n cael ei barchu
drwy’r gwledydd i gyd!
Bydd arogldarth ac offrwm pur
yn cael ei gyflwyno i mi ym mhobman.
Bydd fy enw’n cael ei barchu
drwy’r gwledydd i gyd!”
–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.
12“Ond dych chi’n dangos dirmyg tuag ata i wrth feddwl,
‘Does dim byd sbesial am fwrdd y Meistr;
pa wahaniaeth beth sy’n cael ei roi arno?’
13‘Pam boddran?’ meddech chi,
ac wfftio’r cwbl;”
–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus,
“ac yna dod ag anifeiliaid wedi’u dwyn,
rhai cloff, a rhai sâl,
a chyflwyno’r rheiny’n offrwm i mi!
Ydw i wir i fod i’w derbyn nhw gynnoch chi?”
–yr ARGLWYDD sy’n gofyn.
14“Melltith ar y twyllwr sy’n addo hwrdd perffaith o’i braidd,
ac yna’n rhoi un gwael yn aberth i mi!
Dw i yn Frenin mawr”
–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus,
“ac mae parch ata i drwy’r gwledydd i gyd.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015