No themes applied yet
Ioan Fedyddiwr yn paratoi’r ffordd
(Mathew 3:1-12; Luc 3:1-18; Ioan 1:19-28)
1Mae’r newyddion da am Iesu y Meseia, Mab Duw, yn dechrau fel hyn:
2Mae’n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia:
“Edrych – dw i’n anfon fy negesydd o dy flaen di,
i baratoi’r ffordd i ti” –1:2 Malachi 3:1
3“Llais yn gweiddi’n uchel yn yr anialwch,
‘Paratowch y ffordd i’r Arglwydd ddod!
Gwnewch y llwybrau’n syth iddo!’” 1:3 Eseia 40:3 (LXX)
4Dyna beth wnaeth Ioan – roedd yn bedyddio pobl yn yr anialwch ac yn cyhoeddi fod hyn yn arwydd eu bod yn troi cefn ar eu pechodau ac yn derbyn maddeuant gan Dduw. 5Roedd pobl cefn gwlad Jwdea a dinas Jerwsalem yn heidio allan ato. Pan oedden nhw’n cyfaddef eu pechodau roedd yn eu bedyddio nhw yn afon Iorddonen.
6Roedd Ioan yn gwisgo dillad o flew camel gyda belt lledr am ei ganol, ac roedd yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt. 7Dyma oedd ei neges: “Mae un llawer mwy grymus na fi yn dod ar fy ôl i – fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas yn plygu i lawr i ddatod carrai ei sandalau. 8Dw i’n defnyddio dŵr i’ch bedyddio chi, ond bydd hwn yn eich bedyddio chi â’r Ysbryd Glân.”
Bedydd Iesu a’i demtiad
(Mathew 3:13–4:11; Luc 3:21,22; 4:1-13)
9Tua’r adeg yna daeth Iesu o Nasareth, Galilea i gael ei fedyddio gan Ioan yn yr Iorddonen. 10Yr eiliad y daeth Iesu allan o’r dŵr, gwelodd yr awyr yn rhwygo’n agored a’r Ysbryd Glân yn disgyn arno fel colomen. 11A dyma lais o’r nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i’n llwyr.”
12Yn syth wedyn dyma’r Ysbryd yn gyrru Iesu allan i’r anialwch. 13Arhosodd yno am bedwar deg diwrnod, yn cael ei demtio gan Satan. Roedd anifeiliaid gwyllt o’i gwmpas, ond roedd yno angylion yn gofalu amdano.
Galw’r disgyblion cyntaf
(Mathew 4:12-22; Luc 4:14,15; 5:1-11)
14Ar ôl i Ioan gael ei roi yn y carchar aeth Iesu i Galilea a chyhoeddi newyddion da Duw. 15“Mae’n amser!” meddai. “Mae’r foment wedi dod! Mae Duw yn dod i deyrnasu! Trowch gefn ar bechod a chredu’r newyddion da!”
16Pan oedd Iesu’n cerdded wrth Lyn Galilea, gwelodd ddau frawd, Simon ac Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi’n taflu rhwyd i’r llyn. 17“Dewch,” meddai Iesu, “dilynwch fi, a gwna i chi’n bysgotwyr sy’n dal pobl yn lle pysgod.” 18Heb oedi dyma’r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl.
19Ychydig yn nes ymlaen gwelodd Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw wrthi’n trwsio eu rhwydi yn eu cwch. 20Dyma Iesu’n eu galw nhw hefyd, a dyma nhw’n gadael eu tad Sebedeus gyda’r gweision yn y cwch a dechrau dilyn Iesu.
Iesu’n bwrw allan ysbryd drwg
(Luc 4:31-37)
21Wedyn dyma nhw’n mynd i Capernaum. Ar y dydd Saboth (pan oedd yr Iddewon yn addoli Duw), aeth Iesu i’r synagog a dechrau dysgu’r bobl. 22Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu. Roedd yn wahanol i’r arbenigwyr yn y Gyfraith – roedd ganddo awdurdod oedd yn gwneud i bobl wrando arno. 23Yna’n sydyn dyma ryw ddyn oedd yn y synagog yn rhoi sgrech uchel. (Roedd y dyn wedi’i feddiannu gan ysbryd drwg.) 24“Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i’n dinistrio ni. Dw i’n gwybod pwy wyt ti – Un Sanctaidd Duw!”
25“Bydd ddistaw!” meddai Iesu’n ddig. “Tyrd allan ohono!” 26Dyma’r ysbryd drwg yn gwneud i’r dyn ysgwyd yn ffyrnig, yna daeth allan ohono gyda sgrech uchel.
27Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn i’w gilydd, “Beth sy’n mynd ymlaen? Mae’r hyn mae’n ei ddysgu yn newydd – mae ganddo’r fath awdurdod! Mae hyd yn oed ysbrydion drwg yn gorfod ufuddhau iddo.” 28Roedd y sôn amdano yn lledu fel tân gwyllt drwy holl ardal Galilea.
Iesu’n iacháu llawer o bobl
(Mathew 8:14-17; Luc 4:38-41)
29Yn syth ar ôl gadael y synagog, dyma nhw’n mynd i gartref Simon ac Andreas, gyda Iago ac Ioan. 30Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn ei gwely yn dioddef o wres uchel. Dyma nhw’n dweud wrth Iesu, 31ac aeth e ati a gafael yn ei llaw, a’i chodi ar ei thraed. Diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi’n codi a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw.
32Wrth i’r haul fachlud1:32 fachlud: Roedd y Saboth yn dod i ben pan oedd yr haul yn machlud, a diwrnod newydd yn dechrau. y noson honno dechreuodd pobl ddod at Iesu gyda rhai oedd yn sâl neu wedi’u meddiannu gan gythreuliaid. 33Roedd fel petai’r dref i gyd yno wrth y drws! 34Dyma Iesu’n iacháu nifer fawr o bobl oedd yn dioddef o wahanol afiechydon. Bwriodd gythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedd y cythreuliaid yn gwybod yn iawn pwy oedd Iesu, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud gair.
Iesu’n gweddïo a pregethu
(Luc 4:42-44)
35Y bore wedyn cododd Iesu’n gynnar iawn. Roedd hi’n dal yn dywyll pan adawodd y tŷ, ac aeth i le unig i weddïo. 36Dyma Simon a’r lleill yn mynd i edrych amdano, 37ac ar ôl dod o hyd iddo dyma nhw’n dweud yn frwd: “Mae pawb yn edrych amdanat ti!”
38Atebodd Iesu, “Gadewch i ni fynd yn ein blaenau i’r pentrefi nesa, i mi gael cyhoeddi’r newyddion da yno hefyd. Dyna pam dw i yma.” 39Felly teithiodd o gwmpas Galilea, yn pregethu yn y synagogau a bwrw cythreuliaid allan o bobl.
Dyn yn dioddef o’r gwahanglwyf
(Mathew 8:1-4; Luc 5:12-16)
40Dyma ddyn oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf yn dod ato ac yn pledio ar ei liniau o’i flaen, “Gelli di fy ngwneud i’n iach os wyt ti eisiau.”
41Yn llawn teimlad,1:41 llawn teimlad: Mae rhai llawysgrifau yn dweud yn ddig. dyma Iesu yn estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân!” 42Dyma’r gwahanglwyf yn diflannu y foment honno. Cafodd y dyn ei iacháu.
43Dyma Iesu’n rhybuddio’r dyn yn llym cyn gadael iddo fynd: 44“Gwna’n siŵr dy fod ti ddim yn dweud wrth unrhyw un beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i’r offeiriad a chyflwyno beth ddwedodd Moses y dylet ei gyflwyno, yn dystiolaeth i’r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.”1:44 Dos i ddangos … iacháu: Os oedd rhywun yn cael ei iacháu o glefyd heintus ar y croen roedd rhaid i offeiriad ei archwilio, a chyhoeddi fod y person yn iach. Wedyn roedd rhaid cyflwyno offrwm o ddau oen gwryw ac un oen benyw a blawd wedi’i gymysgu gydag olew olewydd. 1:44 Lefiticus 14:1-32 45Ond dyma’r dyn yn dechrau mynd o gwmpas yn dweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd. O ganlyniad, doedd Iesu ddim yn gallu mynd a dod yn agored mewn unrhyw dref. Roedd yn aros allan mewn lleoedd unig. Ond roedd pobl yn dal i ddod ato o bob cyfeiriad!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015