No themes applied yet
1Mae pobl yn gallu gwneud penderfyniadau,
ond yr ARGLWYDD sydd a’r gair olaf.
2Mae pobl bob amser yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn,
ond mae’r ARGLWYDD yn pwyso a mesur y cymhellion.
3Rho bopeth wnei di yn nwylo’r ARGLWYDD,
a bydd dy gynlluniau’n llwyddo.
4Mae gan yr ARGLWYDD bwrpas i bopeth mae’n ei wneud,
hyd yn oed pobl ddrwg ar gyfer dydd dinistr.
5Mae’n gas gan yr ARGLWYDD bobl falch;
fyddan nhw’n sicr ddim yn osgoi cael eu cosbi.
6Mae caredigrwydd a ffyddlondeb yn cuddio beiau pobl eraill,
a dangos parch at yr ARGLWYDD yn troi rhywun oddi wrth ddrwg.
7Pan mae ymddygiad rhywun yn plesio’r ARGLWYDD,
mae hyd yn oed ei elynion yn troi’n ffrindiau.
8Mae’n well cael ychydig a byw’n iawn,
na chael cyfoeth mawr drwy fod yn anonest.
9Mae pobl yn gallu cynllunio beth i’w wneud,
ond yr ARGLWYDD sy’n arwain y ffordd.
10Y brenin sy’n dweud beth ydy beth;
dydy e byth yn barnu’n annheg.
11Mae’r ARGLWYDD eisiau clorian deg;
rhaid i bob un o’r pwysau sydd yn y god fod yn gywir.
12Mae brenhinoedd yn casáu torcyfraith,
am mai cyfiawnder sy’n gwneud gorsedd yn ddiogel.
13Mae dweud y gwir yn ennill ffafr brenhinoedd;
maen nhw’n hoffi pobl onest.
14Mae gwylltio brenin yn arwain i farwolaeth
ond bydd person doeth yn gallu ei dawelu.
15Mae gwên ar wyneb y brenin yn arwain i fywyd;
mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn.
16Mae dysgu bod yn ddoeth yn llawer gwell nag aur;
a chael deall yn well nag arian.
17Mae ffordd glir o flaen yr un sy’n osgoi drygioni;
ac mae’r person sy’n gwylio ble mae’n mynd yn saff.
18Mae balchder yn dod o flaen dinistr,
a brolio cyn baglu.
19Mae’n well bod yn ostyngedig gyda’r anghenus
na rhannu ysbail gyda’r balch.
20Mae’r un sy’n gwrando ar neges Duw yn llwyddo,
a’r un sy’n trystio’r ARGLWYDD yn hapus.
21Mae’r person doeth yn cael ei gyfri’n gall,
ac mae geiriau caredig yn helpu rhywun i ddysgu.
22Mae synnwyr cyffredin fel ffynnon sy’n rhoi bywyd i rywun,
ond mae ffyliaid yn talu’r pris am eu ffolineb.
23Mae person doeth yn meddwl cyn siarad;
mae ei eiriau’n dwyn perswâd.
24Mae geiriau caredig fel diliau mêl,
yn felys eu blas ac yn iach i’r corff.
25Mae yna ffordd o fyw sy’n edrych yn iawn i bobl,
ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw.
26Mae’r angen am fwyd yn gwneud i rywun weithio’n galed,
a bol gwag yn ei yrru yn ei flaen.
27Mae dihiryn drwg yn chwilio am helynt,
ac mae ei eiriau’n gwneud niwed fel tân.
28Mae person croes yn achosi cynnen,
a’r un sy’n hel clecs yn chwalu ffrindiau.
29Mae person treisgar yn denu pobl,
ac yn eu harwain nhw i wneud pethau sydd ddim yn dda.
30Mae’n wincio pan mae’n bwriadu twyllo,
a rhoi ei fys ar ei wefusau wrth wneud drwg.
31Mae gwallt gwyn fel coron hardd;
mae i’w chael wrth fyw yn gyfiawn.
32Mae ymatal yn well nag ymosod,
a rheoli’r tymer yn well na choncro dinas.
33Mae’r deis yn cael ei daflu,
ond mae’r canlyniad yn llaw’r ARGLWYDD.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015