No themes applied yet
Cyngor i bobl ifanc
1Fy mab, paid anghofio beth dw i’n ei ddysgu i ti;
cadw’r pethau dw i’n eu gorchymyn yn dy galon.
2Byddi’n byw yn hirach ac yn cael blynyddoedd da;
bydd eu dilyn nhw yn gwneud byd o les i ti.
3Bydd yn garedig ac yn ffyddlon bob amser;
clyma bethau felly fel cadwyn am dy wddf,
ysgrifenna nhw ar lech ar dy galon.
4Yna byddi’n cael dy dderbyn, ac yn cael enw da
gan Dduw a chan bobl eraill.
5Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr;
paid dibynnu ar dy syniadau dy hun.
6Gwrando arno fe bob amser,
a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti.
7Paid meddwl dy fod ti’n glyfar;
dangos barch at yr ARGLWYDD
a throi dy gefn ar ddrygioni.
8Bydd byw felly’n cadw dy gorff yn iach,
ac yn gwneud byd o les i ti.
9Defnyddia dy gyfoeth i anrhydeddu’r ARGLWYDD;
rho siâr cyntaf dy gnydau iddo fe.
10Wedyn bydd dy ysguboriau yn llawn,
a dy gafnau yn llawn o sudd grawnwin.
11Fy mab, paid diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD,
na thorri dy galon pan mae e’n dy gywiro di.
12Achos mae’r ARGLWYDD yn disgyblu’r rhai mae’n eu caru,
fel mae tad yn cosbi’r plentyn mae mor falch ohono.
13Y fath fendith sydd i’r sawl sy’n darganfod doethineb,
ac yn llwyddo i ddeall.
14Mae’n gwneud mwy o elw nag arian,
ac yn talu’n ôl lawer mwy nag aur.
15Mae hi’n fwy gwerthfawr na gemau;
does dim trysor tebyg iddi.
16Mae bywyd llawn yn ei llaw dde,
a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.
17Mae ei ffyrdd yn llawn haelioni,
a’i llwybrau yn arwain i heddwch a diogelwch.
18Mae hi fel coeden sy’n rhoi bywyd i’r rhai sy’n gafael ynddi,
ac mae’r rhai sy’n dal gafael ynddi mor hapus!
19Doethineb yr ARGLWYDD osododd sylfeini’r ddaear;
a’i ddeall e wnaeth drefnu’r bydysawd.
20Ei drefn e wnaeth i’r ffynhonnau dŵr dorri allan,
ac i’r awyr roi dafnau o wlith.
21Fy mab, paid colli golwg ar gyngor doeth a’r ffordd iawn;
dal dy afael ynddyn nhw.
22Byddan nhw’n rhoi bywyd i ti
ac yn addurn hardd am dy wddf.
23Yna byddi’n cerdded drwy fywyd
yn saff a heb faglu.
24Pan fyddi’n gorwedd i lawr, fydd dim byd i’w ofni;
byddi’n gorwedd ac yn gallu cysgu’n braf.
25Fydd gen ti ddim ofn yr annisgwyl,
na’r drychineb sy’n dod ar bobl ddrwg.
26Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi hyder i ti;
bydd e’n dy gadw di rhag syrthio i drap.
27Pan fydd gen ti’r cyfle i helpu rhywun,
paid gwrthod gwneud cymwynas â nhw.
28Paid dweud wrth rywun, “Tyrd yn ôl rywbryd eto;
bydda i’n dy helpu di yfory,” a thithau’n gallu gwneud hynny’n syth.
29Paid meddwl gwneud drwg i rywun
pan mae’r person yna’n dy drystio di.
30Paid codi ffrae gyda rhywun am ddim rheswm,
ac yntau heb wneud dim drwg i ti.
31Paid bod yn genfigennus o rywun sy’n cam-drin pobl eraill,
na dilyn ei esiampl.
32Mae’n gas gan yr ARGLWYDD bobl sy’n twyllo,
ond mae ganddo berthynas glòs gyda’r rhai sy’n onest.
33Mae melltith yr ARGLWYDD ar dai pobl ddrwg,
ond mae e’n bendithio cartrefi’r rhai sy’n byw’n iawn.
34Mae e’n dirmygu’r rhai sy’n gwawdio pobl eraill,
ond yn hael at y rhai gostyngedig.
35Bydd pobl ddoeth yn cael eu canmol,
ond y rhai dwl yn cael eu cywilyddio.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015