No themes applied yet
1Pan wyt ti’n eistedd i lawr i fwyta gyda llywodraethwr,
gwylia’n ofalus sut rwyt ti’n ymddwyn;
2dal yn ôl, paid llowcio dy fwyd.
3Paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion,
mae’n siŵr ei fod e eisiau rhywbeth gen ti!
4Paid lladd dy hun yn ceisio gwneud arian;
bydd yn ddigon call i ymatal.
5Cyn i ti droi rownd mae e wedi mynd!
Mae’n magu adenydd ac yn hedfan i ffwrdd fel eryr.
6Paid bwyta wrth fwrdd person cybyddlyd;
paid stwffio dy hun gyda’i ddanteithion.
7Mae e’n cadw cyfri o bopeth wyt ti’n ei fwyta!
Mae’n dweud, “Tyrd, bwyta ac yfed faint fynni di,”
ond dydy e ddim yn meddwl hynny go iawn.
8Byddi’n chwydu’r ychydig rwyt wedi’i fwyta,
ac wedi gwastraffu dy eiriau caredig.
9Paid dweud gormod wrth ffŵl;
fydd e’n gwneud dim ond gwawdio dy eiriau doeth di.
10Paid symud yr hen ffiniau,
a dwyn tir oddi ar yr amddifad;
11mae’r Un sy’n eu hamddiffyn nhw yn gryf,
a bydd yn cymryd eu hachos yn dy erbyn di.
12Penderfyna dy fod eisiau dysgu
a gwrando ar eiriau doeth.
13Paid bod ag ofn disgyblu dy blentyn;
dydy gwialen ddim yn mynd i’w ladd e.
14Defnyddia’r wialen
a byddi’n achub ei fywyd.
15Fy mab, os dysgi di fod yn ddoeth,
bydda i’n hapus iawn.
16Bydda i wrth fy modd
yn dy glywed di’n dweud beth sy’n iawn.
17Paid cenfigennu wrth y rhai sy’n pechu –
bydd di’n ffyddlon i Dduw bob amser.
18Wedyn bydd pethau’n iawn yn y diwedd,
a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi.
19Gwranda, fy mab, a bydd ddoeth;
penderfyna ddilyn y ffordd iawn.
20Paid cael gormod i’w wneud gyda’r rhai sy’n goryfed,
ac yn stwffio’u hunain hefo bwyd.
21Bydd y rhai sy’n meddwi a gorfwyta yn mynd yn dlawd;
fydd ganddyn nhw ddim egni, a byddan nhw mewn carpiau.
22Gwranda ar dy dad, ddaeth â ti i’r byd;
a phaid diystyru dy fam pan fydd hi’n hen.
23Gafael yn y gwirionedd, a phaid â’i ollwng,
doethineb hefyd, a disgyblaeth a deall!
24Os ydy plentyn yn gwneud beth sy’n iawn
bydd ei dad mor hapus;
mae plentyn doeth yn rhoi’r fath bleser i’w rieni.
25Bydd dy dad a dy fam wrth eu boddau;
felly gwna’r un ddaeth â ti i’r byd yn hapus!
26Dw i eisiau dy sylw di, fy mab;
gwylia’n ofalus, a dysga gen i.
27Mae putain fel pwll dwfn,
a gwraig anfoesol fel pydew cul.
28Mae hi’n disgwyl amdanat ti fel lleidr;
ac yn gwneud mwy a mwy o ddynion yn anffyddlon i’w gwragedd.
29Pwy sy’n teimlo’n wael ac yn druenus?
Pwy sy’n ffraeo ac yn dadlau drwy’r adeg?
Pwy sy’n cael damweiniau diangen?
Pwy sydd â llygaid cochion?
30Y rhai sy’n yfed i’r oriau mân,
ac yn trio rhyw ddiod newydd o hyd.
31Paid llygadu’r gwin coch yna
sy’n edrych mor ddeniadol yn y gwydr
ac yn mynd i lawr mor dda.
32Bydd yn dy frathu fel neidr yn y diwedd;
bydd fel brathiad gwiber.
33Byddi’n gweld pethau rhyfedd,
a bydd dy feddwl wedi drysu’n lân.
34Bydd fel mynd i dy wely mewn storm ar y môr,
neu geisio gorwedd i gysgu ar ben yr hwylbren.
35“Ces fy nharo, ond wnes i deimlo dim byd;
ces fy nghuro, ond dw i’n cofio dim am y peth.
Pryd dw i’n mynd i sobri?
– Dw i angen diod arall.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015