No themes applied yet
Ffiniau’r wlad
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2“Dwed wrth bobl Israel: ‘Pan ewch chi i mewn i wlad Canaan, dyma’r ffiniau i’r tir dw i’n ei roi i chi i’w etifeddu: 3Bydd ffin y de yn mynd o anialwch Sin i’r ffin gydag Edom. Bydd yn ymestyn i’r dwyrain at ben isaf y Môr Marw.34:3 Hebraeg, “Môr Halen”. 4Bydd yn mynd i’r de, heibio Bwlch Acrabbîm (sef “Bwlch y Sgorpion”), ymlaen i Sin ac yna i gyfeiriad Cadesh-barnea, ac wedyn i Chatsar-adar a throsodd i Atsmon. 5O’r fan honno bydd y ffin yn troi i ddilyn Wadi’r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir.
6“‘Y Môr Mawr (sef Môr y Canoldir) fydd y ffin i’r gorllewin.
7“‘Bydd ffin y gogledd yn mynd o Fôr y Canoldir i Fynydd Hor, 8ac yna i Fwlch Chamath ac ymlaen i Sedad. 9Yna o Sedad ymlaen i Siffron, ac wedyn i Chatsar-einan. Dyna fydd ffin y gogledd.
10“‘Bydd ffin y dwyrain yn mynd i gyfeiriad y de o Chatsar-einan i Sheffam; 11wedyn o Sheffam i Ribla sydd i’r dwyrain o Ain. Yna i lawr ochr ddwyreiniol Llyn Galilea, 12ac ar hyd afon Iorddonen yr holl ffordd i’r Môr Marw.34:12 Hebraeg, “Môr Halen”. Dyna fydd y ffiniau o gwmpas eich tir chi.’”
13A dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel: “Dyma’r tir fydd yn cael ei rannu rhyngoch chi. Mae’r ARGLWYDD wedi dweud ei fod i gael ei roi i’r naw llwyth a hanner sydd ar ôl. 14Mae llwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse, wedi cael eu tir nhw. 15Maen nhw wedi cael tir yr ochr yma i’r Iorddonen, sef i’r dwyrain o Jericho.”
Y dynion sydd i rannu’r tir
16Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 17“Dyma’r dynion fydd yn gyfrifol am rannu’r tir rhyngoch chi: Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nwn. 18A rhaid i chi gymryd un arweinydd o bob llwyth i helpu gyda’r gwaith.” 19-28Dyma enwau’r arweinwyr ddewisodd yr ARGLWYDD:
Arweinydd | Llwyth |
Caleb fab Jeffwnne | Jwda |
Shemwel fab Amihwd | Simeon |
Elidad fab Cislon | Benjamin |
Bwcci fab Iogli | Dan |
Channiel fab Effod | Manasse |
Cemwel fab Shifftan | Effraim |
Elitsaffan fab Parnach | Sabulon |
Paltiel fab Assan | Issachar |
Achihwd fab Shelomi | Asher |
Pedahel fab Amihwd | Nafftali |
29Y rhain gafodd eu dewis gan yr ARGLWYDD i fod yn gyfrifol am rannu tir Canaan rhwng pobl Israel.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015