No themes applied yet
1Mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei chartref,
ond mae’r un ffôl yn ei rwygo i lawr â’i dwylo ei hun.
2Mae’r person sy’n byw’n iawn yn parchu’r ARGLWYDD,
ond mae’r rhai sy’n twyllo yn ei ddirmygu.
3Mae siarad balch y ffŵl yn wialen ar ei gefn,
ond mae geiriau’r doeth yn ei amddiffyn.
4Heb ychen, mae’r cafn bwydo yn wag;
mae cryfder ychen yn dod â chynhaeaf mawr.
5Dydy tyst gonest ddim yn dweud celwydd;
ond mae tyst ffals yn palu celwyddau.
6Mae gwawdiwr yn chwilio am ddoethineb, ac yn methu ei gael;
ond mae person deallus yn dysgu’n rhwydd.
7Cadw draw o gwmni person ffôl,
achos wnei di ddysgu dim ganddo.
8Mae person call yn gwybod ble mae e’n mynd,
ond mae ffyliaid yn mynd ar goll yn eu ffolineb.
9Mae ffyliaid yn gwawdio offrwm dros euogrwydd,
ond mae’r rhai sy’n byw yn iawn yn profi ffafr Duw.
10Dim ond y galon ei hun sy’n gwybod pa mor chwerw ydy hi,
a does neb arall yn gallu rhannu’i llawenydd.
11Bydd tai pobl ddrwg yn syrthio,
ond bydd cartre’r un sy’n byw’n iawn yn llwyddo.
12Mae yna ffordd o fyw sy’n edrych yn iawn i bobl,
ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw.
13Gall y galon fod yn drist hyd yn oed pan mae rhywun yn chwerthin,
ac mae hapusrwydd yn gallu troi’n dristwch yn y diwedd.
14Bydd pobl ddiegwyddor yn wynebu canlyniadau eu ffyrdd,
ond pobl dda yn cael eu gwobrwyo am eu gweithredoedd.
15Mae’r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth,
ond mae’r person call yn fwy gofalus.
16Mae rhywun doeth yn cymryd gofal, ac yn troi cefn ar ddrygioni,
ond mae’r ffŵl yn rhy hyderus ac yn rhuthro i mewn yn fyrbwyll.
17Mae rhywun sy’n fyr ei dymer yn gwneud pethau ffôl,
ac mae’n gas gan bobl rai sydd â chynlluniau cyfrwys.
18Mae pobl ddiniwed yn etifeddu ffolineb,
ond pobl gall yn cael eu coroni â gwybodaeth.
19Bydd pobl ddrwg yn ymgrymu o flaen y da,
a’r rhai wnaeth ddrwg yn disgwyl wrth giatiau’r cyfiawn.
20Mae hyd yn oed cymdogion y person tlawd yn ei gasáu,
ond mae gan y cyfoethog lot o ffrindiau.
21Mae rhywun sy’n malio dim am bobl eraill yn pechu,
ond mae bendith fawr i’r rhai sy’n helpu pobl mewn angen.
22Onid ydy’r rhai sy’n cynllwynio drwg yn mynd ar goll?
Ond mae’r rhai sy’n bwriadu gwneud daioni yn garedig ac yn ffyddlon.
23Mae elw i bob gwaith caled,
ond mae gwneud dim ond siarad yn arwain i dlodi.
24Mae’r doeth yn cael cyfoeth yn goron,
ond ffolineb ydy torch ffyliaid.
25Mae tyst sy’n dweud y gwir yn achub bywydau,
ond mae’r un sy’n palu celwyddau yn dwyllwr.
26Mae parchu’r ARGLWYDD yn rhoi hyder,
ac yn lle diogel i blant rhywun gysgodi.
27Mae parchu’r ARGLWYDD yn ffynnon sy’n rhoi bywyd,
ac yn troi rhywun oddi wrth faglau marwolaeth.
28Mae bod yn frenin ar boblogaeth fawr yn anrhydedd,
ond heb bobl dydy llywodraethwr yn neb.
29Mae rheoli’ch tymer yn beth call iawn i’w wneud,
ond mae colli’ch tymer yn dangos eich bod yn ddwl.
30Mae ysbryd tawel yn iechyd i’r corff,
ond cenfigen fel cancr yn pydru’r esgyrn.
31Mae’r un sy’n gormesu’r tlawd yn amharchu ei Grëwr,
ond mae bod yn garedig at rywun mewn angen yn anrhydeddu Duw.
32Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel gan eu drygioni eu hunain,
ond mae gonestrwydd y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn yn eu cadw nhw’n saff.
33Mae doethineb yn eistedd yn gyfforddus ym meddwl rhywun sy’n synhwyrol,
ond ydy ffyliaid yn gwybod amdano o gwbl?
34Mae cyfiawnder yn gwneud gwlad yn un wych,
ond pechod yn dwyn gwarth ar bobl.
35Mae’r brenin yn dangos ffafr at was da,
ond yn digio wrth un sy’n dda i ddim.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015