No themes applied yet
Galaru am ddrygioni’r bobl
1Dw i mor ddigalon!
Dw i fel rhywun yn chwilio’n daer am ffrwyth
ar ôl i’r ffrwythau haf a’r grawnwin gael eu casglu.
Does dim un swp o rawnwin ar ôl,
na’r ffigys cynnar dw i mor hoff ohonyn nhw.
2Does neb caredig a hael ar ôl yn y wlad!
Mae’r bobl onest i gyd wedi mynd.
Mae pawb yn edrych am gyfle i ymosod ar rywun arall;
maen nhw fel helwyr yn gosod trapiau i’w gilydd.
3Maen nhw’n rai da am wneud drwg! –
mae arweinwyr a barnwyr yn derbyn breib;
does ond rhaid i’r pwysigion ddweud beth maen nhw eisiau
a byddan nhw’n dyfeisio rhyw sgam i’w bodloni.
4Mae’r gorau ohonyn nhw fel drain,
a’r mwya gonest fel llwyn o fieri.
Mae’r gwylwyr wedi’ch rhybuddio;
mae dydd y farn yn dod ar frys –
mae anhrefn llwyr ar ei ffordd!
5Peidiwch trystio neb!
Allwch chi ddim dibynnu ar eich ffrindiau,
na hyd yn oed eich gwraig –
peidiwch dweud gair wrthi hi!
6Fydd mab ddim yn parchu ei dad,
a bydd merch yn herio’i mam;
merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith –
eich gelynion pennaf fydd eich teulu agosaf!
7Dw i am droi at yr ARGLWYDD am help.
Dw i’n disgwyl yn hyderus am y Duw sy’n achub.
Dw i’n gwybod y bydd e’n gwrando arna i.
Bydd yr ARGLWYDD yn achub ei bobl
8“Peidiwch dathlu’n rhy fuan, elynion!
Er fy mod wedi syrthio, bydda i’n codi eto.
Er bod pethau’n dywyll ar hyn o bryd,
bydd yr ARGLWYDD yn olau i mi.
9Rhaid i mi oddef cosb yr ARGLWYDD
am fy mod wedi pechu yn ei erbyn.
Ond yna bydd e’n ochri gyda mi
ac yn ennill yr achos ar fy rhan.
Bydd yn fy arwain i allan i’r golau;
bydda i’n cael fy achub ganddo.
10Bydd fy ngelynion yn gweld hyn,
a byddan nhw’n profi siom ac embaras.
Fi fydd yn dathlu, wrth eu gweld nhw,
y rhai oedd yn dweud, ‘Ble mae dy Dduw di?’,
yn cael eu sathru fel baw ar y strydoedd.”
11Y fath ddiwrnod fydd hwnnw! –
diwrnod i ailadeiladu dy waliau;
diwrnod i ehangu dy ffiniau!
12Diwrnod pan fydd pobl yn dod atat
yr holl ffordd o Asyria i drefi’r Aifft,
o’r Aifft i afon Ewffrates,
o un arfordir i’r llall, ac o’r mynyddoedd pellaf.
13Ond bydd gweddill y ddaear yn ddiffaith,
o achos y ffordd mae pobl wedi byw.
Y bobl yn canmol Duw am ei gariad
14ARGLWYDD, tyrd i fugeilio dy bobl,
dy braidd arbennig dy hun;
y rhai sy’n byw’n unig mewn tir llawn drysni
tra mae porfa fras o’u cwmpas.
Gad iddyn nhw bori ar gaeau Bashan a Gilead,7:14 Bashan a Gilead ardaloedd i’r dwyrain o afon Iorddonen, yn enwog am fod yn dir pori da.
fel roedden nhw’n gwneud ers talwm.
15Gad iddyn nhw weld dy wyrthiau,
fel yr adeg pan aethon nhw allan o wlad yr Aifft!
16Bydd y gwledydd yn gweld hyn,
a bydd eu grym yn troi’n gywilydd.
Byddan nhw’n sefyll yn syn,
ac fel petaen nhw’n clywed dim!
17Byddan nhw’n llyfu’r llwch fel nadroedd
neu bryfed yn llusgo ar y llawr.
Byddan nhw’n ofni am eu bywydau,
ac yn crynu wrth ddod allan o’u cuddfannau7:17 Salm 18:45; 2 Samuel 22:46
i dy wynebu di, yr ARGLWYDD ein Duw.
18Oes duw tebyg i ti? – Na!
Ti’n maddau pechod
ac yn anghofio gwrthryfel
y rhai sydd ar ôl o dy bobl.7:18 Exodus 34:6-7
Ti ddim yn digio am byth;
ti wrth dy fodd yn bod yn garedig a hael.
19Byddi’n tosturio wrthon ni eto.
Byddi’n delio gyda’n drygioni,
ac yn taflu’n pechodau i waelod y môr.
20Byddi’n ffyddlon i bobl Jacob
ac yn dangos dy drugaredd i blant Abraham –
fel gwnest ti addo i’n hynafiaid
amser maith yn ôl.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015