No themes applied yet
Arwyddion o ddiwedd y byd
(Marc 13:1-31; Luc 21:5-33)
1Wrth i Iesu adael y deml dyma’i ddisgyblion yn dod ato ac yn tynnu ei sylw at yr adeiladau. 2“Ydych chi’n gweld y rhain i gyd?” meddai. “Credwch chi fi, bydd y cwbl yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi’i gadael yn ei lle.”
3Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu’n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, daeth ei ddisgyblion ato yn breifat a gofyn, “Pryd mae beth oeddet ti’n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd i ddangos i ni dy fod di’n dod, a bod diwedd y byd wedi cyrraedd?”
4Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi. 5Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, ac yn dweud, ‘Fi ydy’r Meseia,’ a byddan nhw’n llwyddo i dwyllo llawer o bobl. 6Bydd rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd yn agos ac ymhell. Ond peidiwch cynhyrfu – mae pethau felly’n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod. 7Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd. 8Dim ond y dechrau ydy hyn i gyd!
9“Cewch eich arestio a’ch cam-drin a’ch lladd. Bydd pobl ym mhob gwlad yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi. 10Bydd llawer yn troi cefn arna i bryd hynny, ac yn bradychu a chasáu ei gilydd. 11Bydd proffwydi ffug yn codi ac yn twyllo llawer iawn o bobl. 12Bydd mwy a mwy o ddrygioni a bydd cariad y rhan fwyaf yn oeri, 13ond bydd yr un sy’n sefyll yn gadarn i’r diwedd un yn cael ei achub. 14A bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod.
15“Pan fydd beth soniodd y proffwyd Daniel amdano yn digwydd, hynny ydy pan fydd ‘Yr eilun ffiaidd sy’n dinistrio’24:15 cyfeiriad at Daniel 9:27; 11:31; 12:11 yn sefyll yn y cysegr sanctaidd 16(rhaid i’r un sy’n darllen ddeall hyn!), dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i’r mynyddoedd. 17Fydd dim cyfle i neb sydd y tu allan i’w dŷ fynd i mewn i nôl unrhyw beth. 18A ddylai neb sydd allan yn y maes fynd adre i nôl ei gôt hyd yn oed. 19Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy’n magu plant bach bryd hynny! 20Gweddïwch bydd dim rhaid i chi ffoi yn ystod y gaeaf neu ar ddydd Saboth. 21Achos bryd hynny bydd argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o’r blaen – a fydd dim byd tebyg yn y dyfodol chwaith! 22Oni bai iddo gael ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond bydd yn cael ei wneud yn gyfnod byr er mwyn y bobl mae Duw wedi’u dewis. 23Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy’r Meseia!’ neu ‘Dacw fe!’ peidiwch credu’r peth. 24Bydd llawer i ‘Feseia’ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw’n twyllo’r bobl hynny mae Duw wedi’u dewis petai’r fath beth yn bosib! 25Cofiwch mod i wedi dweud hyn ymlaen llaw.
26“Felly os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi, ‘Mae’r Meseia acw, allan yn yr anialwch,’ peidiwch mynd yno i edrych; neu ‘mae e’n cuddio yma,’ peidiwch credu’r peth. 27Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo’r awyr o’r dwyrain i’r gorllewin. 28Bydd mor amlwg â’r ffaith fod yna gorff marw ble bynnag mae fwlturiaid wedi casglu.
29“Ond yn union ar ôl yr argyfwng hwnnw,
‘Bydd yr haul yn tywyllu,
a’r lleuad yn peidio rhoi golau;
bydd y sêr yn syrthio o’r awyr,
a’r planedau yn ansefydlog.’24:29 Eseia 13:10; 34:4 (LXX); Joel 2:10 (cf. Amos 8:9; Eseciel 32:7-8)
30“Yna bydd arwydd i’w weld yn yr awyr yn rhybuddio fod Mab y Dyn ar fin dod, a bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru. Bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod ar gymylau’r awyr gyda grym ac ysblander mawr.24:30 cyfeiriad at Daniel 7:13 31Bydd utgorn yn canu a bydd Duw yn anfon ei angylion i gasglu’r rhai mae wedi’u dewis o bob rhan o’r byd.
32“Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae’r brigau’n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos. 33Felly’r un fath, pan fyddwch yn gweld hyn i gyd, byddwch yn gwybod ei fod ar fin dod yn ôl – reit y tu allan i’r drws! 34Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd. 35Bydd yr awyr a’r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i’n ddweud yn aros am byth.
Neb yn gwybod pa bryd
(Marc 13:32-37; Luc 17:26-30,34-35)
36“Does neb ond y Tad yn gwybod y dyddiad a pha amser o’r dydd y bydd hyn yn digwydd – dydy’r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun! 37Bydd hi yr un fath ag oedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl. 38Yn union cyn y llifogydd, roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i’r arch. 39Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd yn mynd i ddigwydd nes i’r llifogydd ddod a’u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd!24:38-39 cyfeiriad at yr hanes yn Genesis 7:6-24 Fel yna’n union y bydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl. 40Bydd dau allan yn y maes; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a’r llall yn cael ei adael. 41Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda melin law; bydd un yn cael ei chymryd a’r llall yn cael ei gadael.
42“Gwyliwch felly, achos dych chi ddim yn gwybod y dyddiad pan fydd eich Arglwydd yn dod yn ôl. 43Meddyliwch! Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd yn ystod y nos roedd y lleidr yn dod, byddai wedi aros i wylio a’i rwystro rhag torri i mewn i’w dŷ. 44Felly rhaid i chi hefyd fod yn barod drwy’r adeg. Bydda i, Mab y Dyn, yn cyrraedd pan fyddwch chi ddim yn disgwyl!
Y gwas ffyddlon neu anffyddlon
(Luc 12:41-48)
45“Felly pwy ydy’r gwas doeth mae’r meistr yn gallu dibynnu arno? Mae wedi’i benodi i fod yn gyfrifol am weddill y staff, i’w bwydo nhw’n rheolaidd. 46Os bydd yn gwneud ei waith yn iawn pan ddaw’r meistr yn ôl, bydd yn cael ei wobrwyo. 47Wir i chi, bydd yn cael y cyfrifoldeb o ofalu am eiddo’r meistr i gyd! 48Ond beth petai’r gwas yna’n un drwg, ac yn meddwl iddo’i hun, ‘Mae’r meistr wedi bod i ffwrdd yn hir iawn,’ 49ac yn mynd ati i gam-drin ei gydweithwyr, a bwyta ac yfed gyda’r meddwon. 50Byddai’r meistr yn dod yn ôl yn gwbl ddirybudd, 51a’i gosbi’n llym a’i daflu allan gyda’r rhai hynny sy’n gwneud sioe o’u crefydd. Yno bydd pobl yn wylo’n chwerw ac mewn artaith.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015