No themes applied yet
1Gwae ddinas y tywallt gwaed,
sy’n llawn celwyddau, yn llawn trais
a’r lladd byth yn stopio!
2Daeth sŵn clec y chwip a thwrw’r olwynion,
meirch yn carlamu a cherbydau’n crynu!
3Marchogion yn ymosod,
cleddyfau’n fflachio,
gwaywffyn yn disgleirio!
Pobl wedi’u lladd ym mhobman;
tomenni diddiwedd o gyrff –
maen nhw’n baglu dros y meirwon!
4A’r cwbl o achos drygioni’r butain
ddeniadol oedd yn feistres swynion,
yn gwerthu ei hun i’r cenhedloedd
a swyno a thwyllo pobloedd.
5“Dw i’n mynd i ddelio gyda ti,”
–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.
“Bydda i’n gwneud i ti gywilyddio –
yn codi dy sgert dros dy wyneb;
bydd y cenhedloedd yn dy weld yn noeth
a theyrnasoedd yn gweld dy rannau preifat!
6Bydda i’n taflu budreddi ar dy ben,
a’th wneud yn destun sbort ac yn sioe.
7Fydd neb yn gallu edrych yn hir –
Bydd pawb yn troi i ffwrdd a dweud,
‘Mae Ninefe’n adfeilion,
a does neb yn cydymdeimlo!’
Ble wna i ddod o hyd i rywun i dy gysuro di, Ninefe?”
8Wyt ti’n saffach na Thebes ar lan afon Nîl?
Roedd y dŵr fel môr yn glawdd o’i chwmpas,
a’r afon fel rhagfur iddi.
9Roedd yn rheoli’r Aifft a dwyrain Affrica;
roedd ei grym yn ddi-ben-draw!
– mewn cynghrair â Pwt a Libia.
10Ond cafodd ei phobl eu caethgludo,
a’i phlant bach eu curo i farwolaeth
ar gornel pob stryd.
Roedden nhw’n gamblo am ei phobl bwysig,
ac yn rhwymo ei harweinwyr â chadwyni.
11Byddi dithau hefyd yn feddw
ac wedi dy faeddu.
Byddi dithau’n ceisio cuddio rhag y gelyn.
12Bydd dy gaerau i gyd fel coed ffigys
gyda’i ffrwythau cynta’n aeddfed.
O’u hysgwyd bydd y ffrwyth yn syrthio
i gegau’r rhai sydd am eu bwyta!
13Bydd dy filwyr fel merched gwan yn dy ganol;
a giatiau dy wlad ar agor i’r gelyn;
bydd tân yn llosgi’r barrau sy’n eu cloi.
14Dos i dynnu dŵr i’w gadw ar gyfer y gwarchae!
Cryfha dy gaerau!
Cymer fwd a sathra’r clai,
a gwneud brics yn y mowld!
15Bydd tân yn dy losgi di yno,
a’r cleddyf yn dy dorri i lawr –
cei dy ddifa fel cnwd gan lindys.
Gwna dy hun mor niferus â’r lindys;
gwna dy hun mor niferus â’r locust ifanc.
16Roedd gen ti fwy o fasnachwyr
nag sydd o sêr yn yr awyr,
ond maen nhw fel lindys yn bwrw’i groen a hedfan i ffwrdd.
17Roedd dy warchodwyr a’th weision sifil
fel haid o locustiaid yn eistedd ar waliau ar ddiwrnod oer;
ond pan mae’r haul yn codi maen nhw’n hedfan i ffwrdd,
a does neb yn gwybod i ble.
18Mae dy fugeiliaid yn cysgu, frenin Asyria!
Mae dy arweinwyr yn pendwmpian!
Mae dy bobl fel defaid ar wasgar dros y bryniau,
a does neb i’w casglu.
19Does dim gwella ar dy glwyf –
mae dy anaf yn farwol.
Bydd pawb fydd yn clywed y newyddion amdanat
yn dathlu a churo dwylo.
Oes rhywun wnaeth ddianc
rhag dy greulondeb diddiwedd?
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015