No themes applied yet
Paid bod yn ffŵl
1Fy mab, dywed dy fod wedi gwarantu benthyciad rhywun,
ac wedi cytuno i dalu ei ddyledion.
2Os wyt mewn picil, wedi dy ddal gan dy eiriau
ac wedi dy rwymo gan beth ddwedaist ti,
3dyma ddylet ti ei wneud i ryddhau dy hun
(achos rwyt ti wedi chwarae i ddwylo’r person arall):
dos ato i bledio am gael dy ryddhau. Dos, a’i blagio!
4Paid oedi! – Dim cwsg na gorffwys
nes bydd y mater wedi’i setlo.
5Achub dy hun, fel carw yn dianc rhag yr heliwr,
neu aderyn yn dianc o law’r adarwr.
Paid bod yn ddiog
6Ti’r diogyn, edrych ar y morgrugyn;
astudia’i ffyrdd, a dysga sut i fod yn ddoeth.
7Does ganddo ddim arweinydd,
swyddog, na rheolwr,
8ac eto mae’n mynd ati i gasglu bwyd yn yr haf,
a storio’r hyn sydd arno’i angen adeg y cynhaeaf.
9Am faint wyt ti’n mynd i orweddian yn dy wely, y diogyn?
Pryd wyt ti’n mynd i ddeffro a gwneud rhywbeth?
10“Ychydig bach mwy o gwsg,
pum munud arall!
Swatio’n gyfforddus yn y gwely am ychydig.”
11Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon;
bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog!
Beth sy’n digwydd i bobl ddrwg
12Dydy’r un sy’n mynd o gwmpas yn twyllo
yn ddim byd ond cnaf drwg!
13Mae’n wincio ar bobl drwy’r adeg,
mae ei draed yn aflonydd,
ac mae’n pwyntio bys at bawb.
14Ei unig fwriad ydy creu helynt!
Mae wastad eisiau dechrau ffrae.
15Bydd trychineb annisgwyl yn ei daro!
Yn sydyn bydd yn torri, a fydd dim gwella arno!
16Dyma chwe peth mae’r ARGLWYDD yn eu casáu;
ac un arall sy’n ffiaidd ganddo:
17llygaid balch, tafod celwyddog,
dwylo sy’n tywallt gwaed pobl ddiniwed,
18calon sy’n cynllwynio drwg,
traed sy’n brysio i wneud drwg,
19tyst sy’n dweud celwydd,
a rhywun sy’n dechrau ffrae mewn teulu.
Rhybudd rhag anfoesoldeb rhywiol
20Fy mab, gwna beth orchmynnodd dy dad i ti;
paid troi dy gefn ar beth ddysgodd dy fam i ti.
21Cadw nhw ar flaen dy feddwl bob amser;
gwisga nhw fel cadwyn am dy wddf.
22Ble bynnag fyddi di’n mynd, byddan nhw’n dy arwain di;
pan fyddi’n gorwedd i orffwys, byddan nhw’n edrych ar dy ôl di;
pan fyddi di’n deffro, byddan nhw’n rhoi cyngor i ti.
23Mae gorchymyn fel lamp,
a dysgeidiaeth fel golau,
ac mae cerydd a disgyblaeth yn arwain i fywyd.
24Bydd yn dy gadw rhag y ferch ddrwg,
a rhag y wraig anfoesol.
25Paid gadael i’r awydd i’w chael hi afael ynot ti,
na gadael iddi hi dy drapio di drwy fflyrtian â’i llygaid.
26Mae putain yn dy adael gyda dim ond torth o fara;
ond mae gwraig dyn arall yn cymryd popeth – gall gostio dy fywyd!
27Ydy dyn yn gallu cario marwor poeth yn ei boced
heb losgi ei ddillad?
28Ydy dyn yn gallu cerdded ar farwor
heb losgi ei draed?
29Mae cysgu gyda gwraig dyn arall yr un fath;
does neb sy’n gwneud hynny yn osgoi cael ei gosbi.
30Does neb yn dirmygu lleidr
sy’n dwyn am fod eisiau bwyd arno.
31Ond os ydy e’n cael ei ddal, rhaid iddo dalu’n llawn;
bydd yn colli popeth sydd ganddo.
32Does gan y rhai sy’n godinebu ddim sens o gwbl;
dim ond rhywun sydd am ddinistrio’i hun sy’n gwneud peth felly.
33Bydd yn cael ei guro a’i gam-drin;
a fydd y cywilydd byth yn ei adael.
34Bydd gŵr y wraig yn wyllt gynddeiriog;
fydd e’n dangos dim trugaredd pan ddaw’r cyfle i ddial.
35Fydd e ddim yn fodlon ystyried unrhyw iawndal;
bydd yn gwrthod dy arian, faint bynnag wnei di ei gynnig iddo.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015