No themes applied yet
1Mae’r un sy’n cadw ar wahân yn plesio ei hun,
ac yn gwrthod unrhyw gyngor doeth.
2Does gan ffŵl ddim awydd o gwbl i ddeall,
dim ond lleisio’i farn ei hun.
3Mae dirmyg yn dilyn y drwg,
a gwawdio yn dilyn gwarth.
4Mae geiriau rhywun fel dŵr dwfn –
ffynnon o ddoethineb fel nant yn llifo.
5Dydy dangos ffafr at yr euog ddim yn beth da,
na gwrthod cyfiawnder i’r dieuog.
6Mae geiriau ffŵl yn achosi ffrae;
mae’n gofyn am drwbwl!
7Mae siarad ffŵl yn arwain i ddinistr;
mae’n cael ei rwydo gan ei eiriau ei hun.
8Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus –
mae’r cwbl yn cael ei lyncu.
9Mae’r un sy’n ddiog yn ei waith
yn perthyn yn agos i’r fandal.
10Mae enw’r ARGLWYDD fel tŵr solet;
mae’r rhai sy’n byw’n iawn yn rhedeg ato i fod yn saff.
11Ond caer ddiogel y cyfoethog ydy ei gyfoeth;
mae’n dychmygu ei fod yn wal uchel i’w amddiffyn.
12Cyn i’r chwalfa ddod roedd digon o frolio;
gostyngeiddrwydd sy’n arwain i anrhydedd.
13Mae ateb rhywun yn ôl cyn gwrando arno
yn beth dwl i’w wneud, ac yn dangos diffyg parch.
14Gall ysbryd rhywun ei gynnal drwy afiechyd;
ond mae iselder ysbryd yn faich trwm i’w gario.
15Mae’r person call am ddysgu mwy,
ac mae’r doeth yn chwilio am wybodaeth.
16Mae rhoi rhodd i rywun yn agor drysau
i gyfarfod pobl bwysig.
17Mae’r cyntaf i gyflwyno ei dystiolaeth yn ymddangos yn iawn
nes i rywun ddod a’i groesholi.
18Mae taflu coelbren yn rhoi terfyn ar ffraeo,
ac yn setlo dadl ffyrnig.
19Mae perthynas wedi digio yn ystyfnig fel caer;
a chwerylon fel barrau i gloi giatiau castell.
20Rhaid i rywun ddysgu byw gyda’i eiriau;
mae dweud y peth iawn yn rhoi boddhad.
21Mae’r tafod yn gallu rhoi bywyd a marwolaeth;
ac mae’r rhai sy’n hoffi siarad yn gorfod byw gyda’u geiriau.
22Mae’r dyn sydd wedi ffeindio gwraig yn hapus;
mae’r ARGLWYDD wedi bod yn dda ato.
23Mae’r person tlawd yn pledio am help,
ond mae’r cyfoethog yn ei ateb yn swta.
24Mae rhai ffrindiau’n gallu brifo rhywun,
ond mae ffrind go iawn yn fwy ffyddlon na brawd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015