No themes applied yet
1Mae plentyn doeth yn gwrando pan mae ei dad yn ei gywiro,
ond dydy plant sy’n meddwl eu bod nhw’n gwybod yn well
ddim yn gwrando ar gerydd.
2Mae canlyniadau da i eiriau caredig,
ond dydy’r twyllwr yn cynnig dim byd ond trais.
3Mae’r person sy’n ffrwyno’i dafod yn diogelu ei hun,
ond yr un sy’n methu cau ei geg yn dinistrio’i hun.
4Mae’r person diog eisiau pethau, ond yn cael dim;
ond bydd y person gweithgar yn cael popeth mae e eisiau.
5Mae’r person cyfiawn yn casáu celwydd,
ond y person drwg yn dwyn cywilydd a gwarth arno’i hun.
6Mae cyfiawnder yn amddiffyn y rhai sy’n byw yn iawn,
ond mae’r pechadur yn cael ei faglu gan ei ddrygioni.
7Mae un heb ddim yn cymryd arno ei fod yn gyfoethog,
ac un arall yn gyfoethog yn cymryd arno ei fod yn dlawd.
8Gall y cyfoethog gael ei fygwth am ei gyfoeth,
ond dydy’r person tlawd ddim yn cael y broblem yna.
9Mae golau’r cyfiawn yn disgleirio’n llachar,
ond mae’r person drwg fel lamp sy’n diffodd.
10Dydy balchder yn gwneud dim ond creu trafferthion;
mae pobl ddoeth yn derbyn cyngor.
11Mae cyfoeth gafodd ei ennill heb ymdrech yn diflannu’n hawdd,
ond bydd cyfoeth sydd wedi’i gasglu o dipyn i beth yn cynyddu.
12Mae gobaith sy’n cael ei ohirio yn torri’r galon,
ond mae dymuniad sy’n dod yn wir fel coeden sy’n rhoi bywyd.
13Bydd pethau’n mynd yn ddrwg i’r un sy’n gwrthod cyngor,
ond bydd y person sy’n gwrando ar orchymyn yn cael ei wobrwyo.
14Mae dysgu gan rai doeth fel ffynnon sy’n rhoi bywyd,
ac yn cadw rhywun rhag syrthio i faglau marwolaeth.
15Mae dangos tipyn o sens yn ennill ffafr,
ond mae byw fel twyllwr yn arwain at ddinistr.
16Mae pawb call yn gwneud beth sy’n ddoeth,
ond mae’r ffŵl yn dangos ei dwpdra.
17Mae negesydd gwael yn achosi dinistr,
ond mae negesydd ffyddlon yn dod ag iachâd.
18Tlodi a chywilydd fydd i’r un sy’n gwrthod cael ei gywiro;
ond bydd y sawl sy’n gwrando ar gerydd yn cael ei ganmol.
19Mae dymuniad wedi’i gyflawni yn beth melys,
ond mae’n gas gan ffyliaid droi cefn ar ddrwg.
20Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth,
ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.
21Mae helyntion yn dilyn pechaduriaid,
ond bydd bywyd yn dda i’r rhai sy’n byw’n gyfiawn.
22Mae person da yn gadael etifeddiaeth i’w wyrion a’i wyresau,
ond mae cyfoeth pechaduriaid yn mynd i’r rhai sy’n byw’n gyfiawn.
23Mae digon o fwyd yn tyfu ar dir pobl dlawd,
ond mae anghyfiawnder yn ei ysgubo i ffwrdd.
24Mae’r sawl sy’n atal y wialen yn casáu ei blentyn;
mae’r un sy’n ei garu yn ei ddisgyblu o’r dechrau cyntaf.
25Mae gan bobl gyfiawn ddigon i’w fwyta,
ond boliau gwag sydd gan bobl ddrwg.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015