No themes applied yet
Canmol y Deml
Cân yr orymdaith.
1O ARGLWYDD, paid anghofio Dafydd.
Roedd e wedi cael amser mor galed.
2Roedd e wedi addo i’r ARGLWYDD
a thyngu llw i Un Cryf Jacob:
3“Dw i ddim am fynd i’r tŷ,
na dringo i’m gwely;
4dw i ddim am adael i’m llygaid orffwys,
na chau fy amrannau,
5nes dod o hyd i le i’r ARGLWYDD,
ie, rhywle i Un Cryf Jacob fyw.”
6Clywson fod yr Arch yn Effrata;
a dod o hyd iddi yng nghefn gwlad Jaar.132:6 Jaar Cyfeiriad at Ciriath-iearîm (gw. 1 Samuel 6:21–7:2).
7Gadewch i ni fynd i mewn i’w dabernacl,
ac ymgrymu wrth ei stôl droed!132:7 1 Cronicl 28:2
8O ARGLWYDD, dos i fyny i dy deml
gyda dy Arch bwerus!
9Boed i dy offeiriaid wisgo cyfiawnder,
boed i’r rhai sy’n ffyddlon i ti weiddi’n llawen!
10Paid troi cefn ar yr un rwyt wedi’i eneinio
o achos Dafydd dy was.
11Roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Dafydd
– aeth ar ei lw, a dydy e ddim yn torri ei air –
“Dw i’n mynd i osod un o dy ddisgynyddion di ar dy orsedd.
12Os bydd dy feibion yn cadw’r ymrwymiad wnaethon ni
a’r amodau dw i wedi’u gosod iddyn nhw,
bydd dy linach frenhinol yn para am byth.”
13Mae’r ARGLWYDD wedi dewis Seion;
mae e wedi penderfynu aros yno.
14“Dyma lle bydda i’n gorffwys am byth,” meddai,
“dw i’n mynd i deyrnasu yma. Ie, dyna dw i eisiau.
15Dw i’n mynd i’w gwneud hi’n ddinas lwyddiannus,
a rhoi digonedd o fwyd i’r rhai anghenus ynddi.
16Dw i’n mynd i roi achubiaeth yn wisg i’w hoffeiriaid,
a bydd ei rhai ffyddlon yn gweiddi’n llawen!
17Dw i’n mynd i godi olynydd cryf i Dafydd;
bydd fel lamp wedi’i rhoi i oleuo’r bobl.
18Bydda i’n gwisgo ei elynion mewn cywilydd,
ond bydd coron yn disgleirio ar ei ben e.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015