No themes applied yet
Yr ARGLWYDD yn dial ar Ninefe (Prifddinas Asyria)
1Neges am ddinas Ninefe:1:1 dinas Ninefe roedd safle Ninefe heb fod yn bell o Mosul, gogledd Irac heddiw. Cofnod o weledigaeth Nahum1:1 Nahum Ystyr yr enw ydy “llawn cysur”. o Elcosh.
2Mae’r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus sy’n dial;
Mae’r ARGLWYDD yn dial, ac mae ei ddicter yn ffyrnig.
Mae’r ARGLWYDD yn dial ar ei elynion,
ac yn wyllt gyda’i wrthwynebwyr.
3Mae’r ARGLWYDD yn amyneddgar
ac yn gryf –
ond dydy e ddim yn gadael i’r euog osgoi’r gosb.1:3 Exodus 34:6,7
Mae’n martsio yn y corwynt a’r storm,
ac mae’r cymylau fel llwch dan ei draed.
4Mae’n gweiddi ar y môr a’i sychu,
ac yn sychu’r afonydd i gyd.
Mae porfa Bashan a Carmel yn gwywo,
ac mae blodau Libanus1:4 Bashan … Carmel … Libanus Ardaloedd yn enwog am eu tir ffrwythlon – gw. Micha 7:14. yn gwywo.
5Mae’r mynyddoedd yn crynu
a’r bryniau’n toddi o’i flaen.
Mae’r tir yn troi’n ddiffeithwch o’i flaen,
y byd, a phopeth sy’n byw ynddo.
6Pwy all oroesi o flaen ei ddicter?
Pwy all wrthsefyll ei ffyrnigrwydd?
Mae’n tywallt ei lid fel tân,
ac mae’r creigiau’n cael eu dryllio ganddo.
7Mae’r ARGLWYDD yn dda,
ac yn gaer ddiogel mewn argyfwng;
Mae’n gofalu am y rhai sy’n troi ato am help.
8Ond mae’n gyrru ei elynion i’r tywyllwch;
fel llifogydd sy’n ysgubo popeth ymaith,
bydd yn rhoi diwedd ar Ninefe’n llwyr.
9Unrhyw gynlluniau sydd gen ti yn ei erbyn,
bydd yr ARGLWYDD yn eu dinistrio’n llwyr:
fydd ei elyn ddim yn codi yn ei erbyn yr ail waith!
10Byddan nhw fel dynion wedi meddwi’n gaib;
Byddan nhw’n cael eu llosgi fel drysni o ddrain,
neu fonion gwellt wedi sychu’n llwyr.
11Ohonot ti, Ninefe, y daeth un
oedd yn cynllwynio drwg yn erbyn yr ARGLWYDD
– strategydd drygioni!1:11 Mae’r adnod yma, mae’n debyg, yn cyfeirio at Senacherib (brenin Asyria o 705 i 681 CC) Ymosododd ei fyddin ar Jerwsalem yn 701 CC, pan oedd Heseceia yn frenin ar Jwda – (gw. 2 Brenhinoedd 18:13–19:27).
12Ond dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Er eu bod nhw’n gryf ac yn niferus,
byddan nhw’n cael eu torri i lawr, ac yn diflannu.
Er fy mod i wedi dy gosbi di, Jwda,
fydda i ddim yn dy gosbi di eto;
13dw i’n mynd i dorri’r iau roddodd e ar dy war
a dryllio’r rhaffau sy’n dy rwymo.”
14Mae’r ARGLWYDD wedi datgan am Ninefe,
“Fydd gen ti ddim disgynyddion bellach.
Dw i’n mynd i gael gwared â’r eilunod
a’r delwau metel o demlau dy dduwiau.
Bydda i’n paratoi bedd i ti
fydd yn dangos mor ddibwys oeddet ti.”
15Edrychwch! Mae negesydd yn dod dros y mynyddoedd
yn cyhoeddi heddwch!
“Dathla dy wyliau crefyddol, O Jwda,
a chadw dy addewidion!
Fydd y rhai drwg byth yn dy orchfygu eto;
byddan nhw’n cael eu dinistrio’n llwyr.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015