No themes applied yet
Ffolineb bod yn anffyddlon
1Fy mab, gwna beth dw i’n ddweud,
a thrysori’r hyn dw i’n ei orchymyn.
2Gwna beth dw i’n ei orchymyn, i ti gael bywyd da;
paid tynnu dy lygad oddi ar y pethau dw i’n eu dysgu.
3Cadw nhw fel modrwy ar dy fys;
ysgrifenna nhw ar lech dy galon.
4Dwed wrth ddoethineb, “Ti fel chwaer i mi,”
a gwna gyngor doeth yn ffrind gorau.
5Bydd yn dy warchod di rhag y wraig anfoesol;
rhag yr un lac ei moesau sy’n fflyrtian drwy’r adeg.
6Rôn i’n sefyll yn y tŷ,
ac yn edrych allan drwy’r ffenest.
7Gwelais fachgen ifanc a dim sens ganddo
gyda chriw gwyllt o bobl ifanc.
8Roedd yn croesi’r stryd at y groesffordd
sy’n arwain at ei thŷ hi.
9Roedd hi’n hwyr yn y dydd,
ac yn dechrau nosi a thywyllu.
10Yn sydyn, dyma’r wraig yn dod allan i’w gyfarfod,
wedi’i gwisgo fel putain – roedd ei bwriad hi’n amlwg.
11(Dynes swnllyd, ddigywilydd,
sydd byth yn aros adre.
12Ar y stryd un funud, yn y sgwâr y funud nesa,
yn loetran ar bob cornel.)
13Mae hi’n gafael yn y bachgen a’i gusanu,
ac yn dweud yn bowld:
14“Tyrd, mae gen i fwyd adre – cig yr offrwm rois i;
dw i wedi gwneud popeth oedd ei angen.
15A dyma fi, wedi dod allan i dy gyfarfod di –
roeddwn i’n edrych amdanat ti, a dyma ti!
16Dw i wedi paratoi’r gwely!
Mae yna gynfasau glân arno,
a chwilt lliwgar, hyfryd o’r Aifft.
17Mae’n arogli’n hyfryd o bersawr –
myrr, aloes, a sinamon.
18Tyrd, gad i ni ymgolli mewn pleserau rhywiol;
mwynhau ein hunain yn caru drwy’r nos.
19Dydy’r gŵr ddim adre –
mae e wedi mynd ar daith bell.
20Mae e wedi mynd gyda’i arian, ar fusnes,
a fydd e ddim yn ôl tan ddiwedd y mis.”
21Dyma hi’n llwyddo i’w berswadio;
roedd wedi’i ddenu gyda’i fflyrtian.
22Dyma’r llanc yn mynd ar ei hôl ar unwaith,
fel ych yn mynd i’r lladd-dy,
neu garw yn neidio i drap
23cyn i saeth ei drywanu!
Roedd fel aderyn wedi hedfan yn syth i’r rhwyd,
heb sylweddoli ei fod yn mynd i golli ei fywyd.
24Nawr gwrandwch arna i, fechgyn;
gwrandwch yn ofalus ar beth dw i’n ddweud:
25peidiwch hyd yn oed meddwl amdani;
peidiwch mynd yn agos ati.
26Mae hi wedi achosi i lawer un syrthio;
mae yna fyddin o ddynion cryf wedi diodde!
27Mae ei thŷ hi yn draffordd i’r bedd,
a’i ystafell wely yn siambr marwolaeth!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015