No themes applied yet
Y proffwyd yn rhybuddio’r offeiriaid
1Nawr, chi offeiriaid, dyma orchymyn i chi:
2“Os wnewch chi ddim gwrando
a phenderfynu dangos parch tuag ata i,”
–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus,
“bydda i’n dod â’r felltith arnoch chi,
ac yn troi eich bendithion chi yn felltith.
(Yn wir, dw i wedi gwneud hynny,
am eich bod chi ddim o ddifrif.)
3Bydda i’n ceryddu eich disgynyddion,
a rhwbio eich wyneb yn y perfeddion
– perfeddion aberthau eich gwyliau crefyddol,
a byddwch yn cael eich taflu allan gyda nhw!
4Byddwch yn gwybod wedyn mai fi
roddodd y gorchymyn hwn i chi,
fod fy ymrwymiad gyda Lefi i’w gadw,”
–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.
5“Rôn i wedi ymrwymo i roi bywyd a heddwch iddo.
Dyna rois i iddo, ac roedd e i fod i’m parchu
ac ymostwng o’m blaen i.
6Roedd i ddysgu’r gwir,
a doedd e ddim i dwyllo;
Roedd i fyw yn gwbl ufudd i mi,
ac i droi llawer o bobl oddi wrth ddrwg.
7Roedd geiriau offeiriad i amddiffyn y gwir,
a’r hyn mae’n ei ddysgu i roi arweiniad i bobl;
gan ei fod yn negesydd i’r ARGLWYDD hollbwerus.
8Ond dych chi wedi troi cefn ar y ffordd iawn;
dych chi wedi dysgu pethau
sydd wedi gwneud i lawer o bobl faglu.
Dych chi wedi llygru’r ymrwymiad gyda Lefi,”
–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.
9“Felly dw i’n mynd i’ch gwneud chi’n rai
sy’n cael eu diystyru a’u bychanu gan bawb,
am nad ydych chi wedi bod yn ffyddlon i mi,
a dydy’ch dysgeidiaeth chi ddim wedi bendithio pobl.”
Priodasau cymysg ac ysgariad
10Onid un tad sydd gynnon ni i gyd?
Onid yr un Duw wnaeth ein creu ni?
Felly pam ydyn ni’n anffyddlon i’n gilydd
ac yn torri ymrwymiad ein tadau?
11Mae pobl Jwda wedi bod yn anffyddlon,
ac wedi gwneud pethau ffiaidd
yn Israel a Jerwsalem.
Maen nhw wedi halogi’r lle sanctaidd
mae’r ARGLWYDD yn ei garu,
drwy briodi merched sy’n addoli duwiau eraill.
12Boed i’r ARGLWYDD daflu allan o bebyll Jacob
bob un sy’n gwneud y fath beth,
ac yna’n cyflwyno offrwm i’r ARGLWYDD hollbwerus.
13A dyma beth arall dych chi’n ei wneud:
Dych chi’n gorchuddio allor yr ARGLWYDD
gyda’ch dagrau, wrth wylo a chwyno
am nad ydy e’n cymryd sylw o’ch offrwm chi ddim mwy,
ac yn gwrthod derbyn eich rhodd.
14“Ond pam?” meddech chi.
Am fod yr ARGLWYDD yn dyst
i’r addewidion wnest ti i dy wraig pan briodaist.
Ti wedi bod yn anffyddlon iddi
er mai hi ydy dy gymar di,
a’r un wnest ti ymrwymo iddi drwy briodas.
15Oni wnaeth Duw chi’n un?
Gwnaeth chi’n un cnawd ac ysbryd.
A beth sydd gan Dduw eisiau o’r undod?
Onid plant duwiol?2:15 Oni wnaeth … duwiol Un cyfieithiad posib. Hebraeg yn anodd iawn.
Felly gwyliwch eich hunain!
Ddylai neb fod yn anffyddlon
i’r wraig briododd pan yn ifanc.
16“Dw i’n casáu ysgariad,”
–meddai’r ARGLWYDD, Duw Israel,
“a’r rhai sy’n euog o drais,”
–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.
Felly gwyliwch eich hunain!
Ddylai neb fod yn anffyddlon.
Bydd Duw yn barnu
17Dych chi wedi blino’r ARGLWYDD â’ch holl siarad.
“Sut ydyn ni wedi’i flino fe?” meddech chi,
Drwy ddweud, “Mae pawb sy’n gwneud drwg
yn dda yng ngolwg yr ARGLWYDD
– mae wrth ei fodd gyda nhw!”
neu drwy ofyn, “Ble mae’r Duw cyfiawn yma?”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015