No themes applied yet
Cân o fawl i’r Crëwr
1Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD!
O ARGLWYDD, fy Nuw, rwyt ti mor fawr!
Rwyt wedi dy wisgo ag ysblander ac urddas.
2Mae clogyn o oleuni wedi’i lapio amdanat.
Ti wnaeth ledu’r awyr fel pabell uwch ein pennau.
3Ti wnaeth osod trawstiau dy balas yn uwch fyth,
a gwneud dy gerbyd o’r cymylau
i deithio ar adenydd y gwynt.
4Ti sy’n gwneud y gwyntoedd yn negeswyr i ti,
a fflamau o dân yn weision.
5Ti wnaeth osod y ddaear ar ei sylfeini,
er mwyn iddi beidio gwegian byth.
6Roedd y dyfroedd dwfn yn ei gorchuddio fel gwisg;
roedd dŵr uwchben y mynyddoedd.
7Ond dyma ti’n gweiddi, a dyma nhw’n ffoi,
a rhuthro i ffwrdd rhag dy daranau swnllyd;
8cododd y mynyddoedd, suddodd y dyffrynnoedd
ac aeth y dŵr i’r lle roeddet ti wedi’i baratoi iddo.
9Gosodaist ffiniau allai’r moroedd mo’u croesi,
i’w rhwystro rhag gorchuddio’r ddaear byth eto.
10Ti sy’n gwneud i nentydd lifo rhwng yr hafnau,
a ffeindio’u ffordd i lawr rhwng y mynyddoedd.
11Mae’r anifeiliaid gwyllt yn cael yfed,
a’r asynnod gwyllt yn torri eu syched.
12Mae adar yn nythu wrth eu hymyl
ac yn canu yng nghanol y dail.
13Ti sy’n dyfrio’r mynyddoedd o dy balas uchel.
Ti’n llenwi’r ddaear â ffrwythau.
14Ti sy’n rhoi glaswellt i’r gwartheg,
planhigion i bobl eu tyfu
iddyn nhw gael bwyd o’r tir –
15gwin i godi calon,
olew i roi sglein ar eu hwynebau,
a bara i’w cadw nhw’n fyw.
16Mae’r coed anferth yn cael digon i’w yfed –
y cedrwydd blannodd yr ARGLWYDD yn Libanus
17lle mae’r adar yn nythu,
a’r coed pinwydd ble mae’r storc yn cartrefu.
18Mae’r mynyddoedd uchel yn gynefin i’r geifr gwyllt,
a’r clogwyni yn lloches i’r brochod.
19Ti wnaeth y lleuad i nodi’r tymhorau,
a’r haul, sy’n gwybod pryd i fachlud.
20Ti sy’n dod â’r tywyllwch iddi nosi,
pan mae anifeiliaid y goedwig yn dod allan.
21Mae’r llewod yn rhuo am ysglyfaeth
ac yn gofyn i Dduw am eu bwyd.
22Wedyn, pan mae’r haul yn codi,
maen nhw’n mynd i’w ffeuau i orffwys.
23A dyna pryd mae pobl yn deffro,
a mynd allan i weithio nes iddi nosi.
24O ARGLWYDD, rwyt wedi creu
cymaint o wahanol bethau!
Rwyt wedi gwneud y cwbl mor ddoeth.
Mae’r ddaear yn llawn o dy greaduriaid di!
25Draw acw mae’r môr mawr sy’n lledu i bob cyfeiriad,
a phethau byw na ellid byth eu cyfri ynddo –
creaduriaid bach a mawr.
26Mae’r llongau’n teithio arno,
a’r morfil104:26 morfil Hebraeg, Lefiathan. a greaist i chwarae ynddo.
27Maen nhw i gyd yn dibynnu arnat ti
i roi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen.
28Ti sy’n ei roi a nhw sy’n ei fwyta.
Ti’n agor dy law ac maen nhw’n cael eu digoni.
29Pan wyt ti’n troi dy gefn arnyn nhw, maen nhw’n dychryn.
Pan wyt ti’n cymryd eu hanadl oddi arnyn nhw,
maen nhw’n marw ac yn mynd yn ôl i’r pridd.
30Ond pan wyt ti’n anadlu, maen nhw’n cael eu creu,
ac mae’r tir yn cael ei adfywio.
31Boed i ysblander yr ARGLWYDD gael ei weld am byth!
Boed i’r ARGLWYDD fwynhau’r cwbl a wnaeth!
32Dim ond iddo edrych ar y ddaear, mae hi’n crynu!
Pan mae’n cyffwrdd y mynyddoedd, maen nhw’n mygu!
33Dw i’n mynd i ganu i’r ARGLWYDD tra bydda i byw,
moli fy Nuw ar gerddoriaeth tra bydda i.
34Boed i’m myfyrdod ei blesio.
Dw i’n mynd i fod yn llawen yn yr ARGLWYDD.
35Boed i bechaduriaid gael eu dinistrio o’r tir,
ac i bobl ddrwg beidio â bod ddim mwy.
Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD!
Haleliwia!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015