No themes applied yet
1Mae’n well bod yn dlawd ac yn onest
nag yn ffŵl sy’n dweud celwydd.
2Dydy sêl heb ddeall ddim yn beth da;
mae’r rhai sydd ar ormod o frys yn colli’r ffordd.
3Ffolineb pobl sy’n difetha’u bywydau,
ond maen nhw’n dal dig yn erbyn yr ARGLWYDD.
4Mae cyfoeth yn denu llawer o ffrindiau,
ond mae ffrind person tlawd yn troi cefn arno.
5Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi;
fydd rhywun sy’n palu celwyddau ddim yn dianc.
6Mae llawer yn crafu i ennill ffafr pobl bwysig,
ac mae pawb eisiau bod yn ffrindiau gyda rhywun hael.
7Mae perthnasau rhywun tlawd eisiau cael gwared ag e;
does dim syndod fod ei ffrindiau’n ei osgoi!
Mae’n gofyn am help, ond does dim ymateb.
8Mae’r person doeth yn caru ei fywyd,
a’r un sy’n gwneud yn siŵr ei fod yn deall yn hapus.
9Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi;
mae wedi darfod ar rywun sy’n palu celwyddau.
10Dydy byw’n foethus ddim yn gweddu i ffŵl;
llai fyth, caethwas yn rheoli ei feistr.
11Mae rhywun call yn rheoli ei dymer;
mae i’w ganmol am faddau i rywun sy’n pechu yn ei erbyn.
12Mae brenin dig fel llew yn rhuo,
ond mae ei ffafr fel gwlith ar laswellt.
13Mae plentyn ffôl yn achosi trafferthion i’w dad,
a gwraig sy’n swnian fel dŵr yn diferu’n ddi-baid.
14Mae plant yn etifeddu tŷ ac eiddo gan eu rhieni,
ond yr ARGLWYDD sy’n rhoi gwraig ddoeth.
15Mae diogi yn achosi trwmgwsg;
bydd y person diog yn llwgu.
16Mae’r sawl sy’n cadw’r gorchmynion yn cael byw,
ond bydd yr un sy’n diystyru ei ffyrdd yn marw.
17Mae rhoi yn hael i’r tlawd fel benthyg i’r ARGLWYDD;
bydd e’n talu’n ôl iddo am fod mor garedig.
18Disgybla dy blentyn tra mae gobaith iddo,
ond paid colli dy limpin yn llwyr.
19Mae’r un sy’n fyr ei dymer yn gorfod talu’r pris;
os wyt am ei helpu, byddi’n gorfod gwneud hynny fwy nag unwaith.
20Gwrando ar gyngor, a bydd barod i dderbyn cerydd,
a byddi’n ddoeth yn y diwedd.
21Mae gan bobl bob math o gynlluniau,
ond cynllun yr ARGLWYDD fydd yn cael ei gyflawni.
22Mae ffyddlondeb yn beth dymunol mewn person;
gwell bod yn dlawd na dweud celwydd.
23Mae parchu’r ARGLWYDD yn arwain i fywyd;
mae person felly yn dawel ei feddwl, ac yn ofni dim drwg.
24Mae’r diogyn yn estyn am fwyd,
ond yn rhy ddiog i’w godi at ei geg!
25Cura’r un sy’n gwawdio, a bydd y gwirion yn dysgu gwers;
cywira rywun call a bydd yn dysgu mwy fyth.
26Mae plentyn sy’n dwyn oddi ar ei dad ac yn gyrru ei fam o’i chartref
yn achos cywilydd a gwarth.
27Fy mab, os byddi’n stopio gwrando pan wyt ti’n cael dy gywiro,
byddi wedi troi dy gefn ar ddoethineb.
28Mae tyst sy’n twyllo yn dibrisio cyfiawnder,
a phobl ddrwg wrth eu boddau gyda chelwydd.
29Bydd y rhai sy’n gwawdio yn cael eu cosbi
a’r ffyliaid yn cael eu curo.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015